Skip to main content

Rhedeg yn y Teulu – y Backstedts

Bydd rhieni ar hyd a lled Cymru'n deall pa mor heriol yw danfon plant hoff o chwaraeon i sesiynau ymarfer a chystadlaethau amrywiol ar amser.

Efallai bod plentyn rhif un angen bod mewn gwers gymnasteg am 6pm, a phlentyn rhif dau angen bod mewn sesiwn pêl droed rai milltiroedd i fyny'r ffordd ar yr un pryd.

Felly meddyliwch sut mae pethau i deulu'r Backstedts o Bontyclun gyda'r sêr beicio, Elynor (17) a Zoe (14), yn cystadlu'n aml mewn gwahanol wledydd, heb sôn am wahanol drefi.

Yn gynharach y mis yma, roedd y chwaer iau, Zoe, yn ennill Ras A Ieuenctid Cyfres Cylched Beicio Prydain yn Sir Efrog, tra oedd Elynor yn cynrychioli Prydain Fawr yng Ngwlad Belg - gan ennill dau deitl Ewropeaidd unigol a dod o fewn trwch blewyn i gipio record iau y byd.

O ofyn iddo sut mae ef a'i wraig Megan yn ymdopi â logisteg cael dwy ferch o safon byd yn cystadlu mewn grwpiau oedran gwahanol, chwerthin mae Magnus: "Mae'n hunllef!

"Weithiau rydw i'n meddwl y byddai'n haws rhedeg DHL neu UPS neu rywbeth. Ond rydyn ni'n gwneud iddo ddigwydd rywsut."

Ond mae ychydig bach mwy i'r stori yma am ddatrys problemau logisteg chwaraeon.

Mae gan Mr a Mrs Backstedt rywfaint o brofiad o gystadlu ar lwyfan beicio'r byd.

Cafodd Magnus yrfa broffesiynol ddisglair. Bu'n Bencampwr Rasio Ffordd Cenedlaethol Sweden ac enillodd gymal yn y Tour De France a'r Giro d'Italia ac enillodd glasur anrhydeddus Paris-Roubaix yn 2004.

Megan oedd Pencampwraig Rasio Ffordd Genedlaethol Prydain yn 1998 a chystadlodd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur yn y rasio ffordd a'r ras bwyntiau, gan orffen yn bumed.

Er hynny, mae helpu eu merched i barhau â’u cynnydd stratosfferig tuag at lwyddiant yn y byd beicio yn her.

Dywedodd Magnus: “Mae pawb yn dod o hyd i ffordd o ymdopi a llwyddo i wneud beth maen nhw eisiau ei wneud, ac mae hynny yr un fath i ni.

“Ein blaenoriaeth fwyaf ni yw cael y merched i ble maen nhw angen bod, fel eu bod nhw’n gallu gwneud beth maen nhw eisiau wneud a gwireddu eu breuddwydion. Rydyn ni’n plygu pob ffordd er mwyn gwneud i hynny ddigwydd iddyn nhw.

“Yn enwedig yr adeg yma o’r flwyddyn heb unrhyw drefn mewn gwirionedd, mae fel ‘ble mae’r ras feicio nesaf, sut rydyn ni’n mynd yno? Gan fod tair blynedd rhyngddyn nhw, dydyn nhw ddim yn rasio yn yr un lleoliad yn aml iawn.

  “Eleni, mae Elynor wedi bod i ffwrdd llawer gyda Beicio Prydain, sy’n golygu ei bod yn haws i ni fynd â Zoe i ble mae hi angen bod, ond ar yr un pryd mae’n golygu ein bod ni’n colli gwylio Elynor yn rasio’n fyw.

“Pan oedd hi ym mhencampwriaethau Ewrop, roedden ni’n eistedd yn sgrolio ar wahanol ddyfeisiadau yn ceisio dod o hyd i amseroedd lap, unrhyw ddiweddariadau neu ffrydiau byw, i weld sut oedd hi’n gwneud.”

Er eu bod nhw’n brysur a bod llawer o waith trefnu, mae’n ffordd o fyw sy’n gweddu i’r Backstedts fel teulu hoff o chwaraeon.

"Dydyn ni ddim y math o bobl sy’n gallu eistedd yn llonydd rhyw lawer,” meddai Magnus. “Mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser. Rydw i’n meddwl ein bod ni’n mwynhau ffordd o fyw brysur a theithio i lefydd.

"Mae pobl yn gofyn i ni 'pryd ydych chi’n mynd ar eich gwyliau'? Rydyn ni ar ein gwyliau bob penwythnos!

"Roedd yn rhywbeth wnaethon ni ei ofyn i’r merched rai blynyddoedd yn ôl. Fe wnaethon ni ddweud, 'wel, fe allwn ni wneud llai o rasys beicio a mynd ar wyliau i rywle, neu fe allwn ni wneud llawer mwy o rasys beicio, beth ydych chi eisiau ei wneud?’”

"Roedd yr ateb yn syml ac uniongyrchol, sef ‘mynd i rasys beicio’!”

Gyda mam a dad wedi bod yn feicwyr proffesiynol o’r safon uchaf, oedd unrhyw amheuaeth pa lwybr chwaraeon fyddai’r merched yn ei ddilyn?

“Nhw wnaeth ei ddewis,” meddai Magnus. “Yn enwedig Zoe, oedd yn hoff iawn o dennis am gyfnod, pêl rwyd, a chwaraeon eraill mae plant yn eu gwneud.

“Doedden ni ddim yn meddwl y byddai’r merched yn mynd i’r byd beicio, ond mae’r ffaith eu bod nhw’n neis iawn, a’u bod nhw’n hoffi’r gamp rydyn ni wedi ei mwynhau drwy gydol ein bywydau – mae hynny’n wych.

“Mae’n siŵr ei fod yn dda ac yn ddrwg iddyn nhw gael eu cymharu â mam a dad a phethau felly. Mae’n ychwanegu cryn dipyn o bwysau, ond hyd yma maen nhw i weld yn ymdopi’n iawn.”

Ydi’r merched yn dilyn mam neu dad o ran steil beicio?

“Mae sawl tebygrwydd. Ond os unrhyw beth, hyd yma, maen nhw’n ymddangos yn llawer gwell nag oedden ni erioed. Gobeithio bydd hynny’n parhau.”

Os ydyn nhw’n well nag oedd mam a dad, pa mor bell fedr y merched fynd yn y gamp?

“Pwy a ŵyr?” meddai Magnus. “Maen nhw dal yn ifanc iawn. Damcaniaethu mae rhywun ar hyn o bryd. Rydw i’n gobeithio y gallan’ nhw fynd yn bell er eu mwyn nhw oherwydd mae’n ymddangos mai dyna ble maen nhw eisiau mynd.

“O edrych ar eu hymrwymiad nhw i’r gamp, mae posib iddyn nhw fynd i’r lefel uchaf un yn sicr.

Efallai bod addawol yn air mymryn yn wan o edrych ar y llu o deitlau a’r rasys anrhydeddus maen nhw wedi’u hennill eisoes gartref a thramor.

Ydi Magnus yn synnu at yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni a hwythau mor ifanc?

“Rydych chi’n gobeithio bod eich plant chi’n mynd i wneud yn dda wrth gwrs, ond pan rydych chi’n dechrau edrych ar fedalau Pencampwriaethau’r Byd a theitl Ewropeaidd nawr i Elynor, mae’n sicr yn rhywbeth oedd ddim ar y radar a doedden ni ddim wedi disgwyl bod yn dyst i hynny. Ond wrth gwrs mae’n hyfryd pan mae’n digwydd.

“I ni, dyma mae’r merched eisiau ei wneud. Dyna beth mae Meg a finnau’n cyd-fynd ag o, a’i hwyluso ym mhob ffordd bosib.

“Tra maen nhw dal eisiau gwneud hyn, rydyn ni’n hapus i ddal ati a mynd â nhw mor bell ag y gallwn ni er mwyn eu helpu nhw.”