Mae gan Singh Jasminder Bal glip ar-lein ohono’i hun yn cael y gorau ar gôl-geidwad, sydd wedi’i wylio fwy na 12,000 o weithiau, ond mae’n dal i gredu mai fel hyfforddwr y bydd yn cael yr effaith fwyaf.
Mae’r fideo o’r chwaraewr gyda Chlwb Hoci Penarth – yn fflicio’r bêl i fyny gyda’i ffon yn gwbl ddidaro ac yn ei thapio, gyda’i gefn at y gôl, dros ben y gôl-geidwad sy’n chwifio ei freichiau – yn drawiadol ac yn werth ei wylio ar Twitter.
Ond felly hefyd y siwrnai hyfforddi mae’r llanc 27 oed wedi’i dilyn. Yn ddiweddar mae wedi’i benodi fel hyfforddwr datblygu ar gyfer bechgyn D16 a D18 Cymru, ochr yn ochr ag Ieuan Bartlett.
Weithiau mewn chwaraeon, mae chwaraewyr yn teimlo tynfa hyfforddi ymhell cyn ei bod yn amser iddynt roi eu styds, eu raced neu eu ffon hoci i gadw, ac mae Jasminder – a symudodd i Gymru 10 mlynedd yn ôl o Hong Kong – yn un o’r rhai hynny.
Roedd Jose Mourinho eisiau hyfforddi yn ei 20au yn ôl y sôn, trodd Wayne Pivac at hyfforddi yn 28 oed yn dilyn problemau gyda’i ben-glin, dim ond 20 oed oedd Mike Hesson o Seland Newydd – un o’r hyfforddwyr criced mwyaf llwyddiannus ar hyn o bryd – pan benderfynodd addysgu eraill am sut i ddefnyddio bat yn hytrach na chydio yn y bat ei hun.
Athletau oedd cariad cyntaf Jasminder, a’r naid uchel yn benodol, ond wedyn newidiodd at hoci ar ôl dwy flynedd o ymgolli yn y busnes teuluol ar ôl cyrraedd i Gymru i ddechrau.
Ymunodd â Chlwb Hoci Llanisien a Chaerffili a phan oeddent yn brin o hyfforddwyr, penderfynodd estyn am ei dracwsig a’i chwiban a dechrau cymryd rhan.