Skip to main content

Sut gwnaeth athletwyr Cymru berfformio yng Ngemau Paralympaidd Tokyo 2020

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut gwnaeth athletwyr Cymru berfformio yng Ngemau Paralympaidd Tokyo 2020

Nid yw Aled Davies yn ddyn sy’n edrych yn ôl a dyna pam mai'r llwybr i Baris yw ei ffocws wrth iddo ddychwelyd o Tokyo fel un o bedwar enillydd medal aur Cymru yn y Gemau Paralympaidd.

Cadwodd Davies ei deitl Paralympaidd yn nhaflu maen F63 y dynion i ymuno â phobl fel Tanni Grey-Thompson a David Roberts fel athletwyr o Gymru sydd wedi dod ag aur adref i Brydain Fawr o’r Gemau deirgwaith neu fwy.

Roedd y taflwr o Ben-y-bont ar Ogwr yn un o 21 o gystadleuwyr o Gymru yn Japan, a gipiodd gyfanswm o 14 o fedalau i Dîm Prydain Fawr.

Roedd hynny'n rhan o gyfanswm cyffredinol Prydain o 124 o fedalau, sy'n golygu bod carfan y Ddraig yn cyfrif am 11 y cant o'r metel - ddim yn ddrwg i genedl sy'n cyfrif am oddeutu pump y cant o boblogaeth y DU

Ond yn hytrach na gorffwys ar ei rwyfau Paralympaidd, mae Davies eisoes yn edrych ymlaen at Baris yn 2024.

Enillodd yn Tokyo heb daflu yn agos at ei orau ac nid pedwerydd aur yn unig yw ei gymhelliant, ond edrych ar ei gyfyngiadau ei hun eto o ran perfformiad.

“Fe ddois i yma am berfformiad mawr, roeddwn i eisiau gosod fy marc oherwydd dydw i ddim wedi taflu’n dda yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai’r athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr.

“Rydw i’n barod i gyflawni ar raddfa fawr, ydw wir. Rydw i mewn cyflwr gwell nag erioed. Rydw i'n credu bydd rhaid i mi aros tan Baris (Gemau Paralympaidd 2024).

“Rydw i’n dal yn ifanc ac yn teimlo’n grêt. Rydw i’n teimlo bod gen i lawer i'w roi. Paris yn bendant yw'r stop nesaf, hyd yn oed LA (Gemau Paralympaidd 2028). Rydyn ni’n dechrau arni nawr.”

Os gall Davies fod ym Mharis - pan fydd ond yn 33 oed o hyd - felly hefyd y tri enillydd aur Paralympaidd arall o Gymru: Jim Roberts, David Smith a Laura Sugar.

Roedd Roberts yn aelod o garfan rygbi cadair olwyn Prydain Fawr a ddaeth y genedl Ewropeaidd gyntaf i gipio’r aur, cadwodd Smith ei deitl BC1 unigol yn y Boccia, a dangosodd Sugar ei bod hyd yn oed yn well mewn para-canŵio nag oedd hi fel para-athletwraig wrth iddi osod record Baralympaidd newydd ar ei ffordd i gipio aur yn senglau 200m caiacio’r merched (KL3).

Fe wnaeth Sugar nid yn unig ymdopi â newid camp, ond hefyd fe wnaeth ddelio ag oedi o flwyddyn cyn cynnal y Gemau oherwydd y pandemig.

“Y funud es i i mewn i’r cwch roeddwn i wrth fy modd, bod allan ar y dŵr,” meddai.

“Mae ein grŵp hyfforddi ni’n anhygoel, ac mae'n rhaid i chi fwynhau'r hyfforddiant bob dydd oherwydd rydyn ni'n rasio am beth, pum munud allan o'r flwyddyn gron? Felly mae'n rhaid i chi fwynhau pob diwrnod o’r hyfforddiant. "

“Ar ôl i ni ddod dros siom yr oedi, roedd yn gyfle da iawn i fynd yn ôl at y pethau sylfaenol a pheidio â phoeni am orfod rasio, ac rydw i’n credu bod hynny wedi fy rhoi i mewn sefyllfa wych i fod yn gyflymach yma nag y byddwn i wedi bod y llynedd. ”

Laura Sugar yn dathlu yn ei chanŵ
Mae Laura Sugar yn ennill aur yn y Gemau Paralympaidd

 

Smith - sydd wedi lleoli ei hun yn Abertawe drwy gydol ei yrfa ac yn gweld ei hun fel Cristiano Ronaldo y byd boccia - yw Paralympiad mwyaf llwyddiannus Prydain bellach yn ei gamp gyda theitlau cefn wrth gefn.

Os yw’r clod pennaf yn mynd i enillwyr y medalau aur, efallai bod straeon mawr Cymry’r Gemau Paralympaidd i'w canfod ymhlith y rhai a gipiodd arian.

Roedd Paul Karabardak yn y Gemau am y pedwerydd tro, ar ôl methu sicrhau medal yn y tennis bwrdd yn 2008, 2012 a 2016.

Ond yn Tokyo, bum mlynedd yn ddiweddarach, doedd dim stopio’r dyn o Abertawe a gipiodd efydd yn senglau dosbarth 6 cyn hawlio’r arian ochr yn ochr â Will Bayley yng nghystadleuaeth dosbarthiadau 6 i 7 y timau.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn llithro i ffwrdd felly mae’n freuddwyd i mi oherwydd fy mod i wedi ennill llawer yn fy ngyrfa,” meddai Karabardak.

“Rydw i wedi cael rhai buddugoliaethau da ac rydw i wedi ennill medalau Byd ac Ewropeaidd ond ni fyddai wedi bod yr yrfa y byddwn i wedi bod ei heisiau heb fedal Paralympaidd.”

Roedd Beth Munro, enillydd medal arian arall, ym mhen arall y sbectrwm.

Dim ond yn 2019 y dechreuodd hi gymryd rhan mewn para-taekwondo ar ôl cael ei pherswadio gan ffrind i roi cynnig arni mewn diwrnod adnabod talent gan Chwaraeon Anabledd Cymru a sicrhaodd yr ail safle yn y diwedd yn ei hail gystadleuaeth fawr yn unig.

Cipiodd James Ball arian hefyd yn nhreialon amser 1,000m B y dynion ochr yn ochr â'r peilot Lewis Stewart, ac roedd efydd i Tom Matthews yn y tennis bwrdd (senglau dosbarth 1), Hollie Arnold (gwaywffon F46), Olivia Breen (naid hir T38), Harri Jenkins (100m T33) a Georgia Wilson a enillodd ddau efydd yn y prawf unigol (gradd II) a’r prawf dull rhydd unigol (gradd II).

Gan adlewyrchu ar y rhan y chwaraeodd athletwyr Cymru yn llwyddiant Tîm Prydain Fawr - a’r straeon ysbrydoledig wnaethant eu creu, dywed Owen Lewis - cyfarwyddwr cynorthwyol strategaeth a gwasanaethau’r system chwaraeon yn Chwaraeon Cymru - “Mae’r Gemau yn enghraifft o’r hyn sy’n bosib, gyda phob athletwr â stori unigryw i'w hadrodd am ei gefndir.

“Roedd y pythefnos diwethaf hefyd yn ein hatgoffa o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau chwaraeon. O'r gorfoledd o berfformio ar eich gorau o flaen y byd i gyd i'r siom o anaf i Matt Bush ychydig cyn y Gemau a Harrison Walsh ychydig cyn ei gystadleuaeth.

“Cenedl fechan yw Cymru ond mae ei chyfraniad yn enfawr ac, er y dylem roi peth amser i fod yn falch iawn o’n hathletwyr o Gymru a gynrychiolodd Dîm Prydain Fawr mewn ffordd mor nodedig, dylem hefyd achub ar y cyfle i ymdrechu am fwy.

“Bydd ffocws angerddol, gyda'n partneriaid, ar ddatblygu athletwyr cynhwysol yn ein helpu i ehangu ymhellach ac arallgyfeirio cyrhaeddiad chwaraeon perfformiad, gan olygu y byddwn yn parhau i weld llwyddiant i Gymru ar lwyfan y byd fel un o ganlyniadau bod yn orau yn y byd am ddatblygu athletwyr. ”

Newyddion Diweddaraf

Cyngor McGoldrick i obeithion Cymanwlad Bocsio Cymru

Mae Sean McGoldrick wedi ennill medal ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad

Darllen Mwy

Diffibrilwyr Am Ddim ar gael ar gyfer Clybiau Chwaraeon yng Nghymru

Gall Clybiau Chwaraeon yng Nghymru wneud cais nawr am ddiffibriliwr am ddim gan Lywodraeth Cymru.Bydd…

Darllen Mwy

WRTH I’R LOTERI GENEDLAETHOL DROI YN 27, MAE CHWARAEON CYMRU YN GOFYN I GYMUNEDAU GREU NEWID

Wrth i'r Loteri Genedlaethol ddathlu ei phen-blwydd yn 27 oed, mae Chwaraeon Cymru yn annog cymunedau…

Darllen Mwy