Skip to main content

PUM CYNGOR CHWARAEON YN YMUNO I DRECHU ANGHYDRADDOLDEB HILIOL MEWN CHWARAEON

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. PUM CYNGOR CHWARAEON YN YMUNO I DRECHU ANGHYDRADDOLDEB HILIOL MEWN CHWARAEON
  • Cynghorau Chwaraeon i gomisiynu dau ddarn mawr o waith i edrych ar hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon 
  • Argymhellion ac adroddiadau i ddod ymhen chwe mis

Mae’r pum Cyngor Chwaraeon sy’n gyfrifol am ddatblygu a buddsoddi mewn chwaraeon ledled y DU yn dod at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon.

Mae Prif Weithredwyr UK Sport, Sport England, sportscotland, Chwaraeon Cymru a Sport Northern Ireland wedi gweithio’n agos yn ystod yr wythnosau diwethaf er mwyn datblygu cynllun ar y cyd i helpu i greu system chwaraeon sy’n adlewyrchu’n briodol y cymdeithasau maent yn eu cynrychioli ac i gael gwared ar hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol o chwaraeon.

 

Mae dau ddarn o waith mawr cychwynnol (rhagor o fanylion isod) yn cael eu comisiynu fel rhan o gam cyntaf y cynlluniau, a bydd y Prif Weithredwyr yn cyfarfod yn rheolaidd hefyd i dracio cynnydd ac i gyhoeddi diweddariadau.             

Mae’r darn cyntaf o waith yn cynnwys dod â data sy’n bodoli eisoes am hil ac ethnigrwydd mewn chwaraeon at ei gilydd, gan adnabod y bylchau a gwneud argymhellion, ac mae’r ail yn cynnwys creu cyfle i glywed straeon am brofi anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth mewn chwaraeon, gan gynnig lle diogel i bobl adrodd eu straeon. Mae’r ddau brosiect yn ganlyniad y gydnabyddiaeth bod pob Cyngor Chwaraeon wedi ceisio mynd i’r afael â’r problemau yn unigol, ond nad yw hynny wedi mynd yn ddigon pell ac nad oes gweithredu ar y cyd wedi digwydd.

Dywedodd Sally Munday, Prif Weithredwr UK Sport: “Ein huchelgais ni yw gweld y sector perfformiad uchel yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymdeithas. Mae hynny’n golygu herio ein hunain i sicrhau bod y chwaraeon rydyn ni i gyd yn eu hadnabod a’u hoffi yn gwbl gynhwysol a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared ar hiliaeth.

“Gan weithio mewn partneriaeth fel Cynghorau Chwaraeon, rydyn ni’n benderfynol o ddefnyddio ein pŵer ar y cyd a’n dylanwad i wrando i ddechrau, deall yn well a gweithio ar y problemau hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol sy’n bodoli yn ein sector ni – ac wedyn sbarduno’r newid y mae arnom angen ei weld.

“Mae UK Sport wedi sefydlu grŵp gwrth-hiliaeth nawr hefyd, yn edrych ar broblemau hil a hiliaeth yn ein sefydliad ac ar draws chwaraeon elitaidd, a gweithredu’n bositif.”

Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni wedi dweud ein bod ni eisiau i Gymru fod yn genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes a sicrhau bod chwaraeon yn gynhwysol ac yn darparu profiad gwych i bawb. Ni fyddwn yn dod yn agos at gyflawni hyn heb wynebu’r gwirionedd anghyfforddus nad ydyn ni, er gwaethaf ein bwriadau da, wedi gwneud digon i herio’r hiliaeth a’r anghydraddoldeb sy’n bodoli ar draws chwaraeon yng Nghymru, o chwaraeon cymunedol i’r ystafell bwrdd.         

“Mae dysgu gwersi o fentrau’r gorffennol, gwrando ar bobl sy’n deall yn well na ni beth sydd ei angen i greu cyfleoedd cynhwysol ac adeiladu ar rai o’r prosiectau sydd wedi cael canlyniadau positif yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhai o’r meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y misoedd sydd i ddod. Mae mwy o atebolrwydd uniongyrchol yn y maes hwn yn cael ei roi i swyddi penodol yn ein sefydliad ni ac mae is-grŵp Bwrdd yn cael ei ffurfio gyda gwybodaeth berthnasol ac ymarferol am y problemau. Bydd yr wybodaeth a gaiff ei darparu drwy gyfrwng y gwaith cydweithredol ar draws yr holl Gynghorau Chwaraeon yn rhan gwbl allweddol o’r gwaith yma. 

“Rhaid i ni wneud yn well fel sefydliad ac rydyn ni wedi ymrwymo i drechu hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol gyda’r penderfyniad a’r egni diwyro sydd ei angen i greu newid tymor hir ac ystyrlon. 

Prosiect casglu data     

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cynghorau Chwaraeon wedi gwneud llawer o waith yn edrych ar y rhwystrau sy’n atal cyfranogiad a chynhwysiant mewn chwaraeon ar gyfer pobl o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal â phobl â nodweddion gwarchodedig eraill.             

Fodd bynnag, nid yw’r gwaith hwn yn unedig. Mae gormod o feysydd lle nad oes darlun clir o’r tirlun cyffredinol yn y DU, dim dadansoddiadau cymharol o beth all chwaraeon ei ddysgu oddi wrth ddiwydiannau eraill a chyfarwyddyd a safonau cyfyngedig ar gyfer pa ddata all ac y dylai cyrff chwaraeon a’u partneriaid fod yn eu casglu mewn perthynas â hil ac ethnigrwydd.

Bydd yr astudiaeth hon yn canolbwyntio ar y gweithlu chwaraeon (o wirfoddolwyr i’r gweithlu cyflogedig ac uwch arweinwyr) yn ogystal â chyfranogwyr chwaraeon (o lawr gwlad i dalent a pherfformiad uchel) er mwyn cael gwell gwybodaeth am unrhyw rwystrau sy’n atal cyfranogiad a chynnydd. 

Bydd o gymorth i adnabod y data sy’n bodoli eisoes a pha ddata sydd ar goll; pa wybodaeth mae’r data presennol yn ei darparu; pa wybodaeth bellach sydd ei hangen. 

Ni fydd hyn yn ailddyfeisio llawer o’r adolygiadau sydd wedi digwydd eisoes nac yn dyblygu’r gwaith sydd wedi cael ei wneud eisoes yn y maes. Fodd bynnag, bydd yn dod â’r wybodaeth hon at ei gilydd yn un lle i helpu i gyflwyno camau gweithredu ac argymhellion seiliedig ar wybodaeth. 

Sicrhau dealltwriaeth ddyfnach o’r profiadau o hil, hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol mewn chwaraeon

Mae’r Cynghorau Chwaraeon yn credu bod gwybodaeth a dealltwriaeth gynyddol o’r “profiadau byw” o hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol gan bobl sy’n ymwneud ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon – yn gyfranogwyr, athletwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr neu rieni – yn hanfodol. 

Felly bydd darn o waith yn hwyluso cyfle i bobl o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i ddweud eu straeon mewn lle diogel yn cael ei gomisiynu ar unwaith.                     

Gyda’r nod o feithrin ymddiriedaeth yn y broses hon o’r dechrau, bydd fforwm yn cael ei sefydlu lle gall pobl siarad yn onest am eu profiadau, gan gynnwys problemau hanesyddol a phresennol, heb feirniadaeth na rhagfarn. Bydd y grŵp yn ceisio gweithio gyda hwyluswyr sydd â phrofiad o ddarparu amgylcheddau diogel i bobl gael siarad yn agored.             

Hefyd bydd cefnogaeth yn cael ei chynnig i gyfranogwyr sydd ei hangen a bydd y straeon hyn yn cael eu cofnodi a bydd argymhellion clir ar gyfer newid yn cael eu gwneud o ganlyniad. 

Bydd adroddiad llawn a chyfres o argymhellion yn cael eu cyflwyno o fewn chwe mis ar y ddau ddarn o waith. 

Ymrwymiad i dryloywder       

Bydd y Prif Weithredwyr yn parhau i gyfarfod i drafod y gwaith hwn, gan gynnwys tracio cynnydd a thrafod heriau unigryw ac a rennir.

Hefyd bydd y grŵp yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w partneriaid a’u sectorau eu hunain, yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion ac yn datgan gweithredu cadarn i greu newid systemig. Yn ogystal, bydd y diweddariadau a’r cynlluniau hyn yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r grŵp wedi cael cyngor a chyfarwyddyd gan nifer o ffigurau allweddol a lleisiau arbenigol er mwyn ffurfio’r cynlluniau hyn, gan gynnwys y canlynol:

  • Chris Grant, Aelod o Fwrdd Sport England, sydd wedi siarad yn eang am yr anghydraddoldeb dwys mae cymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (DALlE) yn ei wynebu mewn chwaraeon
  • Arun Kang, Prif Weithredwr Sporting Equals, sy’n hybu amrywiaeth ethnig mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol 
  • Adeeba Malik, Dirprwy Brif Weithredwr elusen genedlaethol yn Bradford, QED Foundation, sy’n helpu’r sectorau cyhoeddus a phreifat i weithio gyda chymunedau o leiafrifoedd ethnig 
  • Yr Athro Emmanuel Ogbonna o Brifysgol Caerdydd ac is-gadeirydd Cyngor Hil Cymru         

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy