Yn ddiweddar, mae un o glybiau rygbi'r gogledd, Clwb Rygbi y Rhyl, wedi gosod paneli solar ar do’r tŷ clwb, ond maen nhw'n gwneud mwy na dim ond sicrhau biliau ynni is.
Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i’r tîm o Sir Ddinbych ym mis Hydref, er mwyn iddo osod paneli solar i help gyda straen yr argyfwng costau byw a gwneud ei ran dros yr amgylchedd ar yr un pryd.
Ychydig yn ôl, roedd ei filiau ynni misol wedi codi'n frawychus o tua £1,800 i £4,500, ond mae'r clwb yn amcangyfrif y bydd y paneli solar yn arbed tua £20,000 y flwyddyn iddo.
Mae'r arbedion yn sgil y newid i ynni solar yn cael eu defnyddio i ariannu sawl gwelliant ac uwchraddiad o amgylch y safle i wneud y gamp yn fwy pleserus. Dros yr haf, bydd pyst newydd yn cael eu gosod yn ogystal â ffens newydd ar gyfer y gwylwyr, tra bydd rhandir garddio yn cael ei greu i fyfyrwyr lleol ddysgu sut i arddio a bydd ardal ailgylchu newydd yn helpu i leihau ôl troed carbon y clwb ymhellach.
Mae diogelwch ariannol gwell Clwb Rygbi y Rhyl hefyd yn golygu y gall barhau i redeg ei Hwb Cymunedol sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl leol.