Mae un o athletwyr gorau erioed Cymru a Chadeirydd Chwaraeon Cymru, Tanni Grey-Thompson, yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu sawl polisi a fyddai, ymhlith pethau eraill, yn helpu i annog mwy o ferched i ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ifanc a pharhau i wneud hynny.
Gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ddewis hygyrch i fenywod a merched
Mae chwaraeon menywod yn cael mwy o gydnabyddiaeth, parch a momentwm, ond mae Tanni’n credu bod angen cymryd camau beiddgar i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ddewis hygyrch i fwy o fenywod a merched.
Dywedodd Tanni: “Rydyn ni’n mwynhau haf arbennig o chwaraeon menywod gyda chynifer o ddigwyddiadau mawr sy’n hoelio sylw’r genedl. Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio tîm pêl-droed menywod Cymru yn cystadlu yn yr Ewros, fe allwn ni i gyd gael ein hysbrydoli gan lwyddiant y Llewesau p’un a ydych chi’n dod o Loegr ai peidio, ac rwy’n falch iawn ein bod ni newydd gynnal pencampwriaeth golff menywod fawr am y tro cyntaf yng Nghymru yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Mae gennym ni Gwpan Rygbi’r Byd i edrych ymlaen ato, hefyd.