Main Content CTA Title

Troi gwybodaeth yn weithredu: Sut mae Hoci Cymru yn mynd i’r afael â galw heb ei fodloni yng Ngorllewin Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Troi gwybodaeth yn weithredu: Sut mae Hoci Cymru yn mynd i’r afael â galw heb ei fodloni yng Ngorllewin Cymru

Mae mwy na 700 o ddisgyblion a phobl ifanc ledled Gorllewin Cymru wedi cymryd rhan mewn gwahanol fformatau o hoci – ac fe ddechreuodd y cyfan gyda Hoci Cymru yn defnyddio gwybodaeth o’r Arolwg Chwaraeon Ysgol.

Drwy wrando ar y data gan bobl ifanc ac ysgolion, mae Hoci Cymru wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i greu cyfleoedd hoci croesawgar a hygyrch i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Dyma sut gwnaethon nhw droi gwybodaeth yn weithredu a’r hyn wnaethon nhw ei ddysgu ar hyd y ffordd.

Sut defnyddiodd Hoci Cymru yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 

Tynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 sylw at y ffaith y byddai disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon pe bai cyfleoedd a fyddai'n fwy addas iddyn nhw. Defnyddiodd Hoci Cymru y wybodaeth hon i gymryd camau gweithredu wedi'u targedu ledled Gorllewin Cymru.

Gan ddefnyddio data'r arolwg, fe wnaethon nhw ganolbwyntio ar ardaloedd gyda'r angen mwyaf a dechrau mynychu digwyddiadau Chwaraeon Anabledd Cymru. O'r fan honno, fe ddechreuodd y momentwm adeiladu'n gyflym.

Ers hynny, mae Hoci Cymru wedi gwneud y canlynol:

  • Meithrin cysylltiadau cadarn gyda 7 ysgol ADY yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.
  • Cyflwyno fersiynau wedi'u haddasu o hoci i'r ysgolion hyn, gan gynnwys hoci cerdded.
  • Cyflwyno sesiynau hoci galw heibio yn Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
  • Cyflwyno hoci i glybiau ar ôl ysgol a gwersylloedd gwyliau, gan weithio gyda Chwaraeon Sir Benfro.
  • Cefnogi clybiau anabledd a gwersylloedd hanner tymor ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, gan gynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
  • Mynychu gwyliau aml-chwaraeon fel bod plant yn gallu rhoi cynnig ar hoci mewn amgylchedd hamddenol.
  • Cyflwyno eu gwersyll cynhwysiant cyntaf gan Hoci Cymru a chefnogi clybiau presennol ledled y rhanbarth.
Yn wreiddiol, fe ddefnyddiwyd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol i dargedu rhai ardaloedd gyda sesiynau hoci. Wedyn, oherwydd diddordeb gan ysgolion ac ymateb hynod gadarnhaol gan gyfranogwyr a oedd yn eu mwynhau, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno ledled Gorllewin Cymru.
Chelsea Jenkins, Swyddog Datblygu Hoci

Beth wnaeth Hoci Cymru ei ddysgu?

Er mai’r Arolwg Chwaraeon Ysgol oedd eu man cychwyn, roedd ymgysylltu uniongyrchol ag ysgolion a phlant ADY yn dylanwadu ar sut mae’r sesiynau'n cael eu cyflwyno.

Maen nhw wedi dysgu’r canlynol: 

Dylai’r wybodaeth fod yn gryno ac yn glir

  • Yn aml, mae cyfranogwyr yn mwynhau sesiynau byr ac i bwrpas gydag ychydig o wybodaeth.
  • Mae'n ddefnyddiol iawn arddangos beth rydych chi'n ei olygu.

Dywedodd Chelsea: “Rydyn ni wedi dysgu weithiau, po leiaf o wybodaeth rydych chi’n ei rhannu, y gorau yw'r profiad. Ond y ffordd mae’r wybodaeth fach honno’n cael ei chyflwyno sy'n gwneud y gwahaniaeth.”

Mae bwlch gwybodaeth iaith arwyddion     

  • Doedd gan Hoci Cymru ddim sgiliau i gyfathrebu â defnyddwyr iaith arwyddion.
  • Rhannwyd adnoddau gyda chlybiau hoci a hyfforddwyr i wella’r cyfathrebu gyda chyfranogwyr â nam ar eu clyw.

Dywedodd Chelsea: “Fe wnaethon ni sylweddoli pan oedden ni’n mynychu neu’n cynnal digwyddiadau fod athrawon a rhieni’n defnyddio iaith arwyddion. Ond doedd yr hyfforddwyr a minnau ddim yn gyfarwydd â hi. O ganlyniad, rydyn ni’n gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i wella hyn.”

Dydi chwibanau ddim yn helpu i greu amgylcheddau digynnwrf

  • Peidiwch â defnyddio chwibanau oherwydd gall synau uchel fod yn llethol.
  • Mae peidio â defnyddio chwibanau yn gwneud i'r sesiwn deimlo'n llai fel driliau ac yn fwy fel chwarae.

Dywedodd Chelsea: “Dydyn ni ddim yn defnyddio chwiban dan do nac yn yr awyr agored, oherwydd sensitifrwydd rhai cyfranogwyr i sŵn, neu ei fod yn un o'r sbardunau sy'n eu cynhyrfu nhw. Mae peidio â chael chwiban wedi creu amgylchedd tawelach a mwy pleserus.”

Dylai sesiynau fod yn hwyliog ac yn hyblyg

  • Mae'r holl sesiynau'n ysgafn ac yn hwyliog.
  • Mae gweithgareddau sgiliau’n cael eu cyflwyno mewn cyfres o adrannau byr ac i bwrpas 10 munud i gynnal diddordeb y plant.

Dywedodd Chelsea: “Rydyn ni’n rhoi sylw i hanfodion hoci, ond ar ffurf cylchedau. Mae sesiynau niferus am 10 munud, ac wedyn maen nhw’n symud ymlaen i'r un nesaf.

Does dim angen cae hoci           

  • Mae posib chwarae hoci yn unrhyw le – neuaddau chwaraeon, tyweirch astro, cwrt tennis neu iardiau ysgol.

Dywedodd Chelsea: “Mae hyn wedi ein helpu ni i gyrraedd mwy o gyfranogwyr ledled y Gorllewin. Mae wedi lleihau’r rhwystr mynediad i gyfleusterau, gan roi cyfle i blant roi cynnig ar hoci ble bynnag maen nhw’n gallu.

Dylai’r cyfranogwyr ddewis eu hoffer eu hunain 

  • Mae gofyn i'r cyfranogwyr beth maen nhw eisiau ei ddefnyddio i gymryd rhan yn rhoi dewis a hyblygrwydd iddyn nhw.
  • Does dim angen addasu offer, dim ond ei amrywio – mae'r rhai sydd â gwendid yn y cyhyrau’n defnyddio nwdls pwll ac mae defnyddwyr cadeiriau olwyn wedi defnyddio ffyn hoci sy’n ymestyn.
  • Dylid darparu popeth o ffyn i beli a chonau mewn gwahanol feintiau a gwahanol liwiau.

Dywedodd Chelsea: “Fe wnaethon ni dreulio oriau’n ceisio addasu ein hoffer hoci. Ond ar ôl mynychu digwyddiadau a siarad gyda chyfranogwyr, fe wnaethon ni sylweddoli nad oes angen i ni addasu'r holl offer. Y cyfan mae'r cyfranogwyr ei eisiau yw teimlo eu bod nhw'n gyfartal a chael yr un cyfleoedd â phawb arall.”

Mae amser chwarae yn bwysig

  • Mae plant yn mwynhau “amser rhydd” i chwarae gyda’r offer, heb gyfarwyddyd na phwysau.
  • Mae rhyddid yn annog y plant i fod yn greadigol a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Dywedodd Chelsea: “Mae plant yn cael cyfarwyddyd ynghylch beth i’w wneud yn eithaf aml drwy gydol y diwrnod ysgol. Rydyn ni wedi creu amgylchedd lle mae’n ddiogel iddyn nhw roi cynnig ar bethau maen nhw eisiau, gan arwain at brofiad mwy cadarnhaol.”

Pa effaith mae wedi’i chael? 

Gan ddefnyddio gwybodaeth o'r Arolwg Chwaraeon Ysgol, mae Hoci Cymru wedi gwneud hoci yn fwy hygyrch i blant a phobl ifanc ledled Gorllewin Cymru.

Gyda mwy na 700 o ddisgyblion wedi rhoi cynnig ar hoci, maen nhw bellach wedi sefydlu tri chlwb hoci cynhwysol yng Ngorllewin Cymru – Cwmtawe, Tregŵyr ac Abergwaun – i roi lle croesawgar i blant anabl chwarae hoci.

Rydw i’n falch iawn bod y teulu hoci wedi dod at ei gilydd i gefnogi cyfleoedd cynhwysol i blant ysgol. Mae posib addasu hoci a’i wneud yn gynhwysol a bydd gêm yn dal i edrych ac yn teimlo’r un fath. Mae’n dangos beth gall defnyddio data’r Arolwg Chwaraeon Ysgol a gweithio gyda phartneriaid ei wneud.
Chelsea Jenkins, Swyddog Datblygu Hoci

Y camau nesaf i Hoci Cymru

Bron i bedair blynedd ar ôl yr Arolwg Chwaraeon Ysgol diwethaf, mae gwaith Hoci Cymru yn parhau i dyfu.

Eleni, maen nhw'n gwneud y canlynol:

  • Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd yng Ngorllewin Cymru i siapio darpariaeth hoci gynhwysol ar draws Gogledd a Dwyrain Cymru.
  • Hyfforddi mwy na 100 o Lysgenhadon Ifanc Hoci i addasu offer ac iaith mewn sesiynau, gyda phob un wedi cymhwyso i Lefel 1 Chwaraeon Anabledd Cymru o leiaf yn hyfforddi neu'n gwirfoddoli.
  • Gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i edrych ar ymgorffori hyfforddiant cynnwys anabledd hoci mewn cwrs cynnwys anabledd aml-chwaraeon.
  • Dechrau edrych ar gyfleoedd i glybiau cynhwysiant mewn ysgolion gystadlu yn erbyn ei gilydd, gan gefnogi cynnydd i lwybrau perfformiad.

Mae'r hyn a ddechreuodd gyda gwybodaeth o arolwg cenedlaethol wedi dod yn ddull cynaliadwy, dan arweiniad cyfranogwyr, o weithio gyda hoci cynhwysol.

Beth allwch chi ei wneud?

Bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol nesaf yn lansio ar ddechrau 2026, gyda’r canlyniadau ar gael yn yr hydref.

Mae siwrnai Hoci Cymru yn dangos bod defnyddio'r data yn gallu bod yn fan cychwyn cadarn - ond daw’r effaith wirioneddol o wrando, addasu a gweithio mewn partneriaeth â phobl ifanc ac ysgolion.

Os ydych chi eisiau creu'r cyfleoedd mae plant eu heisiau, dechreuwch gynllunio nawr. Mwy o wybodaeth am yr Arolwg Chwaraeon Ysgol