Skip to main content

Sgwrsio gyda ... Beth Dyke

Mae wedi bod yn rolyrcostyr o flwyddyn i Bethan Dyke ac yn un mae ei 'theulu pêl rwyd' wedi ei helpu drwyddi.

“Dydw i ddim yn gallu credu bod mwy nag 14 mis wedi mynd heibio ers fy namwain i” meddai wrth i ni sgwrsio cyn ei sesiwn hyfforddi gyda phêl rwyd Cymru yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Y ddamwain mae hi’n cyfeirio ati yw’r un a fyrhaodd ei hail brofiad o’r Gemau Cymanwlad, pan gafodd anaf ACL yn ail gêm y Gemau ar yr Arfordir Aur.

“Roedd yn gêm hwyr y nos yn erbyn yr Alban” cofia’r ferch 24 oed.

“Roedd mor swreal. Fe ddigwyddodd popeth yn sydyn iawn y noson honno gyda’r profion a’r canlyniadau; Roedd Tim Cymru yn ardderchog.”

Doedd dim posib ei chysuro er gwaethaf ymdrechion aelodau eraill y tîm.

Roedd y diwrnod canlynol yn ddiwrnod gorffwys ac arhosodd pawb ar eu traed yn hwyr, i geisio dirnad y newyddion.

“Roedd yn erchyll” ychwanegodd. “Mewn camp i dimau, mae effaith fawr ar bawb arall.”

Wrth lwc, roedd teulu Beth allan yn Awstralia ac yn gallu ei chefnogi wrth iddi ymdopi â’r newyddion.

Roedd y gefnogaeth, y cardiau a’r dymuniadau da i Beth yn anhygoel. “Dydych chi ddim yn sylweddoli bod cymaint o bobl yn poeni. Dyna’r peth mwyaf ddois i adref gyda fi – cael fy atgoffa o ochr bositif chwaraeon, yn enwedig chwaraeon tîm.”

Ar ôl y llawdriniaeth fis Mai diwethaf, dechreuodd ar y siwrnai araf i wella. “Fe gymerodd chwe wythnos i’r chŵydd fynd i lawr a gwneud tasgau syml rydych chi’n eu cymryd yn ganiataol, fel dysgu cerdded yn iawn eto” esboniodd yr ymosodwraig ar yr asgell. Er bod y broses yn un undonnog, roedd yn bwysig i mi beidio â brysio’n ôl.

Fe wnes i ei holi sut wnaeth hi gadw ei hysbryd yn ystod y misoedd yma.

“Fe wnes i osod nodau bach iawn i mi fy hun” esbonia.

“Pan glywais i y gallai adfer gymryd 9 i 12 mis, roedd rhaid i mi dorri hynny’n nodau wythnosol realistig.” Ni roddodd unrhyw bwysau arni hi ei hun.

“Fe allwch chi ddarllen am anafiadau ACL a beth ‘ddylech’ chi fod yn ei wneud ar ôl rhyw bwynt penodol, ond mae’n rhaid i chi ganolbwyntio arnoch chi’ch hun, heb gymharu – mae pawb yn wahanol.”

Roedd y chwaraewraig bêl rwyd o Ben-y-bont ar Ogwr ar gwrt y Dreigiau Celtaidd 9 mis yn ddiweddarach.

Meddai: “Fe gefais i gefnogaeth lawn i ddod yn ôl yn raddol ac roedd agwedd bositif y tîm o help i fy nghymell i.”

Dyna'r prif beth, gwybod bod y genhedlaeth nesaf yn cael ei hysbrydoli - nhw fydd yn dod drwodd ymhen blynyddoedd i ddod

Rhoddodd y cefnogwyr hwb ychwanegol i Beth.

"Mae gennym ni gefnogwyr anhygoel, sy'n aros am hanner awr ar ôl y gêm i dynnu lluniau a chael llofnodion" esbonia.

"Dyna'r prif beth, gwybod bod y genhedlaeth nesaf yn cael ei hysbrydoli - nhw fydd yn dod drwodd ymhen blynyddoedd i ddod."

Mae bod yn fodel rôl yn rhywbeth mae Beth yn ei weld fel cyfle positif. A dweud y gwir, mae hi wedi defnyddio'r flwyddyn ddiwethaf i ddilyn cwrs hyfforddiant athro, oherwydd ei hoffter hi ei hun o AG yn blentyn.

"Fe gefais i brofiad positif iawn o AG yn yr ysgol (Ysgol Gyfun Brynteg) ac roeddwn i eisiau bod yn athrawes AG fy hun" ychwanegodd.

Gan nad yw pêl rwyd yn gwbl broffesiynol, mae cael gyrfa wedi bod yn nod pwysig i Beth erioed.

Arhosodd ym Met Caerdydd i wneud ei gradd Meistr, cyn gweithio yn Ysgol Millfield a dilyn cwrs TAR. "Rydw i wastad wedi canolbwyntio ar fy mywyd i y tu allan i bêl rwyd" ychwanegodd.

"Fel athrawes, i mi, bydd yn ymwneud â deall gwahanol ddisgyblion. 'Fydd pawb ddim yn mwynhau gweithgareddau cystadleuol.

"Roeddwn i'n mwynhau chwaraeon amrywiol, o rai cystadleuol i'r gweithgareddau mwy creadigol fel gymnasteg a dawns."

Roedd chwaraeon yn rhan enfawr o fagwraeth Beth ac mae ei hwyneb yn goleuo wrth siarad am ddylanwad positif ei theulu.

Meddai: "Wrth i mi dyfu i fyny roedd fy nheulu i'n hoff iawn o chwaraeon. Roedd fy nhad yn chwarae llawer iawn o rygbi, ac roedd fy mam yn chwarae ychydig o bêl rwyd ac yn nofio. Fe wnes i a fy chwaer wylio llawer o chwaraeon cyn i ni ddechrau chwarae yn yr ysgol."

Rhoddodd yr ysgol gyfleoedd iddi ymuno â chlybiau - gan gynnwys pêl rwyd.

"Fe wnes i ddechrau chwarae yn nhîm yr ysgol ym Mlwyddyn 4 neu 5" esbonia. "Roeddwn i'n lwcus iawn, oherwydd roedd llawer o fy ffrindiau i'n chwarae pêl rwyd ac fe aethon ni bob cam drwy'r ysgol yn chwarae gyda'n gilydd."

Ond nid dim ond pêl rwyd oedd yn bwysig i Beth, a gymerodd ran mewn cymysgedd amrywiol o chwaraeon, o achub bywyd i drampolinio a gymnasteg.

“Roeddwn i wir yn awyddus i ymuno â chymaint o weithgareddau â phosib ac fe wnes i fwynhau pob un. Roedd chwaraeon yn gyfle i mi gyfarfod ffrindiau newydd a mwynhau’r ochr gymdeithasol.”

Ddegawd yn ddiweddarach, mae Beth wedi cael ei dewis i garfan Cymru ar gyfer Cyfres Brawf yr Haf eleni ac mae’n edrych ymlaen at chwarae yn Arena Viola eto.

Oddi ar y cwrt, sut mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a chwaraeon?

“Rydw i’n gweithio ar hynny!” cyfaddefa. “Mae cynllunio fy amser yn enfawr i mi, yn enwedig ar ôl cael blwyddyn unigryw gyda hyfforddiant athro ac adfer.”

Ychwanegodd: “Rydw i’n hoffi treulio amser gyda theulu a ffrindiau. Mae fy nghariad i’n byw i ffwrdd felly mae hynny’n hunllefus; mae angen llawer o drefnu a gwneud amser i ymlacio!”

Mae’n dweud sut gwnaeth yr anaf y llynedd roi pethau mewn persbectif iddi – “Fe wnaeth fy atgoffa i nad ydi pethau bob amser yn digwydd fel maen nhw i fod.

Dim ots faint o waith rydych chi’n ei wneud i gyrraedd rhywle, mae pethau’n gallu newid yn gyflym.”

Meddai: “Mae pêl rwyd yn gamp y mae’r rhan fwyaf o ferched wedi’i chwarae yn yr ysgol, ond roedd Aur Lloegr yng Ngemau’r Gymanwlad yn hwb gwych ac mae gwell sylw i’w gael erbyn hyn. Roedd yn siomedig na lwyddodd Cymru i gymhwyso ond rydyn ni’n edrych ymlaen at y Gyfres Brawf a chwarae yn erbyn rhai o chwaraewyr gorau’r byd ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd y cynnydd yn parhau.”

Felly pam ddylem ni ymuno â’r dorf?

“Hyd nes i chi ddod draw i wylio, ’wnewch chi ddim deall pa mor gyffrous yw’r gêm!” meddai Beth.

Ac yn heini unwaith eto ac yn llawn brwdfrydedd am y dyfodol, i ffwrdd â hi i ymuno â gweddill y garfan ar gyfer sesiwn ymarfer.