Skip to main content

Saith rhyfeddod – yr athletwyr o Gymru sy’n anelu am glod yn y byd para athletau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Saith rhyfeddod – yr athletwyr o Gymru sy’n anelu am glod yn y byd para athletau

Bydd tri phencampwr byd sydd â chasgliad o 15 medal aur byd-eang rhyngddynt yn arwain carfan gref o saith athletwr o Gymru ym Mhencampwriaethau Para Athletau y Byd fis hwn yn Dubai.

Yn ymuno ag Aled Davies, Hollie Arnold ac Olivia Breen yn nhîm Prydain Fawr bydd Pencampwyr Ewropeaidd y WPA Sabrina Fortune a Harri Jenkins, a hefyd athletwyr Para Academi Chwaraeon Anabledd Cymru, Kyron Duke a Jordan Howe.

I'r taflwr siot F63, Davies, sydd wedi hawlio chwe theitl byd nodedig, a'r seren taflu gwaywffon F46, Arnold, y gystadleuaeth yn Dubai fydd eu pumed pencampwriaeth byd.

Yn y cyfamser, bydd Breen yn cystadlu yn y naid hir T38 a'r 100m yn ei thrydedd pencampwriaeth byd, ar ôl ennill medalau aur yn y gystadleuaeth yn 2015 a 2017.

Er mai dim ond 25 oed yw Arnold, sy'n dal record byd y waywffon, mae ei gyrfa gyda Phrydain Fawr yn dyddio'n ôl i Gemau Paralympaidd Beijing yn 2008 a hithau'n cystadlu'n ddim ond 14 oed.