Skip to main content

Seren rygbi Rio yn ysbrydoli adran iau ei hen glwb sydd wedi’i hadfywio

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Seren rygbi Rio yn ysbrydoli adran iau ei hen glwb sydd wedi’i hadfywio

Gyda seren rygbi Cymru ar hyn o bryd, Rio Dyer, yn fodel rôl, mae adrannau mini ac iau Clwb Rygbi Harriers y Pîl yn ffynnu diolch i arian y Loteri Genedlaethol.

Roedd asgellwr Cwpan y Byd, a gafodd ei eni yng Nghasnewydd, yn arfer chwarae i’r clwb o Billgwenlli yn fachgen ysgol, tra bod ei gyd-chwaraewr o dîm y Dreigiau, Ashton Hewitt, hefyd wedi dysgu ei grefft gyda’r Harriers, ond yn anffodus daeth adrannau mini ac iau y clwb i ben yn 2017.

Fodd bynnag, mae llinell gynhyrchu talent rygbi y Pîl bellach yn ôl yn llawn ar ôl i’r clwb wneud cais llwyddiannus i Chwaraeon Cymru am grant Cronfa Cymru Actif – sy’n dosbarthu arian y loteri i chwaraeon ar lawr gwlad – i helpu i ailsefydlu eu hadrannau mini ac iau.

Dyfarnwyd £4,700 i’r clwb yn gynharach eleni er mwyn iddo allu prynu’r holl beli, bagiau taclo, gwarchodwyr pen, setiau gwregysau tag ac offer arall yr oedd arnynt ei angen i ailsefydlu, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi a chymorth cyntaf i’w wirfoddolwyr.

Dywedodd Matthew Amos, Hyfforddwr Dan 13 yng Nghlwb Rygbi Harriers y Pîl: “Roedden ni’n dechrau o’r dechrau, felly fe wnaethon ni wneud cais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i brynu’r hyn roedden ni ei angen i gael y plant allan ar y cae gyda sesiynau hwyliog a diddorol, gan adeiladu’r adran iau o'r gwaelod i fyny. Roedd gwneud cais am y cyllid yn broses syml iawn ac roedd Chwaraeon Cymru o gymorth mawr wrth roi cyngor a chefnogaeth.”

Ychwanegodd Brian Cromwell, Cadeirydd Clwb Rygbi Harriers y Pîl: “Rydyn ni yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ne Cymru, felly’r hyn rydyn ni’n ei wneud yw ceisio annog pobl ifanc yr ardal, gan wneud iddyn nhw deimlo bod eu heisiau nhw a’u cynnwys nhw yn y gymuned. Roedd yn amlwg o’r dechrau bod llawer o alw gan blant lleol am chwarae rygbi ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod gwirfoddolwyr wedi dod ymlaen i gymryd rhan. Mae’n wych gweld faint mae’n ei olygu i’r plant, cael bod yn rhan o’r clwb. Fe gawson nhw eu hysbrydoli hefyd o weld Rio yn chwarae yng Nghwpan y Byd – roedden ni i gyd yn falch iawn ohono.”

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd tuag at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut gellid defnyddio Cronfa Cymru Actif i helpu i ddatblygu mwy o gyfleoedd chwaraeon i bob aelod o'ch cymuned leol, ewch i www.chwaraeon.cymru