Skip to main content

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn nes ymlaen eleni, ond nid yw’n ormod o ymdrech dychmygu y gallai uchafbwynt ei haf fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon.

Fe yw’r dyn oedd yn gapten ar dîm pêl fasged cadair olwyn Prydain Fawr enillodd fri ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2018.

Dychwelodd yr athletwr 30 oed, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, i Bencampwriaethau'r Byd y llynedd, lle daeth Prydain Fawr yn ail, a bydd yno eto yn y Gemau Paralympaidd ym mis Awst.

Ond pe bai bywyd wedi cymryd tro gwahanol, fe allai ei gadair olwyn fod wedi bod yn rholio allan ar lawntiau gwyrdd Wimbledon ym mis Gorffennaf, yn lle hynny.

Efallai bod Phil wedi gorfod dysgu ei sgiliau chwaraeon ar ei eistedd er pan oedd yn blentyn bach, ond dydi hynny ddim wedi ei atal rhag rhoi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon.

“Pan oeddwn i’n blentyn, fe wnes i roi cynnig ar lawer o chwaraeon gwahanol - tennis cadair olwyn, rasio cadair olwyn, hoci sled, pob math o bethau gwahanol,” meddai.

“Tennis cadair olwyn oedd y gamp o ddifrif gyntaf i mi. Roedd gen i gydsymudiad llaw a llygad gweddol dda ac fe wnes i roi llawer o oriau i mewn i’r gamp.

“Dydw i ddim yn gallu cofio pa un yn bendant, ond fe wnes i gyrraedd ail neu drydydd yn y byd o dan 18. Roeddwn i'n eithaf da."

Eithaf da, ond ddim digon da i oresgyn un anfantais fawr. Doedd e ddim yn hoffi’r gamp.

Ffafrio chwaraeon tîm

“Doeddwn i ddim yn mwynhau, a dweud y gwir. Rydych chi ar eich pen eich hun gyda'ch hyfforddwr ac rydych chi'n gwneud yr un nifer cyfyngedig o ymarferion. 

“Rydw i’n meddwl bod rhaid i chi wir fwynhau camp i roi popeth iddi ac fe wnes i deimlo ’mod i’n cael llawer mwy allan o bêl fasged cadair olwyn, yr oeddwn i’n ei gwneud bryd hynny fel dim ond hobi.”

Yn fuan iawn fe ddaeth y gamp oedd yn hobi yn brif gamp.

Fel camp i dimau, fe welodd rywbeth mewn pêl fasged cadair olwyn a oedd wedi ei ddenu i wylio pêl-droed, angerdd y mae'n ei gynnal o hyd drwy ei hoffter o Ddinas Caerdydd.

“Rydw i’n meddwl bod yn well gen i’r amrywiaeth mewn pêl fasged o gymharu â thennis. Rydych chi'n dal i wneud rhai ymarferion, ond mae'r allbwn yn wahanol gan nad ydi’r chwarae byth yn union yr un fath. 

“Roeddwn i hefyd yn hoffi’r agwedd tîm, o gymharu â thennis. Mewn pêl fasged, mae'n rhaid i chi gael y gorau nid yn unig gennych chi’ch hun, ond hefyd eich cyd-chwaraewyr a'ch hyfforddwr. Roedd yn teimlo bod llawer mwy iddo.”

Mae Phil Pratt, sy'n chwarae i Brydain Fawr, yn dal y bêl ac yn cystadlu â dau amddiffynnwr.
Llun: Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain Fawr

Goresgyn gorbryder

Mae Phil yn credu bod chwaraeon wedi rhoi llwybr iddo allan o'r rhwystredigaethau roedd yn eu teimlo pan oedd yn iau, gan leihau ei orbryder, meithrin ei hyder, a'i alluogi i ffurfio cyfeillgarwch parhaol.

“Roeddwn i braidd yn anghymdeithasol pan oeddwn i’n ifanc a dim ond nawr, drwy weithio gyda seicolegwyr chwaraeon, ydw i wedi sylweddoli fy mod i’n dioddef o gryn dipyn o orbryder pan oeddwn i’n blentyn.

“Pan ydych chi mewn cadair olwyn, rydych chi bob amser yn gorfod darganfod pethau drosoch chi’ch hun a phoeni am ganlyniadau.

