Skip to main content

Y gobaith ar gyfer Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y gobaith ar gyfer Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru

Bydd Cymru yn elwa o raglen triathlon elitaidd yng Nghaerdydd - a champ sy’n profi cynnydd mawr - erbyn i Gemau Cymanwlad y flwyddyn nesaf gael eu cynnal.

Dyna farn gadarn Louis Richards, pennaeth perfformiad Triathlon Cymru, sy’n credu y gall teimlad da ar ôl Gemau Olympaidd Tokyo ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ddilyn yn ôl troed Non Stanford a Helen Jenkins.

Enillodd Prydain Fawr aur yn y ras gyfnewid gymysg yn Japan ym mis Gorffennaf, ynghyd â medalau arian unigol yn nghystadlaethau’r dynion a’r merched i Alex Yee a Georgia Taylor-Brown.

Bydd y tri theitl ar gael yn Birmingham 2022, y tro cyntaf y bydd cylch pedair blynedd llawn wedi bod ar  gyfer Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru - partneriaeth rhwng Triathlon Cymru, Prifysgol Caerdydd a Met Caerdydd gyda'r nod o gynhyrchu perfformwyr elitaidd.

“Pan wnes i ddechrau yng Nghymru bedair blynedd yn ôl, roedd ychydig o ffocws yma i’r athletwyr geisio bod y gorau yng Nghymru, yn hytrach na’r gorau yn y byd,” meddai Richards, sydd hefyd wedi gweithio gyda Thriathlon Prydain.

“Mae Cymru’n wlad fechan ac os ydych chi'n gosod eich nod yng Nghymru yn unig, ’fyddwch chi ddim yn cyrraedd safonau byd.

“Rhaid i chi fod yn glir am beth fydd y safonau, ond rhaid i chi hefyd roi amser i'r athletwyr gyrraedd yno. Mae'n gamp lle mae datblygiad tymor hir yn talu ar ei ganfed ac mae pobl yn cymryd ychydig flynyddoedd i gyrraedd eu gorau.”

Ar hyn o bryd mae 16 o driathletwyr - 11 gwryw a phum benyw - wedi'u lleoli yn y ganolfan berfformio, gan ddefnyddio cyfleusterau Met Caerdydd.

Gallant frolio dau hyfforddwr llawn amser ac maent wrthi'n recriwtio trydydd, gyda chefnogaeth ymarferwyr gwyddoniaeth chwaraeon yn y brifysgol.

Mae'r ganolfan bellach yn cael ei chydnabod yn swyddogol fel canolfan lwybr gan Driathlon Prydain, gan roi'r opsiwn i driathletwyr Cymru leoli eu hunain yng Nghymru, yn hytrach na symud i Loegr.

“Mae wedi ehangu’n eithaf cyflym, ond rydyn ni nawr ar y pwynt lle rydyn ni wedi sefydlu ar gyfer y pedair i wyth mlynedd nesaf i gefnogi’r athletwyr sy’n dod drwodd,” meddai Richards.

“Cyn hyn, pan oedd athletwyr yn troi’n 18 oed ac eisiau hyfforddi mewn canolfan berfformio elitaidd, byddai’n rhaid iddyn nhw fynd i Loegr i wneud hynny. Nawr mae gennym ni amgylchedd ar gyfer athletwyr o Gymru os ydyn nhw'n dymuno aros yng Nghymru.

“Rydw i’n credu mai dim ond crafu’r wyneb ydyn ni wedi ei wneud o ran ein perthynas â Met Caerdydd. Nid cyfleusterau yn unig sy’n allweddol; cyn Covid, roedden ni’n darparu profiadau dysgu i wyth i 10 o’u myfyrwyr - staff perfformiad y dyfodol. ”

 

Mae'r elfen elitaidd yn golygu nad yw'r ganolfan ar gyfer cystadleuwyr iau yn unig, fodd bynnag, ac ar hyn o bryd mae ystod oedran y grŵp yn ymestyn o 18 i 31.

Ar ôl llwyddo i gadw’r athletwyr yn dal ati drwy gyfnod llwm a hir y pandemig, mae'r ganolfan bellach yn canolbwyntio unwaith eto ar ddychwelyd i gystadlu mewn camp sy'n parhau i dyfu ar bob lefel.

“Y peth anoddaf i athletwyr yn ystod y cyfnod clo oedd colli'r amgylchedd tîm, cael eich ffrindiau o'ch cwmpas chi, pan rydych chi'n hyfforddi,” meddai Richards. 

“Dyna oedd y broblem yn fwy na pheidio â rasio, ond fe lwyddon ni i gadw pobl yn llawn cymhelliant ac yn actif a nawr fe allwn ni feddwl am gystadlu eto.”

Mae Stanford - a anwybyddwyd yn ddadleuol iawn wrth i Brydain Fawr ddewis cystadleuwyr ar gyfer Tokyo - yn parhau i fod yn driathletwr mwyaf adnabyddus Cymru a’r gobaith yw y bydd cyn-bencampwraig y byd yn arwain y ffordd i Gymru yn Birmingham y flwyddyn nesaf pan fydd yn 33 oed.

“Rydw i’n credu bod gan Non rywfaint o fusnes anorffenedig, ar ôl peidio â chael lle yn y Gemau Olympaidd,” meddai Richards.

“Mae ganddi rywbeth i’w brofi o hyd ac mae’n athletwr gwych.”

Mae Stanford yn rhan o grŵp hyfforddi Joel Filliol - carfan ryngwladol sy'n dilyn yr haul a'r calendr triathlon rhyngwladol, yn hytrach na gosod eu hunain mewn lleoliad penodol.

Mae ei chydaelod yn nhîm Gemau'r Gymanwlad ar gyfer yr Arfordir Aur 2018, Olivia Mathias, wedi'i lleoli yn Loughborough, ond mae rhai eraill a allai gael lle yng ngharfan Birmingham sydd ymhlith athletwyr canolfan berfformio Caerdydd. 

Maent yn cynnwys Iestyn Harrett, un arall a oedd yng Ngemau 2018, Jenny Manners, Issy Morris a Dom Coy, seren newydd 18 oed.

Wedyn, mae rhai triathletwyr diddorol o Gymru yma ac acw mewn llefydd eraill, gan gynnwys llanc 18 oed arall, Osian Perrin, sydd wedi'i leoli ar Ynys Môn ac sydd wedi bod yn cynhyrfu’r dyfroedd mewn athletau gydag amseroedd 5,000m a 10,000m nodedig.

Mae Perrin yn cael ei ysbrydoli gan Yee, y dangosodd ei rediad 10k yn Tokyo ei ddawn fel athletwr trac 10,000m.

Dilynwyd arian Yee yng nghystadleuaeth y dynion yn Tokyo gan aur fel rhan o’r ras gyfnewid gymysg - fformat sydd wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd ac yn tanlinellu dyfodol disglair y gamp, yn ôl Richards.

“Mae gennym y rasys cyfnewid cymysg a’r fformatau byr newydd gwallgof yma mewn triathlon, sy’n profi’n wych i’w gwylio.

“Mewn athletau, mae llawer o bellteroedd, felly pam ddim cael pellteroedd gwahanol mewn triathlon?

“Rydyn ni hefyd yn gamp lle gallwch chi wneud mwy na dim ond ennill medalau, fe allwch chi ennill yn dda hefyd, lle mae'r athletwyr yn llongyfarch ac yn parchu ei gilydd ac yn cael eu trin fel bodau dynol. Mae'r dyfodol yn edrych yn dda iawn.”

Triathletwyr yn rhedeg i'r môr

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy