I grŵp o ferched o gymunedau amrywiol yng Nghasnewydd, mae eu hoff amser yn ystod yr wythnos yn digwydd yn y pwll nofio.
Gyda chymorth gan Gronfa Cymru Actif, mae'r elusen leol, KidCare4U, yn cynnig sesiynau nofio i ferched yn unig, gyda'r grant o £4700 yn talu costau llogi'r pwll.
Y nod? Cael 30 o ferched o gefndiroedd amrywiol i nofio'n rheolaidd. Maen nhw wedi chwalu'r targed hwnnw'n llwyr. Ers mis Medi 2024, maen nhw wedi bod yn croesawu tua 150 o ferched i’r pwll.
Mae croeso i bob dynes, ond merched Mwslimaidd sy'n dod yn bennaf, cymysgedd o ferched o Bacistan, Bangladesh, Yemen, Swdan, Somalia, Moroco, Twrci a mwy yn dod at ei gilydd.
Fe aethon ni i lawr i'r pwll i ddysgu pam fod y prosiect mor bwysig ac i ymchwilio i pam ei fod yn creu cymaint o argraff…
“Yn ddiwylliannol, mae arnon ni angen rhywle lle rydyn ni’n teimlo’n ddiogel.”
“Cyn i ni ddechrau, doedd dim sesiynau i ferched yn unig felly doedden ni ddim yn teimlo’n ddigon cyfforddus i nofio. Weithiau, mae gan byllau nofio ffenestri mawr agored fel bod rhieni’n gallu gwylio eu plant ond rydyn ni'n Fwslimiaid sy'n golygu bod angen i ni fod mewn amgylchedd i ferched yn unig.” Geiriau Ayesha sy'n helpu i gynnal y sesiynau ac mae hi hefyd yn cymryd rhan.
Yng Nghasnewydd, mae'r lleoliad ei hun wedi'i gynllunio fel nad oes gan y pwll ardal gyhoeddus i wylwyr, gan ei wneud yn berffaith ar gyfer y sesiynau yma. Mae hyn yn cael ei ddatrys mewn lleoliadau eraill drwy osod bleinds yn eu lle.