Skip to main content

Sbotolau Partner: Dawns UDOIT!

Ysgolion ledled Cymru yn dod yn fwy heini drwy ddawnsio stryd – diolch i help UDOIT!

Mae’r grŵp elusennol – a phartner i Chwaraeon Cymru – yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gael manteision iechyd corfforol a meddyliol o ddawns sy’n cyd-fynd â gweithgareddau chwaraeon mwy traddodiadol.

Mae cwmni dawns UDOIT! - a sefydlwyd yn 2014 - wedi bod yn ymweld ag ysgolion mewn ardaloedd ledled Cymru ac yn darparu gwybodaeth a help ymarferol i annog plant o bob oedran i gymryd rhan mewn dawns.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o chwaraeon a gweithgareddau, gellir dawnsio heb unrhyw offer. Y cyfan sydd ei angen yw rhywfaint o le addas.

Ffurfiodd Chwaraeon Cymru bartneriaeth gydag UDOIT! yn 2016 i alluogi lledaeniad ehangach a phoblogrwydd cynyddol dawnsio stryd. Ers hynny, maent wedi bod yn helpu i ddarparu cyfleoedd i filoedd o bobl ifanc. 

Mae UDOIT! rhedeg rhaglen clwb lloeren sy'n cynnwys mynd i ysgolion i roi cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar ddawns stryd mewn amgylchedd sy'n gyfforddus iddynt.

Ar ôl i'r 12 wythnos ddod i ben, gall plant sydd â'r hyder a'r cymhelliant i barhau ymuno â chlwb partner yn y gymuned.

Ar hyd y cenedlaethau, mae pobl sy'n caru dawnsio wedi gwybod ei fod yn eu cadw'n heini, yn iach ac yn hapus - boed yn gefnogwyr Ceroc, Salsa, Swmba, dawnsio neuadd ddawns, Bollywood, dawnsio llinell, tap, fflamenco neu ddawnsio cadair olwyn.

Gall dawnsio stryd gynnig ymarfer corff mor heriol ag unrhyw gamp ac mae'n hwyl, yn llawn mynegiant ac yn gymdeithasol iawn.

Dywedodd rheolwr gweithrediadau a datblygu UDOIT!, Natalie Pitman: “Mae Chwaraeon Cymru yn cyllido ein sefydliad dawns fel partner cenedlaethol a’n nod ni yw ysbrydoli, ymgysylltu a grymuso drwy gyfrwng dawnsio stryd.

“Mae ein partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru yn ein galluogi i sicrhau bod dawnsio stryd yn hygyrch i bawb, gan greu cyfleoedd i’r rhai mewn cymunedau difreintiedig gael mynediad i ddawnsio stryd ar garreg eu drws.

“Maen nhw’n gwneud hynny mewn lle sy’n gyfarwydd ac yn ddiogel iddyn nhw, am bris sy’n fforddiadwy a thrwy ddull cyflwyno sy’n ysgogi ac yn ysbrydoli. 

“Mae hynny i gyd yn sicrhau eu bod eisiau dod yn ôl bob wythnos.”

Hyd yma, mae’r grŵp wedi rhedeg clybiau yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Benfro, Torfaen, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Casnewydd ac Abertawe, gyda mwy i ddilyn.

“Mae ein rhaglenni wedi’u teilwra ar gyfer pob ardal a chynulleidfa rydyn ni’n gweithio gyda nhw,” ychwanegodd Natalie.

“Byddwn yn addasu ein rhaglenni yn ôl yr angen i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y grŵp rydyn ni’n gweithio gydag ef.”

Mae dawnsio stryd yr un mor boblogaidd gyda dawnswyr gwrywaidd a benywaidd ac mae'r grwpiau cymysg yn defnyddio mannau amrywiol fel campfeydd, neuaddau eglwys, clybiau ieuenctid a meysydd parcio hyd yn oed.

“Does dim angen cit penodol,” meddai Natalie. “Dim ond esgidiau cyfforddus, call. Mae dawns yn berthnasol i bob oedran, rhyw, credo, a gellir dawnsio ar unrhyw lefel, o ddechreuwyr pur i lefel uwch.”

Arweinydd dawns yn annog criw mawr o blant i ddawnsio
Llun: Dawns UDOIT!
Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth iau i fod eisiau dod drwodd i fod yn arweinwyr i’r plant yn eu cymunedau.
Dawns UDOIT!

Mae astudiaethau wedi dangos y gall dawns, fel ymarfer egnïol, losgi mwy o galorïau na rhedeg.

Canfu astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Brighton y gall sesiwn 30 munud o ddawnsio losgi 534 o galorïau, tra bod 30 munud o redeg yn llosgi dim ond 528.

Ond mae mwy i'r bartneriaeth – a'i nodau – na ffitrwydd corfforol yn unig.

“Drwy ein partneriaeth, rydyn ni wedi gweld sut mae Dawnsio Stryd yn cynnig cymaint o fanteision eraill i bobl, gan gynnwys o ran eu hiechyd corfforol, iechyd meddwl, cynhwysiant cymdeithasol, dod â chymunedau at ei gilydd, ac ysbrydoli’r rhai hynny nad ydynt efallai’n cymryd rhan mewn darpariaeth chwaraeon draddodiadol, ” ychwanegodd Natalie.

“Rydyn ni wedi datblygu rhaglenni sy’n defnyddio Dawnsio Stryd i helpu’r rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, unigolion sy’n ymwneud â throseddau gangiau neu gyllyll, hyd at y rhai sy’n helpu’r henoed sy’n byw mewn cartrefi gofal i fod yn actif. 

“Rydyn ni hefyd wedi datblygu rhaglen arweinyddiaeth dawnsio stryd, sy'n caniatáu i bobl ifanc a hoffai ddechrau ar eu siwrnai at arweinyddiaeth ac addysgu dawnsio stryd.

“Gyda dawnsio stryd yn newid yn gyson, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth iau i fod eisiau dod drwodd i fod yn arweinwyr i’r plant yn eu cymunedau.”

Mae UDOIT! yn cynnal rhaglen clwb lloeren sy'n cynnwys mynd i ysgolion mewn ardal i gyflwyno dawnsio stryd.

Mae hyn yn galluogi plant i gael blas a llwybr tuag at glwb ar ôl ysgol a fydd wedyn yn cael ei sefydlu.

I’r rhai sydd eisiau perfformio ar lefel uwch, mae gweithdai a chystadlaethau hefyd, gyda digwyddiad Ysgolion Cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnal ar Fawrth 23 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am fod yn rhan o Sefydliad Dawns UDOIT, cysylltwch â: [javascript protected email address] neu ar gyfryngau cymdeithasol

Newyddion Diweddaraf

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy