Skip to main content

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn olygfa gyffredin mewn clybiau ledled y wlad diolch i gyllid gan Chwaraeon Cymru.

Mae cyfanswm o 79 o glybiau chwaraeon ledled y wlad wedi derbyn Grantiau Arbed Ynni yn ystod 2023/24 i helpu i wneud eu cyfleusterau yn fwy ynni-effeithlon.

Bydd y rhan fwyaf o’r clybiau a dderbyniodd grantiau – sy’n dod i gyfanswm o bron i £1.4m – yn defnyddio’u cyllid i osod paneli solar yn eu lle, ac mae’r defnyddiau eraill yn cynnwys gwelliannau inswleiddio, uwchraddio systemau gwresogi a ffynonellau dŵr cynaliadwy.

O Fôn i'r Barri, mae paneli solar yn cael eu croesawu fel ffordd flaengar o leihau biliau ynni clybiau fel eu bod yn gallu dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, a hefyd gwneud eu rhan dros yr amgylchedd.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Chwaraeon Cymru fanylion am sut byddai bron i £1m yn cael ei ddosbarthu i 57 o glybiau a oedd yn llwyddiannus gyda'u ceisiadau am Grantiau Arbed Ynni. Yr wythnos yma, mae 22 o glybiau eraill wedi’u hychwanegu at y rhestr honno ar ôl dyfarnu £362,147 yn ychwanegol.

Roedd y clybiau'n gallu gwneud cais am grantiau hyd at uchafswm o £25,000.

Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Mae llawer o glybiau chwaraeon sy’n gweithredu safleoedd wedi teimlo effaith biliau ynni cynyddol yn ddiweddar, felly rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu cefnogi 80 ohonyn nhw yn ystod y flwyddyn ariannol yma.

“Bydd y mesurau arbed ynni yma’n lleihau biliau ynni clybiau’n sylweddol, gan olygu eu bod yn llawer mwy cynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan eu cymunedau.

“Mae’r argyfwng hinsawdd yn peri pryder mawr i ni hefyd, felly mae’r Grantiau Arbed Ynni yn darparu dull i’w groesawu o leihau ôl troed carbon chwaraeon yng Nghymru.

“Roedd yn rhaid i bob clwb oedd yn gwneud cais am grant gynnal Arolwg Ynni er mwyn i ni allu penderfynu ar y defnydd gorau posibl o gyllid. Er enghraifft, ni fyddai unrhyw bwynt gosod system wresogi newydd mewn clwb sydd â ffenestri hynafol ac inswleiddio gwael.

“Rydyn ni wedi dysgu llawer ein hunain yn ystod y broses yma ac roedd galw mawr iawn gan glybiau am y grantiau yma. Rydw i’n falch felly o gadarnhau y byddwn ni’n sicrhau bod £1.5m arall o Grantiau Arbed Ynni ar gael i glybiau wneud cais amdanyn nhw yn ystod y flwyddyn ariannol newydd, unwaith eto gan ddefnyddio cyllid sydd wedi’i ddyrannu i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd Brian: “Bydd manylion am sut gall clybiau wneud cais am y grantiau ar gael ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ni yn fuan.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths: “Rydw i’n falch o weld y cyllid yma’n cael ei ddyrannu ledled y wlad i ystod eang o glybiau chwaraeon. Wrth i gostau byw a’r gost o wneud busnes barhau’n uchel, mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gefnogi ein clybiau chwaraeon i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol, fel eu bod yn gallu parhau i wasanaethu ein cymunedau ni a chadw pobl yn actif.” 

Ymhlith y 47 o glybiau fydd yn defnyddio eu cyllid i osod paneli solar yn eu lle mae Clwb Criced Porthaethwy. Dyma’r unig glwb criced ar Ynys Môn a bydd yn defnyddio ei grant o £21,055 i ariannu paneli solar yn ogystal â gwydrau trebl ar gyfer pafiliwn y clwb.

Yng Nghaerffili, mae Clwb Bowls Bedwas a Threthomas yn amcangyfrif y bydd eu grant o £9,756 i brynu paneli solar a storfa batris yn arbed swm aruthrol o £74,000 iddyn nhw dros gyfnod o 25 mlynedd.

Mae Clwb Golff yr Wyddgrug ar restr y clybiau diweddaraf i dderbyn grant hefyd. Y llynedd, gosododd y clwb baneli solar sy'n cynhyrchu arbedion ynni da yn eu lle, ond doedd dim digon dros ben i ddefnyddio'r storfa batris a brynwyd ganddynt hefyd.

Nawr, diolch i Grant Arbed Ynni o £13,666, bydd y clwb yn gosod 16 yn rhagor o baneli solar yn eu lle ac yn dyblu ei storfa batris. Mae’n bwriadu defnyddio'r ynni dros ben i wefru ei fflyd o wyth bygi golff, sy’n cael eu defnyddio’n ddyddiol gan aelodau ac ymwelwyr. Bydd ei grant hefyd yn ei alluogi i osod goleuadau LED ynni-effeithlon yn eu lle, yn lle unrhyw oleuadau cyffredin.

Mae Clwb Rygbi Penlan yn Abertawe yn defnyddio ei grant o £11,600 i wneud nifer o welliannau arbed ynni i foderneiddio’r clwb 43 oed. Bydd drysau a ffenestri newydd yn cael eu gosod yn eu lle i arbed gwres yn well, a bydd gosodiadau golau LED newydd a phwmp gwres ffynhonnell daear newydd yn lleihau eu biliau ynni.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy