Skip to main content

Rhoi mwy o lais i athletwyr i greu gwell amgylcheddau chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rhoi mwy o lais i athletwyr i greu gwell amgylcheddau chwaraeon

Fel ymateb i’r galw gan athletwyr, mae panel newydd wedi cael ei greu i helpu i ddatblygu amgylcheddau mwy cadarnhaol fel bod dynion a merched Cymru wir yn gallu ffynnu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon elitaidd.

Mae’r ‘Panel Llais Athletwyr’, a fydd yn cael ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru, yn cynnwys athletwyr presennol a rhai sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, sy’n awyddus i gyd i rannu eu profiadau a’u syniadau.

Mae Rosie Eccles, bocswraig sydd wedi ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, Jordan Hart (badminton), Luke George (codi pŵer), Bethan Davies (cerdded rasio), ac Anastasia Blease (pêl fasged cadair olwyn) i gyd ar y panel, ynghyd â’r cyn-nofwyr Alys Thomas a Georgia Davies.

Dywedodd Cath Shearer, Arweinydd yr Amgylchedd yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r panel yma’n banel cyntaf o’i fath i Chwaraeon Cymru, ac mae’r cyfan yn deillio o’r ffaith bod athletwyr wedi dweud wrthyn ni bod hwn yn rhywbeth mae arnyn nhw ei angen ac y maen nhw ei eisiau. Bydd y panel yn darparu gwybodaeth werthfawr gan athletwyr ar lawr gwlad am yr hyn sy'n eu helpu i fod ar eu gorau. Bydd yn helpu i gefnogi amrywiaeth o waith arall sydd ar y gweill fel bod pawb sy’n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru yn gallu creu amgylcheddau gwirioneddol wych sy’n rhoi ystyriaeth lawn i iechyd meddwl a lles athletwyr.

“Er y byddwn ni wrth law i helpu i lywio rhai o’r sgyrsiau mae’r panel yn eu cael, rydyn ni’n awyddus iawn i aelodau’r panel yrru’r agenda yn ei blaen eu hunain. Rydyn ni’n rhagweld y bydd rhai pethau syml y gellir eu newid fel ymateb i adborth y panel, yn ogystal â rhai newidiadau a fydd yn fwy hirdymor.”

Dywedodd Alys Thomas, aelod o’r panel: “Rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r Panel Llais Athletwyr ac yn teimlo y bydd yn paratoi llwybr newydd i wrando ar leisiau athletwyr. Mae eisoes yn teimlo mor wych, cael trafodaethau gydag unigolion o'r un anian o wahanol chwaraeon ar amrywiaeth o bynciau. Gobeithio bod llawer y gallwn ni adeiladu arno i helpu i greu a gwella profiadau athletwyr ledled Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

“Fel nofiwr sydd newydd ymddeol fy hun, rydw i’n wirioneddol angerddol am ddefnyddio fy mhrofiadau i allu rhoi yn ôl i nofio a chwaraeon mewn rhyw ffordd, ac rydw i’n credu bod y rôl yma’n ffordd y galla’ i wneud hynny.”

Alys Thomas yn nofio i Gymru
Fel nofiwr sydd newydd ymddeol fy hun, rydw i’n wirioneddol angerddol am ddefnyddio fy mhrofiadau i allu rhoi yn ôl i nofio a chwaraeon mewn rhyw ffordd, ac rydw i’n credu bod y rôl yma’n ffordd y galla’ i wneud hynny.
Alys Thomas

Dywedodd cyd-aelod o’r panel, Luke George: “Fe wnes i gais i ddod yn aelod o'r Panel Llais Athletwyr oherwydd roeddwn i eisiau cael effaith ar sut gallwn ni helpu plant a phobl ifanc i elwa ar y manteision enfawr sydd gan chwaraeon yng Nghymru i’w cynnig yn ogystal â thrafod a datrys materion mae athletwyr yn eu hwynebu nawr. Rydw i eisiau bod yn rhan o dîm sy’n helpu pob cymuned i sylweddoli pa mor dalentog ydyn nhw drwy ddatgloi unrhyw rwystrau sy’n wynebu ein cenhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.”

Wrth esbonio mwy am sut ffurfiwyd y panel, dywedodd Carly Jackson, Seicolegydd Clinigol yn Chwaraeon Cymru: “Fe wnaethon ni ofyn i bob corff rheoli cenedlaethol hysbysebu’r panel, ac mae’n wych cael cyfranogiad gan gymysgedd o athletwyr presennol sy’n cynrychioli Cymru mewn amrywiaeth o chwaraeon, yn ogystal â rhai sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Weithiau fe all athletwyr sydd wedi gadael yr amgylchedd edrych yn ôl arno yn fwy rhydd a gyda safbwynt mwy rhesymegol. 

“Un peth rydyn ni’n ymwybodol iawn ohono yw’r ffaith nad yw’r panel yn gwbl gynrychioliadol o’n poblogaeth ni. Dydi e ddim mor amrywiol ag y gallai fod ac mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n gobeithio gweithio arno gyda chyrff rheoli cenedlaethol, i’w wella yn y dyfodol.” 

Daeth Carly i’r casgliad: “Fe fyddwn ni’n agored iawn am yr hyn y mae’r panel yn ei drafod ac fe fyddwn ni’n rhannu adborth gyda chwaraeon a’r sector chwaraeon ehangach yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn edrych ar opsiynau ar gyfer sicrhau bod athletwyr eraill yn gallu rhyngweithio’n hawdd iawn ag aelodau’r panel a byddwn yn darparu rhagor o fanylion am hyn yn fuan. 

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy