Mae pedwar prosiect gwych o Gymru yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael eu coroni yn Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2021.
Mae’r Green Valley Conservation and Heritage Project yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, Clwb Chwaraeon Anabledd a Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn Croesgadwyr Gogledd Cymru, Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LGBT+ o Gaerdydd ac elusen a menter gymdeithasol Wastesavers a leolir yn ne ddwyrain Cymru wedi llwyddo i drechu cystadleuwyr gwych mewn cystadleuaeth gyda 1500 o gynigion i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus.
Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r bobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol.
Mae’r pedwarawd o Gymru ymysg 17 o ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer o bob cwr o’r DU, a fydd yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus dros 4 wythnos i gael eu henwi yn Brosiect Loteri Genedlaethol dechreuol y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 ar gyfer eu prosiect a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
Mae’r Green Valley Conservation and Heritage Project yn Abercynon yn helpu pobl o fewn yr hen bentref glofaol Cymreig yn Rhondda i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a’u lles trwy arddio a chysylltu gyda natur. Tair blynedd yn ôl, tir diffaith oedd safle Cynon Valley Organic Adventures, cartref y prosiect Cadwraeth a Threftadaeth. Heddiw, mae wedi cael ei drawsnewid yn ardd gymunedol gyda mannau ar gyfer alotiadau sy’n tyfu bwyd ar gyfer eu banc bwyd, caffi, ysgol haf a hyd yn oed campfa werdd. Maen nhw hefyd yn darparu gweithgareddau a rhaglenni awyr agored ar gyfer ieuenctid sydd wedi ymddieithrio ac yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc awtistig ac unrhyw un sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.
Sefydlwyd Clwb Chwaraeon Anabledd a Rygbi Cynghrair Cadair Olwyn Croesgadwyr Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2013 i sicrhau fod rygbi cynghrair o fewn cyrraedd i bawb yng ngogledd Cymru a’r ardaloedd cyfagos. Ers hynny, mae’r clwb a leolir yn Wrecsam a Sir y Fflint ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn (a chwaraewyr nad ydynt mewn cadair olwyn) wedi meithrin 16 o chwaraewyr rhyngwladol ac wedi parhau i dyfu yn ystod y pandemig, ynghyd â chynnig man cymdeithasol hanfodol. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu i ddarparu storfa ac i brynu cadeiriau olwyn chwaraeon fel cyfarpar ar gyfer y timau, gan wneud y clwb yn fwy hygyrch. Y clwb yw'r unig glwb rygbi'r gynghrair cadair olwyn yn y byd i gael tri thîm yn chwarae yn yr un system gynghrair ac mae wedi gweld y twf mwyaf mewn aelodau o'r holl glybiau sefydledig yn y DU. Y Croesgadwyr hefyd fydd y clwb cyntaf yng Nghymru i sefydlu tîm Rygbi Cynghrair Anabledd Corfforol, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gyda anableddau nad ydynt mewn cadeiriau olwyn, i chwarae'r gêm.