I nodi mis Pride, dyma gipolwg ar sut mae'r clwb beicio cynhwysol 'Out Velo' yn dod â phobl at ei gilydd ledled y DU i fwynhau anturiaethau beicio wyneb yn wyneb, ac ar-lein.
Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried eu hunain yn LHDTC+ i ymuno â nhw hefyd.
Mae'r sefydliad yn cynnal penwythnosau beicio ffordd a theithiau dydd ledled y DU, yn aml mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac maen nhw hefyd yn trefnu teithiau grŵp dramor.
Mae tirweddau hardd Cymru yn sicr yn cynnig maes chwarae daearyddol deinamig i lawer o feicwyr, ond gall mynd i ddigwyddiadau Out Velo fod yn her i rai oherwydd cyfyngiadau cysylltiadau trafnidiaeth wledig. Fodd bynnag, mae Out Velo wedi dod o hyd i ffordd o gysylltu pobl drwy gydlynu reidiau grŵp ar Zwift, y rhaglen hyfforddiant beicio corfforol a rhedeg aml-chwaraewr ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i ryngweithio, hyfforddi a chystadlu mewn byd rhithwir. Mae hyn yn eu galluogi i gynnig profiad beicio gwirioneddol gynhwysol fel nad yw aelodau'n teimlo eu bod yn colli allan.
Pam clwb beicio LHDTQ+?
Dywedodd David Sharpe, cyd-sylfaenydd Out Velo: "Mae pobl LHDTQ+ yn dal i wynebu llawer o heriau. Mae astudiaethau wedi dangos eu bod nhw’n llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a'u bod yn llawer mwy tebygol o gael trafferth gydag iechyd meddwl. Mae'r gefnogaeth gymunedol sydd wedi cael ei chynnig yn hanesyddol ar y 'sin' yn ninasoedd mawr y DU bellach i'w chael yn bennaf mewn clybiau chwaraeon a chymdeithasol LHDTQ+, ac rydyn ni'n credu y bydd lle i'r rhain bob amser, gan greu gofod lle gall pobl uniaethu â'i gilydd mewn cyd-destun y tu hwnt i'r apiau a'r bariau.”
Ychwanegodd: "Mae'r sgyrsiau sy'n digwydd o fewn ein digwyddiadau ni’n amlwg yn wahanol i'r rhai mewn clwb beicio traddodiadol. Mae pobl yn siarad am eu perthnasoedd, eu gwaith ac agweddau eraill ar fywyd mewn amgylchedd agored a chynhwysol, gan rannu'r hyn nad yw'n cael ei rannu'n aml. Rydyn ni'n siarad yn agored am iechyd meddwl a phenderfyniadau anodd bywyd. Rydyn ni hefyd yn siarad am feicio wrth gwrs, ac yn benodol pa anturiaethau rydyn ni'n eu cynllunio nesaf."
Yr her o ddod â phobl LHDTC+ at ei gilydd ledled Cymru
Yn Llundain yn enwedig, mae beicio a chwaraeon LHDTC+ yn gyffredinol yn llwyddiannus, ond mae hyn yn llai amlwg mewn ardaloedd mwy anghysbell. Yng nghefn gwlad Cymru, oherwydd arwahanrwydd daearyddol, mae Out Velo wedi gweld ei bod hi'n gallu bod yn anodd i bobl LHDTC+ gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig chwaraeon penodol i LHDTC+, a mwynhau'r manteision.
Dywedodd David: "Dyma un o'r prif heriau y mae Out Velo yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Gan ddysgu gan ein ffrindiau yn Outdoor Lads, sydd wedi gwneud Cymru yn ganolfan allweddol ers blynyddoedd lawer, rydyn ni'n cynnal penwythnosau beicio ffordd ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni wedi cael pobl o mor bell i ffwrdd ag Ynys Môn, Sir Benfro a'r Gororau yn ymuno â ni am deithiau beic mewn rhannau eraill o Gymru, ac mewn rhai achosion, wedi arwain y rhai o weddill Cymru a'r DU o amgylch eu hardal enedigol, gan roi cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl LHDTC+ eraill o bob cwr a mwynhau'r tirweddau anhygoel sydd gan Gymru i'w cynnig.”