Skip to main content

Padlwyr yn gwarchod eu hamgylchedd chwaraeon

Dylai unrhyw un sy'n ymweld ag Afon Teifi dros y gwanwyn gymeradwyo gwaith Clwb Canŵio Paddlers Llandysul.

Roedd harddwch yr afon a'i chyffiniau dan fygythiad ddechrau eleni wrth i lygredd a sbwriel awgrymu bod pobl wedi’u gwaredu yn anghyfreithlon yn uwch i fyny'r nant o bentref Llandysul yng Ngheredigion.

Fe wnaeth hynny ysgogi aelodau'r clwb canŵio i archwilio ffynhonnell y broblem ac yn fuan fe wnaethon nhw ddarganfod tunelli o ddeunydd lapio silwair du wedi gollwng eu cynnwys i'r afon.

A hwythau'n awyddus i amddiffyn eu dyfrffordd - ac yn ymwybodol o'u rôl yn gofalu am yr amgylchedd - trefnodd canwyr Llandysul eu gwaith glanhau eu hunain, a hynny ar ôl tynnu sylw awdurdodau'r afonydd at y difrod.

Tair sesiwn lanhau galed yn ddiweddarach - a oedd yn cynnwys llenwi canŵs a rafftiau gwag gyda'r sbwriel a mynd ag ef oddi yno - mae'r clwb wedi tynnu dros 10 tunnell o wastraff hyd yma.

"Fe ddechreuon ni ym mis Chwefror a dechrau gyda thair sesiwn lanhau ar ddydd Sadwrn," meddai Gareth Bryant, rheolwr canolfan Llandysul Paddlers.

"Fe ddaeth llawer o wirfoddolwyr i'n helpu ni - mae'n rhaid bod tua 50 o bobl wedi bod yn un o'r sesiynau - mae'n dangos pa mor bryderus ac mewn braw oedd pobl o ran beth oedd yn digwydd yn y rhan yna o'r afon.

Tor calon

"Roedd cyflwr yr afon yn dorcalonnus. Ry'n ni wastad yn sylwi ar ychydig bach o sbwriel ac yn ei lanhau, ond roedd hyn ar lefel wahanol.”

Tynnwyd sylw at faint y broblem a'r difrod i fywyd gwyllt a chynefinoedd pan dynnwyd y silwair, a gwelwyd bod dwsinau o bysgod marw, pysgod yn dal yn fyw ond wedi eu dal yn y deunydd, yn ogystal â chorff chwe dafad wedi marw.

Bu'n rhaid i’r aelodau a'r gwirfoddolwyr dynnu'r cyfan yn glir cyn ei lwytho ar dractorau i'w symud.

"Mae'r ardal nawr yn edrych yn anhygoel eto, ond rydyn ni'n gobeithio bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i ymchwilio ac y byddant yn siarad â ffermwyr lleol, i wneud yn siŵr bod hyn ddim yn digwydd eto," meddai Gareth.

"Ry'n ni'n glwb canŵio, felly'r pryder yw os byddai'n digwydd eto, nad oes gennym ni’r adnoddau a'r oriau i barhau i lanhau'r afon.”

Canŵ-wyr gyda llond cwch o sbwriel ar ôl glanhau'r afon
Mae angen i bob un ohonom weithio'n galed a bod yn wyliadwrus er mwyn diogelu'r dyfrffyrdd hardd sydd gennym.
Phil Stone, Canŵ Cymru

Glanhad Mawr wrth Badlo

Nid canŵio yw'r unig gamp o bell ffordd i fod yn weithgar wrth fynd i'r afael â'r bygythiad y mae llygredd yn ei achosi i gyfranogwyr a'u hamgylcheddau.

Mae hwylio wedi arwain y ffordd wrth dynnu sylw at erchyllterau llygredd plastig, tra bod Surfers Against Sewage hefyd wedi taflu goleuni ar faint o garthion heb eu trin sy’n cael eu golchi i afonydd a moroedd y DU.

Ond prin yw'r chwaraeon sy'n gallu chwarae rhan uniongyrchol wrth nodi'r problemau a'r peryglon a achosir i afonydd Cymru fel y canŵ-wyr a'r caiacwyr sy'n padlo ar draws cannoedd o filltiroedd o ddŵr Cymru bob wythnos.

Dyna pam y lansiodd Canŵ Cymru ei ymgyrch Glanhad Mawr wrth Badlo yn ddiweddar - gyda'r nod o gael gwared ar 500 o sachau o sbwriel o ddyfroedd mewndirol ac arfordirol rhwng Mai 27 a Mehefin 11 eleni.

Mae canŵ-wyr yn cael eu hannog i drefnu gwaith glanhau gydag aelodau a ffrindiau'r clwb, cofnodi'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni a ble, a lledaenu'r gair drwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnodau #BigPaddleCleanUp and #GlanhadMawrWrthBadlo.

Cod Padlwyr

Mae'r rhai sy'n newydd i chwaraeon dŵr - yn enwedig mewn meysydd sy'n tyfu'n gyflym fel padlfyrddio - hefyd yn cael eu hannog i edrych ar "God Padlwyr" newydd y corff rheoli sy'n cynnig cyngor ar sut i badlfyrddio'n gyfrifol a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r gamp.

Mae Phil Stone, Rheolwr Places to Paddle Canŵio Cymru, yn annog y rheini sydd newydd ddechrau padlo i ddysgu beth sy'n ofynnol ac i bawb sydd ar y dŵr helpu i frwydro yn erbyn llygredd.

"Yn anffodus, mae 'na lanast mwy cyffredinol yn ein hafonydd y dyddiau yma," meddai Phil.

"Mae 'na fwy o bryder yn y gymuned padlo ac ymysg defnyddwyr ehangach afonydd - p'un ai a ydych chi'n ymdrochi yn y dŵr neu'n mynd i nofio yn yr awyr agored, yn pysgota neu'n padlo - ein bod ni'n gweld mwy o sbwriel a deunydd yn yr afonydd. 

"Os oes tystiolaeth glir o lygredd, yna dylai canŵ-wyr roi gwybod i linell rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000.

"Fel rhan o’r ymgyrch Glanhad Mawr wrth Badlo, rydym hefyd yn anfon pecynnau glanhau i glybiau sy'n gofyn amdanynt - casglwyr sbwriel, bagiau, cylchoedd bagiau a menig - er mwyn galluogi pobl i gynnal eu sesiynau glanhau eu hunain.”

Y llynedd, cysylltodd dros 30 o glybiau â Chanŵ Cymru yn gofyn am becynnau ac eleni mae disgwyl i'r ffigur yna godi.

"Ar lefel bersonol, rydym hefyd yn gofyn i ganŵ-wyr unigol, os ydych chi'n sylwi ar ddarn o sbwriel ar yr afon, yna gwnewch eich dyletswydd a'i godi. Cofnodwch lle daethoch o hyd iddo a rhoi gwybod drwy'r wefan i’r ymgyrch Glanhad Mawr wrth Badlo.

"Gall pawb wneud eu rhan ac mae yna fentrau amgylcheddol eraill yr ydym yn rhan ohonynt hefyd, fel yr ymgyrch Gwirio, Glanhau, a Sychu er mwyn atal rhywogaethau goresgynnol rhag lledaenu ar ein dyfrffyrdd.

"Mae angen i bob un ohonom weithio'n galed a bod yn wyliadwrus er mwyn diogelu'r dyfrffyrdd hardd sydd gennym.”

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy