Skip to main content

Sbotolau Partner: ColegauCymru

Mae myfyrwyr a phobl ifanc yng Nghymru wedi cael blas ar driathlon a'r gobaith yw eu bod wedi'i fwynhau. 

Roedd y digwyddiad yn ddeuathlon Go-Tri diweddar o fewn gweithgarwch ehangach ym Mharc Gwledig Pen-bre, a oedd hefyd yn cynnwys deuathlon cystadleuol ar gyfer rhedwyr a beicwyr mwy rheolaidd. 

Wedi'i drefnu gan ColegauCymru/Colleges Wales – un o bartneriaid Chwaraeon Cymru – roedd y diwrnod wedi'i anelu at bob gallu ac roedd yn cynnwys myfyrwyr a staff. 

Roedd yn rhan o strategaeth ColegauCymru o geisio cael mwy o bobl i fod yn actif ac yn iach, yn gorfforol ac yn emosiynol, yn enwedig yn y grŵp oedran 16 i 19 oed lle mae ymchwil wedi dangos y gall lefelau gweithgarwch ostwng yn sydyn. 

Mae gan yr elusen agwedd dair elfen at chwaraeon mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Nid yn unig y mae’n gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr yn aros yn iach, ond mae hefyd yn trefnu chwaraeon cystadleuol ar draws y campysau yn ogystal ag annog datblygiad arweinwyr y dyfodol drwy hyfforddi, dyfarnu a gwirfoddoli. 

Yn hynny o beth, roedd y deuathlon yn ticio'r holl flychau, gyda channoedd o fyfyrwyr o bob gallu yn cymryd rhan, athletwyr cystadleuol yn sicrhau amseroedd rasio cryf, a gwirfoddolwyr yn helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth. 

Meddai Rob Baynham, rheolwr prosiect chwaraeon a lles ColegauCymru: "Roedd y deuathlon yn ymgais i gael mwy o bobl yn amgylchedd y coleg i gymryd rhan mewn gweithgarwch, gyda'i gilydd. 

"Roedd wedi'i anelu'n arbennig at annog merched a phobl ag anawsterau dysgu, a allai wynebu rhwystrau ychwanegol i gyfranogiad

"Ond roeddem hefyd yn edrych ar gyfleoedd newydd ar gyfer chwaraeon cystadleuol hefyd. Gan fod triathlon mor boblogaidd, roedd deuathlon yn fformat da i'w gynnig." 

O ran deuathlon, yn hytrach na thriathlon, roedd elfennau rhedeg a beicio, ond nid oedd yn cynnwys unrhyw ddisgyblaeth nofio. 

I'r rheini oedd yn rasio, roedd y llwybr yn cynnwys rhedeg am 5k, ac yna beicio am 20k, cyn dychwelyd i redeg ar lwybr 2.5k i orffen. 

Roedd y digwyddiad blasu 'Go-Tri' ar yr un fformat, ond gyda phellteroedd byrrach.

I ColegauCymru, yr her yw sicrhau bod myfyrwyr a staff mewn 12 o aelod-golegau Addysg Bellach ledled Cymru yn cael digon o gyfle i fod yn actif ac yn cael eu hannog i wneud hynny.

Mae tua 50,000 o fyfyrwyr – tua hanner y boblogaeth yn y grŵp oedran hwnnw - yn mynd i golegau AB yn hytrach na chweched dosbarth.

Merched yn beicio
Staff Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan yn Duathlon 2022. Llun: ColegauCymru
Mae'n ymwneud â cheisio galluogi'r cysylltiad hwnnw rhwng bod yn actif a lles pobl ifanc
Rob Baynham, ColegauCymru

Un o amcanion yr elusen yw bod ei phrosiectau'n cael effaith fuddiol i'r 4,000 i 5,000 o'r dysgwyr hynny sy'n cael eu hystyried yn llai actif.

Yn wir, gallai'r darlun cyffredinol ar gyfer pobl ifanc yn y grŵp oedran hwnnw fod yn llawer mwy pryderus i'r rhai sy'n awyddus i sicrhau bod pawb yn mwynhau manteision gweithgarwch iach.

"Dywedodd hyd at 50 y cant o'r bobl a ymatebodd i arolwg diweddar nad oeddent yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol o gwbl," meddai Baynham.

"Mae hynny'n dipyn o beth i’w ddweud - bod rhywun 16 oed wedi rhoi'r gorau i wneud gweithgarwch corfforol. 

"Erbyn hyn mae yna ddarlun mwy, hefyd, sy'n ymwneud â’r hyn rydyn ni'n ei alw'n llesiant actif. Mae'n ymwneud â cheisio galluogi'r cysylltiad hwnnw rhwng bod yn actif a lles pobl ifanc, yn y grŵp oedran hwnnw rhwng 16 a 21 oed.”

Mae hynny'n swnio'n syml, ond yn sicr nid yw mor hawdd ag y mae'n edrych.

Efallai y bydd nifer o resymau cymdeithasol ac economaidd pam na all rhai pobl ifanc fanteisio ar y cynnig o weithgarwch corfforol, tra gall fod yn anodd rhagweld agweddau at gynigion ffurfiol o chwaraeon a gweithgareddau hamdden corfforol. 

"Ein nod yw cael y colegau i annog pobl ifanc i fod yn fwy actif," meddai Baynham, a gydlynodd y prosiect deuathlon gyda Thriathlon Cymru, Coleg Sir Gâr, Chwaraeon AoC, Beicio Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Pharc Gwledig Pen-bre. 

"Ond mae'n anodd pan rydych chi'n delio â phobl ifanc 16 oed a allai fod wedi cael digon ar Addysg Gorfforol neu chwaraeon yn yr ysgol. Felly, mae'n golygu ail-ymgysylltu.”

Mae hynny'n golygu ymgynghori, yn enwedig gyda phobl ifanc yn eu harddegau a allai fod wedi mynd o amgylchedd ysgol yn sydyn, lle mae rhywfaint o chwaraeon yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, i un lle mae'n wirfoddol.

"Ychydig flynyddoedd yn ôl, ni fyddai unrhyw ymgynghori â'r myfyrwyr," ychwanega Baynham.

"Byddai sesiwn pêl-rwyd, aerobeg neu ioga yn cael ei threfnu, byddai'r athro'n cyrraedd ac yna, efallai na fyddai neb yn dod. 

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer mwy o ymgynghori gan bobl y gall y myfyrwyr uniaethu â nhw.  Bydd y trafodaethau hynny'n golygu bod pobl yn ymwybodol o'r heriau cymdeithasol, pethau eraill sy'n digwydd yn eu bywydau.”

Amser a ddengys a fydd y rhai a gafodd eu cyflwyno i bleserau syml deuathlon - athletwyr a gwirfoddolwyr - yn teimlo eu bod wedi'u hysbrydoli i wneud mwy.

Ond gyda bron i 300 o fyfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe, Coleg Caerdydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Sir Gâr a Cheredigion a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd rhan yn y digwyddiad Go-Tri, y gobaith yw y bydd digon wedi mwynhau digon i roi cynnig ar fwy o weithgareddau yr haf hwn.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy