Main Content CTA Title

Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Beth all eich clwb chwaraeon gael cyllid ar ei gyfer gyda’r Grant Arbed Ynni?

O gadw eich hen glwb yn gynnes yn ystod y gaeaf i dorri biliau trydan gyda phaneli solar, mae mwy a mwy o glybiau chwaraeon yng Nghymru yn uwchraddio i ddod yn fwy effeithlon ac arbed arian ar filiau.

Diolch i'r Grant Arbed Ynni, gallai eich clwb gael hyd at £25,000 i gyllido gwelliannau arbed ynni sy'n gwneud gwahaniaeth.

Dyma 7 ffordd i uwchraddio y gallwch chi eu gwneud yn eich clwb chwaraeon i ddod yn wyrddach a lleihau eich biliau.

Ffenestri a drysau

Cadwch y drafftiau oer draw drwy ailosod hen ffenestri a drysau yn eich clwb chwaraeon. Bydd eich adeilad yn aros yn gynnes ac yn gyfforddus, gan arbed arian ar wresogi.

Fe wnaeth Clwb Tennis y Drenewydd, gyda Grant Arbed Ynni o £2,866, yn union hynny. 

Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n clwb ni. Nawr rydyn ni’n fwy effeithlon o ran ynni.
Christine Hartland

Gall yr arian oedd yn gadael drwy ffenestri a drysau eu hen glwb pren fynd yn ôl i'r clwb nawr. Mae hynny'n golygu bod y plant a'r teuluoedd yn gallu parhau i fwynhau tennis yng nghanolbarth Cymru.

Systemau gwresogi a dŵr poeth

Ydi'r hen foeler sydd gennych chi sy'n gwrthod gweithio o hyd angen ei newid? Gall system wresogi ecogyfeillgar a mwy effeithlon o ran ynni ostwng y biliau yn eich clwb.

Diolch i Grant Arbed Ynni o £25,000, gosododd Clwb Sboncen Maesteg system wresogi newydd yn eu clwb. Gosodwyd goleuadau LED a phaneli solar yno hefyd.

Mae'r grant wedi trawsnewid ein clwb ni. Mae bellach yn oleuach, yn gynhesach, ac yn llawer mwy effeithlon o ran ynni. Rydyn ni’n falch o fod yn un o'r clybiau mwyaf cynaliadwy yn yr ardal.
Rob Evans

Nid yn unig y mae'r arbedion yn cadw'r costau i lawr i'r chwaraewyr sboncen, ond gan fod y clwb hefyd yn cynnal ioga, pŵl, dartiau, boules, a chlwb rhedeg, mae'n helpu i gadw'r gweithgareddau hyn yn fforddiadwy i bawb hefyd.

Inswleiddio

Peidiwch â gadael i'r holl wres drud ddianc drwy'r waliau a'r to! Mae inswleiddio da yn helpu i gadw clybiau’n gynnes ac yn lleihau costau gwresogi.

Defnyddiodd Clwb Rygbi Hwlffordd Grant Arbed Ynni o £12,544 i inswleiddio adeilad y clwb a'i ystafelloedd newid.

Mae biliau ynni rhatach yn golygu y gallwch chi agor eich clwb ar gyfer digwyddiadau yn y gymuned heb orfod poeni am y gorbenion.

Rydyn ni’n ddiolchgar am y grant. Mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Mae ein digwyddiadau ni yn ystod y dydd, gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi'r GIG, bellach yn teimlo'n llawer mwy cyfforddus diolch i gadw gwres yn well.
Graham Dalton

Paneli solar

Oes ffordd well o leihau costau ynni na thrwy gynhyrchu eich pŵer solar eich hun? Mae gosod paneli solar yn eich clwb chwaraeon yn golygu eich bod yn defnyddio ynni adnewyddadwy ac yn gostwng eich costau – y ddau ar yr un pryd.

Roedd Clwb Hwylio Dovey yn gwario tua £1,100 y mis ar ynni. Helpodd Grant Arbed Ynni o £24,581 iddynt osod paneli solar yn eu lle a newid i oleuadau LED.

Mae Clwb Hwylio Dyfi wedi gosod paneli solar
Dim ond pythefnos ers gwneud hynny, rydyn ni eisoes yn gweld canlyniadau gwych. Mae wedi dod yn obsesiwn edrych faint o ynni rydyn ni’n ei gynhyrchu!
Comodor Des George

Gydag 20 o baneli solar a batri Tesla Powerwall, gall y clwb wario llai ar ynni a mwy ar gael pobl i hwylio.

Goleuo

Gall rhywbeth mor fach â newid y bylbiau golau hyd yn oed arbed punnoedd i chi ar eich bil ynni. Gosodwch synwyryddion yn eu lle hefyd ac wedyn ni fydd rhaid i chi boeni os yw rhywun wedi gadael y goleuadau ymlaen.

Holwch Clwb Bowlio Parc Cwmbrân am hyn. Cafodd y clwb Grant Arbed Ynni o £4,850 i osod goleuadau LED gyda synwyryddion yn eu lle, yn ogystal â drysau gwresogi, inswleiddiad ac UPVC newydd.

Roedd y gefnogaeth gawson ni yn rhagorol. Mae'r goleuadau a'r synwyryddion newydd yn edrych yn wych, ac mae'r gwaith wnaethon ni gyda'r grant wedi gwneud byd o wahaniaeth.
Howard Rees

Mae'r clwb eisoes yn gweld defnydd ynni is ac adborth cadarnhaol gan y gymuned.

Datrysiadau dŵr cynaliadwy

Gall cynaeafu dŵr glaw ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o ddŵr i glybiau chwaraeon – yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar lawntiau a chaeau gwych. Mae nid yn unig yn gynaliadwy ond hefyd gall ostwng eich biliau dŵr chi.

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £6,887 i Glwb Criced Gorseinon i osod system cynaeafu dŵr glaw yn ei lle. Fel hyn gallant ddefnyddio'r glaw i ddyfrio eu wiced.

Nawr gall pob tîm yn y clwb, o'r rhai dan 9 oed i dîm criced pêl feddal y merched, chwarae ar gae o ansawdd uchel, heb orfod troi'r tap ymlaen.

Batris storio

Os yw eich paneli solar chi’n cynhyrchu mwy o ynni nag ydych chi'n ei ddefnyddio, gallwch ei storio ar gyfer pan fyddwch ei angen fwyaf. Drwy wneud hynny, bydd heulwen yr haf o ddefnydd da yn ystod y misoedd oerach.

Helpodd Grant Arbed Ynni o £20,269 Glwb Golff Caergybi i osod batris storio yn eu lle ar gyfer ei baneli solar presennol, yn ogystal â boeler newydd sy'n effeithlon o ran ynni.

Roedden ni’n wynebu cynnydd sylweddol mewn costau ynni. Fe helpodd y grant ni i osod batris solar a boeler newydd yn eu lle, gan ein helpu ni i reoli ein gwariant ar gyfleustodau.
Stephen Elliott

Gwneud eich clwb yn gynhesach, yn wyrddach, ac yn fwy fforddiadwy

Mae clybiau ledled Cymru wedi profi y gall newidiadau bach a gefnogir gan y Grant Arbed Ynni leihau biliau, gwella cyfforddusrwydd, a helpu’r amgylchedd.

Ac mae’r cyfan yn bosibl gyda chefnogaeth y Grant Arbed Ynni.

Gwneud cais am y Grant Arbed Ynni:

  • Ceisiadau ar agor: 10am, 21 Mai 2025
  • Dyddiad cau: 3pm, 25 Mehefin 2025
  • Hyd at £25,000 y clwb

Barod i leihau eich biliau a pharatoi eich clwb ar gyfer y dyfodol?