Skip to main content

Sbotolau Partner: Urdd Gobaith Cymru

Ar hyn o bryd mae mudiad Urdd Gobaith Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed mewn steil drwy weithio gyda'i bartneriaid i hyrwyddo digwyddiadau fel Rygbi 7 bob ochr i Ysgolion Cenedlaethol a Gemau Stryd - tra hefyd yn nodi ei ben-blwydd mewn steil drwy dorri recordiau'r byd. 

Yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru ac mae wedi darparu cyfleoedd i dros bedair miliwn o bobl ifanc fwynhau profiadau chwaraeon, diwylliannol, gwirfoddoli a phreswyl drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd llawer o blant sydd wedi cael eu magu yng Nghymru wedi bod ar dripiau ysgol i leoedd fel Llangrannog a Glan-llyn, tra hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon neu Eisteddfodau a drefnir gan yr Urdd. 

Bu'r Urdd a'i gefnogwyr yn anrhydeddu'r garreg filltir drwy dorri Record Byd Guinness am y nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu'r un gân wedi’u llwytho i fyny i Facebook a Twitter mewn cyfnod o awr. 

Roedd 1,176 fideo o bobl yn canu "Hei Mistar Urdd" wedi eu postio ar Twitter a dros 800 ar Facebook. Cafodd y caneuon eu llwytho i fyny ar 25 Ionawr sef pen-blwydd swyddogol yr Urdd.

"Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth arwyddocaol iawn i nodi a dathlu canmlwyddiant yr Urdd ac roedd angen iddo fod yn rhywbeth a allai gynnwys ein holl aelodau, rhai’r gorffennol a'r presennol," meddai Sian Lewis, sy'n brif weithredwr yr Urdd. 

“Roedd sicrhau Record Byd Guinness ddwywaith yn berffaith. Roedd yn wych gweld ein holl aelodau yn cymryd rhan - yn amrywio o ysgolion, clybiau chwaraeon, gwirfoddolwyr a busnesau. 

"Roedd yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu arwyddocaol yn y gwaith o wneud yr Urdd yn fudiad pwysig i bobl Cymru.” 

Bu pandemig Covid-19 yn gyfnod heriol i'r Urdd ond mae bellach yn edrych i'r dyfodol ac mae ganddo ystod o ddigwyddiadau a chynlluniau newydd ar waith i gwblhau ei flwyddyn canmlwyddiant. 

"Does dim dwywaith mai'r cyfnod ers Mawrth 2020 fu'r un mwyaf heriol yn ein hanes," ychwanegodd Lewis. 

"O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu'n rhaid i ni gau ein gwersylloedd a bu'n rhaid i'n gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a diwylliannol rheolaidd ddod i ben.  

"Fodd bynnag, rydyn ni'n ailadeiladu, a bydd blwyddyn ein canmlwyddiant yn un i'w chofio, gyda chynlluniau pob adran yn adlewyrchu ein hysbryd a'n huchelgais.” 

Mae gan chwaraeon ran ganolog yn y gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg i'r Urdd ac roedd ei gyfarwyddwr chwaraeon, Gary Lewis, yn falch o fod wedi gallu cynnig gwasanaeth i bobl ifanc yn ystod y pandemig. 

"Yn ystod Covid, fe wnaethon ni gynnig gwersi chwaraeon digidol drwy brosiect o'r enw Actif Adref," meddai Lewis. 

“Rhoddodd hyn gyfle i blant oed cynradd roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon fel gymnasteg, pêl-droed, rygbi a phêl-fasged ac roedd yn wych cysylltu â gwahanol bartneriaid fel Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Roedd dros 2,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn ein sesiynau ar-lein bob wythnos, ac roedd yn bwysig i ni ddangos ein hymrwymiad i bobl ifanc yn ystod y pandemig a sicrhau nad oeddent yn colli allan.” 

Bechgyn yn gwenu mewn cit mwdlyd ar ôl chwarae rygbi
Bydd 7 bob ochr yr Urdd hyd yn oed yn fwy cynhwysol yn nhwrnament 2022.
Roedd yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu arwyddocaol yn y gwaith o wneud yr Urdd yn fudiad pwysig i bobl Cymru.
Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd

Mae Lewis hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid fel Undeb Rygbi Cymru ar ddigwyddiadau fel twrnamaint 7 bob ochr i Ysgolion Cenedlaethol, lle bydd dros 500 o dimau yn cystadlu yng Nghaeau Pontcanna yng Nghaerdydd, rhwng 4 ac 8 Ebrill. 

"Mae ein partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a gwella cyfleoedd i bawb. 

"Mae rygbi yn gêm i bawb, ac rydyn ni'n falch o wneud twrnamaint 2022 yn fwy cynhwysol nag erioed drwy gynnwys timau merched a chystadlaethau rygbi cadair olwyn.” 

Meddai Geraint John, cyfarwyddwr cymunedol Undeb Rygbi Cymru: "Mae ein partneriaeth gyda'r Urdd yn un rydyn ni'n ei thrysori. 

"Mae ein nodau'n gyson o ran defnyddio rygbi i wneud gwahaniaeth i bob cymuned yng Nghymru – a chynnwys pob person ifanc yn y cymunedau hynny. 

"Fe wnaeth y pandemig daro pobl ifanc yn arbennig o galed felly mae'n wych gweld eu hawydd i ddod at ei gilydd a chystadlu eto ac rydyn ni'n edrych ymlaen at wahodd timau o wledydd eraill y Chwe Gwlad i fod yn rhan o gystadleuaeth 7 bob ochr wych yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru.”

Mae'r Urdd hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru ar y Gemau Stryd yr haf hwn. 

Cynhelir y digwyddiad yng nghanol Bae Caerdydd dros benwythnos 18-19 Mehefin ac mae Lewis yn awyddus i hyrwyddo nifer o chwaraeon a fu'n boblogaidd yn y Gemau Olympaidd. 

"Yn dilyn llwyddiant ysgubol BMX, sglefrfyrddio a Phêl-fasged 3x3 yng Ngemau Olympaidd Tokyo, nod y digwyddiad hwn yw arddangos a dathlu'r chwaraeon newydd hyn ynghyd â gweithgareddau eraill ar y llwyfan trefol," meddai.

"Rydyn ni'n disgwyl i tua 3,000 o gyfranogwyr fod yng Nghaerdydd ar gyfer y digwyddiad ac ni fydd canran fawr o'r rheini'n siaradwyr Cymraeg, felly bydd yn gyfle da i hyrwyddo'r iaith i bawb sy'n cymryd rhan.” 

Mae Lewis yn falch iawn o weithio gydag amrywiaeth o wahanol bartneriaid ac mae'n dweud ei bod yn hanfodol bod chwaraeon a'r Gymraeg yn cydweithio dros bobl ifanc. 

"Mae 15,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn clybiau cymunedol cyfrwng Cymraeg yr Urdd bob wythnos, ac rydyn ni'n falch iawn o gynnig ystod wych o glybiau chwaraeon sy'n addas i anghenion pawb. 

“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'n holl bartneriaid sy'n cydweithio i wneud ein gwaith yn gymaint o lwyddiant ac mae gennym ddiddordeb bob amser mewn gweithio gyda sefydliadau newydd hefyd. 

“Hefyd, mae gennym bron i 200 o brentisiaid cyfrwng Cymraeg yn cael hyfforddiant ar hyn o bryd. Mae'r cyfleoedd hyn ar gael i bob partner yn rhad ac am ddim. 

"Rydyn ni'n cynnig prentisiaethau mewn arwain gweithgareddau, datblygu chwaraeon, Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol, y sector awyr agored a'r blynyddoedd cynnar.”

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy