Main Content CTA Title

Tennis Bwrdd yn helpu Andy, sydd wedi goroesi strôc, i fownsio’n ei ôl

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tennis Bwrdd yn helpu Andy, sydd wedi goroesi strôc, i fownsio’n ei ôl

Pan gafodd Andy Johns strôc a cholli rhywfaint o'i olwg, daeth tasgau bob dydd – fel croesi'r ffordd yn ddiogel – yn weithred frawychus bron dros nos.

Ond ar ôl troi at gamp yr oedd wrth ei fodd â hi’n fachgen ifanc, mae Andy wedi meithrin ei hyder eto. Diolch i denis bwrdd, mae wedi cael ei olwg yn ôl, wedi gwella ei sgiliau cydsymud llaw a llygad ac, yr un mor bwysig, wedi dod o hyd i rywle lle mae'n perthyn go iawn.

Pob ergyd yn cryfhau

Yn y misoedd ar ôl iddo gael gwaedlif, dechreuodd golwg Andy ddychwelyd. Awgrymodd ei Therapydd Galwedigaethol denis bwrdd fel ffordd o wella ei sgiliau cydsymud llaw a llygad ymhellach ac ehangu ei faes gwelediad. 

Felly, dychwelodd at gamp yr oedd yn ei gyfarwydd â hi yn ei blentyndod. Ac yn well fyth, roedd Clwb Tennis Bwrdd Gilwern ar garreg ei ddrws. 

Pan ddechreuodd Andy fynd i ddechrau, nid oedd gyrru yn opsiwn. Ond roedd aelod o'r clwb a hen ffrind iddo, Kevin Phillips, yn hapus i'w godi a'i ollwng adref bob wythnos. 

Ar y dechrau, roedd yn ei chael hi'n anodd. Roedd y strôc wedi effeithio ar ei atgyrchau a'i wrthlaw, ac roedd mannau dall yn ei olwg yn achosi iddo fethu rhai ergydion. Ond gyda thair blynedd o ddyfalbarhad a phenderfyniad, mae Andy wedi cael ei sbonc yn ôl ac mae'n arbenigwr wrth y bwrdd unwaith eto.

Er bod Andy yn darllen yn ychydig arafach, mae bellach yn gallu gwneud bron popeth a allai wneud cyn y strôc. A beth mae’n feddwl sy'n gyfrifol am ei adferiad? Chwarae tennis bwrdd yng Nghlwb Tennis Bwrdd Gilwern.

Andy yn gwenu at y camera yn dal raced tenis bwrdd.
Mae’r clybiau lleol hyn yn arbennig o bwysig mewn ardal wledig fel Sir Fynwy. Mae’r clwb wedi rhoi llawer o help i mi i wella o fy strôc, ond rydw i hefyd yn ôl yn chwarae camp rydw i wrth fy modd â hi a hynny gyda chriw gwych o bobl gyfeillgar,” Andy Johns, aelod o Glwb Tennis Bwrdd Gilwern.
Andy Johns, aelod o Glwb Tennis Bwrdd Gilwern

Cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol

Mae'r clwb yn cynnig cyfleoedd hanfodol yng nghefn gwlad Sir Fynwy. Diolch i £1,740 o gyllid y Loteri Genedlaethol o Gronfa Actif Cymru Chwaraeon Cymru, mae wedi gallu agor ei ddrysau i Andy a chwaraewyr eraill.

Gyda'r grant, mae'r clwb wedi prynu:

  • Byrddau newydd.
  • Offer.
Andy yn ail-lenwi robot tenis bwrdd.
Mae cyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru wedi ein galluogi i brynu mwy o fyrddau, mwy o offer, ac i gynnal sesiynau mewn lleoliad mwy. Rydym hefyd yn falch iawn o gefnogi pobl fel Andy sydd wedi defnyddio'r gamp i helpu i reoli cyflyrau iechyd.
Kevin Saunders, sy'n helpu i redeg Clwb Tennis Bwrdd Gilwern

Llwyddiant yn y gymuned

Mae effaith y clwb wedi bod yn aruthrol. Mae nifer y bobl sy'n dod i chwarae tennis bwrdd wedi cynyddu pedair gwaith.

Mae Clwb Tennis Gilwern bellach yn ymfalchïo yn y canlynol:

  • Adran iau ffyniannus 
  • Sylfaen ffyddlon o chwaraewyr hŷn, rhai yn rheoli eu symudedd a'u hiechyd.
  • Ymdeimlad cryf o gymuned a chyfeillgarwch.
Chwaraewr tenis bwrdd yn dathlu.
Aelodau Tenis Bwrdd Gilwern.
Clwb Tenis Bwrdd Gilwern.
Chwaraewyr tenis bwrdd yn taro dwrn.

Manteisio ar gyfleoedd newydd

O atgofion o chwarae ar fwrdd yn ei ystafell fyw fel bachgen wyth oed, i gael gemau unwaith eto gyda ffrindiau newydd yn 75 oed, mae Andy wedi cwblhau’r cylch. 

Yng Nghlwb Tennis Bwrdd Gilwern, mae tennis bwrdd wedi gwneud mwy na dim ond helpu Andy i wella. Ac yntau wedi'i groesawu gan aelodau'r clwb sydd ar eu teithiau iechyd eu hunain, mae wedi dod o hyd i gyfeillgarwch, llawenydd ac ymdeimlad o berthyn.

Ydych chi'n meddwl am helpu pobl yn eich cymuned i ffynnu drwy chwaraeon?  Gallai Cronfa Cymru Actif eich helpu i wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Newyddion Diweddaraf

Prosiect Casnewydd Fyw yn rhoi'r hyder i ferched fod yn actif

Girls Takeover yn brosiect sy'n annog merched i symud, rhoi cynnig ar bethau newydd a theimlo'n dda.

Darllen Mwy

O ymyl y dibyn i ddatblygiad – y clwb tennis sy’n gwasanaethu adfywiad cymunedol

Y mis yma, bydd Gogledd Cymru’n dyst i dennis o'r radd flaenaf am y tro cyntaf wrth i Daith Tennis y…

Darllen Mwy

Sicrhau newid: Y fam a gododd raced i gyflwyno tennis i'r gymuned Tsieineaidd

Mae Weixin Liu, mam i dri o blant, yn cynnal dosbarthiadau tenis ‘She Can’ i ferched a genethod yn Abertawe.

Darllen Mwy