Mae rheolwr tîm pêl droed Cymru, Rob Page, yn credu ei fod wedi gweld y dyfodol i genhedlaeth ifanc sy’n gwisgo hetiau bwced sy’n cael ei hysbrydoli i fod yn actif, yn angerddol ac yn wybodus am bŵer chwaraeon.
Ar ôl arwain ei wlad i rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd, mae Page yn argyhoeddedig o'r effaith y mae arwyr fel Gareth Bale, Ben Davies, Neco Williams ac Ethan Ampadu yn ei chael ar ieuenctid ledled y wlad.
Gyda’r diddordeb hefyd yn cynyddu yn nhîm cenedlaethol y merched - a thorfeydd mwy nag erioed yn dilyn sêr fel Sophie Ingle, Jess Fishlock a Carrie Jones - mae gallu pêl droed i ddenu plant at weithgarwch corfforol hwyliog yn amlycach nag erioed.
“Mae bwrlwm mawr yn y wlad ar hyn o bryd,” meddai Page, sef rheolwr cyntaf Cymru ers 1958 i arwain ei dîm i lwyfan mwyaf y byd chwaraeon.
Roedd pŵer Bale a Fishlock i danio cyffro yn amlwg i Page pan gyfarfu â ffrind yn ddiweddar.
"Mae fy ffrind gorau i’n byw yn Y Barri ac roedd ei fab mewn twrnamaint yn Sheffield," meddai cyn chwaraewr Watford.
“Felly, fe es i draw a gwylio dwy gêm yn cynnwys plant 12 oed.
“Roedden nhw i gyd ar y bws yn mynd i fyny yno, yn eu hetiau bwced, yn canu ‘Yma o Hyd’, yn gyrru eu rhieni’n wallgof.
“Dyna beth rydyn ni’n ei greu yma. Gan fod y tîm cyntaf yn gwneud mor dda, rydyn ni’n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o blant sy'n dod drwodd.
"Maen nhw'n fechgyn a merched sydd eisiau mynd allan a chwarae pêl droed. Mae'n wych."
Ar wahân i Qatar, y wlad sy’n cynnal y twrnamaint, Cymru fydd y genedl leiaf yn y rowndiau terfynol - teyrnged i sgiliau rheoli Page, sydd, fel Jimmy Murphy yn 1958, yn rheolwr a ddysgodd garu pêl droed wrth dyfu i fyny yng Nghwm Rhondda.
Roedd awyrgylch gwirioneddol arbennig yng Nghaerdydd wrth i Gymru guro Wcráin i gipio’u lle – noson yn llawn arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol.
Roedd y rhyfel yn Wcráin wedi rhoi cefndir rhyfeddol i’r gêm, gyda phobl niwtral ledled y byd yn gobeithio y byddai’r baneri melyn a glas yn cael eu chwifio yn y rowndiau terfynol.
Roedd cefnogwyr Cymru yn hynod barchus a hael ar noson emosiynol, pryd dathlwyd hunaniaeth genedlaethol y ddwy wlad mewn ffordd yr oedd pawb yn gallu ei mwynhau.
Mae gan dîm merched Gemma Grainger eu cyfle eu hunain i greu hanes pan fyddant yn chwarae yn erbyn Gwlad Groeg a Slofenia ym mis Medi wrth iddynt anelu am safle ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd.
Os byddant yn llwyddiannus, byddant yn cadarnhau ymhellach waddol pêl droed Cymru y genhedlaeth bresennol yma o chwaraewyr anhygoel.
Mae pêl droed ar frig y gynghrair o ran cyrhaeddiad byd-eang gyda'r ffigurau gwylio ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn fwy nag unrhyw ddigwyddiad chwaraeon arall, gan gynnwys y Gemau Olympaidd.
Mae’n gyfle i bob gwlad ddathlu ac ysbrydoli – boed yn oedolion yn y stadiwm neu’n blant ar y bws ochr yn ochr â Page, yn canu anthem fabwysiedig ysbrydoledig Dafydd Iwan i’r tîm presennol yma, Yma O Hyd.