“A fydda’ i’n gallu dringo’r grisiau yna? Fedra’ i fynd i'r parti yma? Sut alla’ i ymuno pan fydd fy ffrindiau i’n chwarae pêl droed? 

“Fe allwch chi deimlo’n bryderus, felly roedd bod gyda thîm, gorfodi fy hun, bron, i gael perthnasoedd gyda phobl eraill, o ddydd i ddydd, mae wedi fy helpu i oresgyn y pryderon cymdeithasol hynny.”

Mae Phil yn dweud bod ei gefndir tennis wedi rhoi sgil drosglwyddadwy benodol iddo i bêl fasged cadair olwyn y mae'n wirioneddol ddiolchgar amdani - ei symudiad yn y gadair.

Symudwr hyblyg

“Mae pobl yn dweud wrtha’ i fy mod i’n symud yn fy nghadair mewn ffordd wahanol i 99 y cant o chwaraewyr pêl fasged cadair olwyn. Fe roddodd y gallu i mi fod yn hyblyg yn fy symudiad.

“Os edrychwch chi ar rywun fel Alfie Hewitt mewn tennis cadair olwyn, mae’n hynod o gyflym, ond mae yna lawer o hyblygrwydd hefyd.

“Mae chwaraewyr pêl fasged cadair olwyn yn llawer mwy fel rheol . . . nerthol ydi’r gair efallai. Rydw i ychydig yn fwy hyblyg ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth i mi.”

Ers iddo newid – a chyfuno’r sgiliau trosglwyddadwy hynny – mae Phil wedi mynd ymlaen i fod yn gapten ar Brydain Fawr a hawlio coron y byd ac enillodd fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd Rio 2016. 

Ar hyn o bryd mae'n chwarae yn Sbaen - lle mae pêl fasged cadair olwyn yn enfawr - i Amiab Albacete, pencampwyr presennol Ewrop.

Fel athletwr llawn amser, oni bai am help ariannol y Loteri, ’fyddwn i ddim yn gallu gwneud hyn nawr
Phil Pratt

Arian y loteri

Mae dwsin o flynyddoedd yn y gamp wedi galluogi Phil i ddatblygu cyfeillgarwch ac mae’n dweud bod ei yrfa hefyd bellach wedi rhoi gwerthfawrogiad ehangach iddo o'r strwythurau sy'n sail i chwaraeon anabledd.

Wrth i ni ddathlu 30 o flynyddoedd o gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer chwaraeon yn y DU, mae’n dweud: “Ar y dechrau, roeddwn gen i obsesiwn gyda’r gamp ei hun a doeddwn i ddim wir wedi meddwl llawer am o ble roedd yr holl gyllid yn dod.

“Ond wedyn rydych chi’n dechrau adlewyrchu ar ble mae’r cyllid ar gyfer offer, ar gyfer teithio, ar gyfer sesiynau hyfforddi a’r gweddill yn dod.

“Fel athletwr llawn amser, oni bai am help ariannol y Loteri, ’fyddwn i ddim yn gallu gwneud hyn nawr.

“Ac yn sicr ’fyddwn i ddim wedi gallu cyrraedd twrnameintiau rhanbarthol pan oeddwn i’n ifanc.

“Heb gefnogaeth gan bethau fel arian y loteri, ni fyddai ein camp ni fel mae’n edrych nawr yn bodoli.”

Newyddion Diweddaraf

Cronfa Cymru Actif yn ailagor ar gyfer ceisiadau

Mae Cronfa Cymru Actif yn ailagor nawr gyda gwerth £1m o gyllid yn weddill.

Darllen Mwy

30 o ffyrdd y mae’r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith ar chwaraeon yng Nghymru dros 30 mlynedd

Dyma 30 o ffyrdd y mae'r Loteri Genedlaethol wedi mynd â chwaraeon yng Nghymru i lefel arall.

Darllen Mwy

Cyllid y Loteri Genedlaethol yn rhoi cychwyn i glwb pêl droed merched

Yng Nghlwb Pêl Droed Merched Coity Chiefs ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae merched a genethod yn rheoli pethau…

Darllen Mwy