Main Content CTA Title

Reidio’r tonnau at iechyd: Sut mae Surf Therapy yn cefnogi iechyd meddwl

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Reidio’r tonnau at iechyd: Sut mae Surf Therapy yn cefnogi iechyd meddwl

“’Fydd fy PTSD i ddim yn diflannu. Ond mae Surf Therapy yn fy helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.” - Laurence Winmill

Bob dydd Sul, mae Laurence Winmill yn padlo allan i'r môr agored gyda Surf Therapy - prosiect cymunedol sy'n defnyddio pŵer y môr i gefnogi iechyd meddwl.

Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect yn helpu pobl i ddod o hyd i dawelwch, meithrin gwydnwch, a chysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. 

Dod o hyd i dawelwch yn y tonnau

Roedd bywyd Laurence yn ymddangos yn llawn llwyddiant. Roedd yn rhedeg sawl busnes ac yn rhoi sgyrsiau ysgogol. Ond y tu mewn, roedd yn ei chael yn anodd.

Pan darodd pandemig Covid, cafodd ei orfodi i gau dau fusnes. Ar ben hynny, bu farw ei dad yn sydyn. Claddodd Laurence ei hun yn ei waith ac ni roddodd gyfle iddo'i hun alaru erioed.

Erbyn 2024, roedd popeth wedi chwalu. Cafodd ddiagnosis o PTSD ac roedd yn brwydro yn erbyn gorbryder ac iselder. Fe roddodd gynnig ar therapi a meddyginiaeth, ond roedd rhywbeth ar goll o hyd - nes iddo ddod o hyd i Surf Therapy.

Dyn yn syrffio

Cyflwyniad pwyllog i’r môr

Sefydlwyd Surf Therapy gan Phil Owen, wnaeth ddarganfod bod syrffio wedi ei helpu ef drwy ei iselder ei hun. Gan sylweddoli bod gan y môr bŵer i wella pobl, gwelodd hefyd y gallai helpu pobl eraill oedd yn wynebu anawsterau tebyg.

Heddiw, mae'r prosiect yn cefnogi’r canlynol:

  • Cyn-filwyr
  • Oedolion ar brawf
  • Pobl sy’n gaeth i sylweddau
  • Pobl ifanc yn y system Cyfiawnder Ieuenctid

I ddechreuwyr fel Laurence, doedd dim pwysau o gwbl i sefyll ar y bwrdd. Does dim angen i chi sefyll ar y bwrdd hyd yn oed. Gallai badlo, dal ton fechan, neu ymlacio. Roedd y sesiynau'n gefnogol, yn llawn anogaeth a heb unrhyw feirniadaeth o gwbl. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, roedd Laurence yn teimlo’n dawel.

Laurence Winmill
Mae Surf Therapy wedi helpu i wella fy ymennydd i. Mae'r holl lanast yn fy mhen i’n golchi i ffwrdd. ’Fydd fy PTSD i ddim yn diflannu, ond mae'n fy helpu i i reoli fy hun. Mae Surf Therapy yn gwbl anhygoel.
Laurence Winmill

Cyllid y Loteri Genedlaethol yn cadw’r tonnau’n rholio

Helpodd cyllid gan Chwaraeon Cymru a'r Loteri Genedlaethol – cyfanswm o £5,658 – i brynu byrddau, siwtiau gwlyb ac offer arall. Mae'r cyllid yma’n galluogi i Phil a'i dîm gyrraedd mwy fyth o bobl.

Mae'r sesiynau'n cyfuno’r canlynol:

  • Therapi syrffio
  • Therapi awyr agored
  • Campfa las
  • Therapi dŵr oer

Yn eistedd ar ei fwrdd yn aros am don, mae Laurence yn teimlo cysylltiad â byd natur. Mae'r traethau llydan a'r tonnau'n ei helpu i roi ei bryderon mewn persbectif. Mae Surf Therapy wedi dod yn rhan hanfodol o'i adferiad.

Phil Owen, sylfaenydd Surf Therapy
Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol, fe allwn ni brynu offer a helpu mwy o bobl.
Phil Owen, sylfaenydd Surf Therapy

Cymuned berffaith

Mae Surf Therapy yn lle i bobl gysylltu, rhannu a chefnogi ei gilydd. Mae pobl yn gadael y dŵr yn teimlo'n gryfach, yn dawelach ac yn wydnach.

Mae Laurence yn un o lawer y mae eu bywydau wedi cael eu trawsnewid ar hyd y traeth. Gyda thîm ymroddedig a chyllid hanfodol, mae Surf Therapy yn profi y gall hyd yn oed tonnau bach wneud gwahaniaeth mawr.

Grŵp o syrffwyr yn gwenu

Eisiau gwneud gwahaniaeth? 

Ydych chi'n ystyried cefnogi pobl yn eich cymuned gyda'u hiechyd meddwl? Gallai Cronfa Cymru Actif gefnogi eich clwb i ddarparu cyfleoedd sy'n newid bywydau, yn union fel Surf Therapy.