Skip to main content

Pentyrch yn troi’n solar i helpu clwb i ddisgleirio

Mae Forest Green Rovers yn hoffi hyrwyddo ei hun fel clwb chwaraeon gwyrddaf y byd, ond rhyw ddiwrnod fe allai clwb rygbi Pentyrch roi dipyn o her iddo yn y cyswllt yma. 

Yn sicr, mae'r clwb ychydig i'r gogledd o Gaerdydd yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Nid yn unig mae wedi penderfynu gosod paneli solar ar do'r clwb, ond hefyd mae’n bwriadu defnyddio’r arbedion ar ei filiau i fuddsoddi mewn grwpiau rygbi cerdded ar gyfer chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd.

Ni fyddai hyn yn bosib o gwbl gyda’i arian ei hun, felly gwnaeth y clwb gais llwyddiannus am grant oGronfa Cymru Actif, sydd bellach wedi symud i'r cam o geisio helpu clybiau chwaraeon i ddod yn fwy cynaliadwy ar ôl y pandemig presennol.

Rhoddwyd ychydig mwy nag £8,000 i'r clwb, sy'n gobeithio dechrau gweithio ar osod y 24 panel yn eu lleyn fuan iawn.

Mae Forest Green – a'i berchennog entrepreneuraidd ynni gwyrdd proffil uchel, Dale Vince – wedi bod âphaneli solar ar do ei stadiwm ers nifer o flynyddoedd.

Hefyd mae’n defnyddio gwymon yn hytrach na gwrtaith cemegol ar ei gae, mae ganddo bwyntiau gwefru yn ei faes parcio ar gyfer fflyd y staff o gerbydau trydan, ac mae’n gwneud casgliad blasus o fyrgyrs fegan sbeislyd ar fwydlen heb gig.

Efallai nad oes gan Bentyrch rinweddau gwyrdd o'r fath eto, ond y gobaith yw, drwy gynhyrchu ei drydan ei hun, y gall y clwb leihau ei ôl troed carbon yn aruthrol, yn ogystal â'i filiau.

"Rydyn ni'n defnyddio llawer o drydan ac mae ein biliau ni tua £6,000 y flwyddyn," meddai Gareth Williams, ysgrifennydd cynorthwyol y clwb sy'n chwarae yn Adran Tri Canolbarth Dwyreiniol Cynghrair Genedlaethol Undeb Rygbi Cymru.

"Gyda'r holl oergelloedd a rhewgelloedd a’r gwahanol declynnau sy’n gweithio yn y seler, rydyn ni'nllyncu llawer o drydan.

"Y gobaith yw y gallwn ni leihau hynny o leiaf 50 y cant, os nad mwy. Daeth y syniad gan drysorydd y clwb, sy'n ddarbodus iawn ac sydd wedi gwneud arbedion mawr ar y paneli sydd wedi’u gosod yn ei gartref."

Yr amcanestyniadau ariannol yw y bydd y paneli wedi talu amdanynt eu hunain o fewn pump i chwe blynedd ac y bydd y biliau tua £2,000 yn is bob blwyddyn.

Mae'r clwb yn elwa o fod wedi'i leoli mewn gofod agored mawr, gyda'r prif do yn wynebu tua'r de – mantais ddefnyddiol wrth geisio dal yr holl belydrau gwerthfawr.

Mae paneli solar wedi bod ar restr ddymuniadau'r clwb ers rhai blynyddoedd ac mae hefyd yn awyddus inewid ei hen foeleri nwy am bympiau gwres newydd.

Unwaith eto, byddai'r costau ymlaen llaw yn cael eu hadfer drwy filiau rhatach, gyda'r arian yn cael ei roiyn ôl yn y clwb sydd â dau dîm hŷn, tîm ieuenctid, tîm rygbi cyffwrdd i ferched a 250 o blant yn eiadrannau mini a phlant. 

Mae’r clwb yn cynhyrchu chwaraewyr elitaidd o safon hefyd, gan gynnwys y chwaraewyr rhyngwladoldros Gymru yn ddiweddar, Seb Davies a Robin Sowden-Taylor, ac o'u blaen, Brian Davies, oedd yngapten ac yn hyfforddi Pentyrch ac a enillodd dri chap yn y 1960au hefyd. Yn drist iawn, bu farw fis Medi diwethaf.

Pan ddaeth y gemau rygbi cymunedol i ben yn ddisymwth y tymor diwethaf, roedd Pentyrch yn wynebu anawsterau tua gwaelod y tabl, ond mae’n obeithiol, pan fydd y chwaraewyr yn cael ailddechrau hyfforddi a chwarae, y bydd ei sgwadiau mor hunangynhaliol â'r to uwch eu pen.

"Mae wedi bod yn anodd ar adegau i gael timau allan ar gyfer rhai gemau, ond y peth calonogol oedd,pan gafodd y tîm cyntaf ddechrau hyfforddi eto ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf, roedden ni'n cael mwy na 30 o chwaraewyr yn hyfforddi ym mhob sesiwn," meddai Gareth.

"Felly, croesi bysedd y gallwn ni i gyd fynd yn ôl ar y cae yn y dyfodol agos a chwarae'r rôl gymunedolroedden ni’n ei chwarae o'r blaen.

"Rydyn ni'n glwb sydd â hanes balch, ond rydyn ni hefyd bob amser yn edrych tua'r dyfodol a beth allai'r cam nesaf fod."

Boed i’r haul dywynnu ei oleuni dros Bentyrch.