Skip to main content

Pedwar enwebai o Gymru yng Ngwobrau Hyfforddi’r DU

Mae Gwobrau Hyfforddi’r DU yn dathlu hyfforddwyr o bob rhan o’r DU sy’n gwneud gwaith gwych ac ysbrydoledig i gefnogi eu cymunedau drwy chwaraeon. Bydd enillwyr pob categori yn cael eu datgelu yn eu seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 5 Rhagfyr.

Eleni, mae pedwar hyfforddwr o Gymru wedi cael eu cydnabod mewn tri chategori gwahanol am eu hymroddiad i hyfforddi.

Mae mwy o wybodaeth am yr enwebeion isod.

Gwilym Iolo Lewis – Gwobr Newid Bywyd

Trodd hoffter Gwilym o rygbi yn angerdd dros hyfforddi yng Nghlwb Rygbi Warriors Llanelli, lle mae wedi bod yn gwneud byd o wahaniaeth i chwaraewyr ar y cae ac oddi arno bob wythnos ers dros ugain mlynedd.

Mae Warriors Llanelli yn croesawu oedolion o bob gallu i gymryd rhan, ac mae ystod eang o chwaraewyr ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol wedi dod o hyd i gartref yn y clwb.

Enwebwyd Gwilym ar gyfer y Wobr Newid Bywyd yma am ei gefnogaeth i chwaraewr ag anawsterau dysgu. Mae’r chwaraewr wedi gallu gwneud cynnydd yn y clwb, gan ddod yn gapten a chymhwyso i fod yn hyfforddwr Lefel 1.

Gwilym Iolo Lewis
Gwilym Iolo Lewis

Tara Edwards – Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn (Plant a Phobl Ifanc)

Fel Rheolwr Cymunedol ac Allgymorth ar gyfer Academi Gymnasteg Valleys, mae Tara yn cefnogi ei chymuned leol i oresgyn rhwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yn aml nid yw plant a phobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yn cael yr un cyfleoedd chwaraeon, felly mae gwaith Tara yn canolbwyntio ar sicrhau bod y plant yma'n cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion.

Mae ei gwaith hefyd wedi cynnwys cydweithio â StreetGames, partner cenedlaethol Chwaraeon Cymru sy’n ymroddedig i drawsnewid bywydau pobl ifanc drwy chwaraeon.

Dywedodd Tara: “Mae’r ffaith fy mod i wedi cael fy enwebu ar gyfer gwobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn yn fy synnu i ac yn fy ngwneud i'n hynod falch. Nid yn unig fy mod i wedi cael fy synnu o gyrraedd y rhestr fer, ond fe gefais i fy synnu hefyd o gyrraedd y rowndiau terfynol. Rydw i’n falch o allu cefnogi a rhoi yn ôl i’r gymuned lle cefais i fy magu.

“Mae’n golygu’r byd i mi bod fy ngwaith i'n cael ei gydnabod a’i werthfawrogi.”

Tara Edwards mewn dosbarth gymnasteg
Tara Edwards

Luke Carpenter – Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn (Plant a Phobl Ifanc)

Mae ail enwebiad i Academi Gymnasteg Valleys yn dangos yn glir bod y clwb yn rhoi blaenoriaeth i’w gymuned. 

Luke yw Pennaeth Gymnasteg Cyffredinol y clwb ac mae’n ymrwymo ei amser i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n dod i’r clwb yn cael yr hyfforddiant mae’n ei haeddu.

Mae rôl Luke yn cynnwys cefnogi eu harweinwyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau yn y gamp. Mae ei waith gyda phobl ifanc wedi’i wreiddio mewn angerdd dros sicrhau bod cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.

Dywedodd Luke: “Rydw i’n ddiolchgar i’r rhai wnaeth wneud amser i fy enwebu i ar gyfer y wobr ac rydw i’n falch o gynrychioli ein cymuned gymnasteg ni yng Nghymru mewn digwyddiad chwaraeon cenedlaethol.

“Rydw i’n lwcus i weithio gyda chymaint o gymnastwyr gwych ac rydw i wrth fy modd yn ymgysylltu â chymaint o blant lleol mewn chwaraeon.”

Luke Carpenter
Luke Carpenter

Daniel Knight – Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn

Daniel Knight yw Prif Hyfforddwr Cynorthwyol Rygbi Cadair Olwyn y Dreigiau ym Mhont-y-pŵl. Mae'r clwb yn ymfalchïo mewn cynnig cyfleoedd i unigolion sydd ag anableddau corfforol i fod yn actif a chymdeithasu ag eraill yn eu cymuned.

Mae Daniel wedi bod yn ymwneud â Rygbi Cadair Olwyn y Dreigiau ers iddyn nhw ddechrau yn 2019, ar ôl bod yn rhan o’r arbrawf cychwynnol. Ers hynny, mae wedi defnyddio ei safle i annog, ysbrydoli a grymuso chwaraewyr i fod y gorau y gallant fod ar y cae ac oddi arno.

Dywed y chwaraewyr bod ei hyfforddiant wedi eu helpu i fagu hyder a chreu teimlad o gyfeillgarwch yn y tîm.

Dywedodd Daniel: “Mae’n anrhydedd enfawr cael fy ystyried ar gyfer y wobr yma, rhywbeth a ddaeth fel syndod mawr. Mae gallu hyfforddi rygbi cadair olwyn gyda'r Dreigiau yn fraint. Rydw i’n ffodus iawn i gael hyfforddi grŵp gwych o bobl yn wythnosol.”

Daniel Knight yn hyfforddi sesiwn rygbi cadair olwyn
Daniel Knight

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Mae campfa bocsio Joe Calzaghe yn cael ei bywiogi gan grant poblogaidd.

Grantiau Arbed Ynni yn ôl ac maen nhw’n sicr yn hwb mawr – gofynnwch i’r pencampwr bocsio Joe Calzaghe.

Darllen Mwy