Skip to main content

Tiger Bay Musty yn Adeiladu ar Wreiddiau Hanesyddol ac yn Defnyddio Pêl Droed Fel Drws at Gyfle

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tiger Bay Musty yn Adeiladu ar Wreiddiau Hanesyddol ac yn Defnyddio Pêl Droed Fel Drws at Gyfle

Mewn cyfnod arferol, mae Clwb Pêl Droed Tiger Bay yn chwarae ei gemau cartref bob penwythnos ym Mharc y Gamlas – llain cul o dir gwyrdd sy'n rhedeg o Fae Caerdydd i fyny i Butetown, wedi'i adeiladu ar safle a arferai fod yn gyswllt dŵr diwydiannol rhwng y ddinas a'r dociau.

Ond nid cyfnod arferol mo hwn, sydd o leiaf yn golygu y gall y clwb pêl droed ganolbwyntio ar rai o'i swyddogaethau cymunedol eraill sy'n deillio o ddenu pobl ifanc sydd eisiau cicio pêl.

Fel pob clwb arall ar lawr gwlad yng Nghynghrair Gyfunol Caerdydd, mae Tiger Bay yn hyfforddi erbyn hyn, ond nid oes unrhyw gemau wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau.

Felly, nosweithiau hyfforddi ac wedyn datblygiad personol y chwaraewyr yw’r drefn i'r rheolwr Mustafa Mohamed – "Musty" – rheolwr deinamig 25 oed y clwb.

Morwyr Medrus

Efallai mai dim ond yn 2009 y sefydlwyd y clwb, ond mae gwreiddiau’r criw sy’n chwarae – poblogaeth Somali’r brifddinas a ddaeth i Ddociau Caerdydd fel morwyr hynod fedrus yn y 1880au – yn ymestyn yn ôl dros ganrif.

Ar y dechrau, roedd y Somaliaid yn rheoli’r sgwad chwarae – ac eithrio un neu ddau a oedd yn ail a thrydedd genhedlaeth Caribïaidd - ond dywed Musty bod y clwb bellach yn fwy amrywiol – o ran ei gyfansoddiad a'i ddiben ehangach.

"Rydw i wedi ceisio ehangu pethau ers i mi ddechrau cymryd rhan, fel ein bod ni’n adlewyrchu'r bobl yn yr ardal yma," meddai Musty.

"Erbyn hyn mae tua chwech neu saith o Somaliaid, gan fy nghynnwys i, mewn sgwad o tua 18 ac mae'r dynion eraill yn cynnwys Arabiaid, dynion o ogledd Affrica, yr Aifft, Swdan, Yemen, Libya – mae'n gymysgedd go iawn.

"Mae'r chwaraewyr yn dod o wahanol gefndiroedd a safbwyntiau, ond maen nhw i gyd yn rhannu hoffter o bêl droed.

"Mae ganddyn nhw broblemau cyfarwydd hefyd sy'n mynd y tu hwnt i bêl droed ac rydyn ni’n ceisio eu helpu nhw gyda'r rheini. Gall hyn fod yn geisiadau coleg, neu ddod o hyd i swyddi ym maes peirianneg, cyllid neu gyfrifyddiaeth.

Cysylltiadau Da

"Mewn sawl ffordd, mae gennym ni gysylltiadau da erbyn hyn, felly rydyn ni’n ceisio defnyddio'r cysylltiadau hynny i roi'r adnoddau i bobl gael yr hyn mae nhw ei angen.   

"Rydyn ni i gyd wrth ein bodd â phêl droed, ond rydyn ni hefyd yn defnyddio pêl droed fel adnodd. Ein harwyddair ni erioed yw ein bod ni’n fwy na dim ond clwb pêl droed."

Yn ogystal â thîm hŷn, mae Tiger Bay hefyd yn goruchwylio carfannau grwpiau oedran iau, ar y cyd â sefydliadau eraill yn Butetown fel Datblygiad Ieuenctid Tiger Bay.

Mae'r cysylltiadau hynny wedi galluogi'r clwb i greu llif cyson o dalent ffres, sy'n golygu bod llawer o'r rhai yn y tîm hŷn wedi dod drwy'r rhengoedd o 14 oed ymlaen.

Y tymor diwethaf, gydag oedran cyfartalog o ddim ond 21 oed, gorffennodd Tiger Bay yn bedwerydd yn Uwch Adran Cynghrair Gyfunol Caerdydd, gydag uchelgais i wthio'n uwch, pan ddaeth y gynghrair i ben cyn ei chwblhau ym mis Mawrth.

Antur Cwpan Cymru

Mae gobeithion mawr y gall y garfan bresennol fynd ymlaen i gyfateb campau tîm enwog 2014 a gyrhaeddodd drydedd rownd Cwpan Cymru cyn mynd allan i Gaersws, clwb a oedd wedi cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth glwb Ewropeaidd yn gynharach.

Mae cyn gadeirydd y clwb, Ishmael Ide, yn cofio’n ôl i’r cyfnod: "Roedd hwnnw'n ddiwrnod gwych ac yn gyflawniad nodedig i'r clwb.

"Roedd cyrraedd y lefel honno’n anhygoel i ni. Roedden nhw’n dîm trefnus iawn, yn lled-broffesiynol ar y pryd, a ninnau ond yn dod i’r clwb ac yn chwarae.

"Rydyn ni wedi adeiladu'r clwb, wedi defnyddio arian o'n pocedi ein hunain a llawer o ymrwymiad a brwdfrydedd, ac rydyn ni’n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i wneud.

"Cyn i ni ddechrau, roedd diffyg cyfle gwirioneddol i'n chwaraewyr ni chwarae pêl droed. 

"Doedden ni ddim fel pe baen ni’n mynd i unrhyw le wrth geisio chwarae i dimau eraill, felly fe wnaethon ni ddechrau ein tîm ni ein hunain."

Cynlluniau Parc y Gamlas

Nid oes gan Glwb Pêl Droed Tiger Bay adeilad clwb ac er eu bod yn cael cefnogaeth dda ar ddyddiau gêm gan ffrindiau a theuluoedd, eu trefn draddodiadol bob amser ar ôl y gêm yw cael dishgled o de yng nghaffi Paddle Steamer gerllaw.

Ond mae cynlluniau ar waith, ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro, i ailddatblygu Parc y Gamlas a byddai hynny'n arwain at fuddsoddi £1.9m mewn cyfleusterau newydd.

Y syniad yw i glybiau fel Tiger Bay ac eraill yn yr ardal leol rannu arwyneb chwarae 3G, ystafelloedd newid, ardaloedd gemau amlddefnydd a llifoleuadau gyda phedair ysgol gynradd Butetown, er bod y pandemig wedi arwain at oedi gyda dechrau'r gwaith adeiladu.

Dywedodd Musty: "Mae cynlluniau mawr ar gyfer yr ardal ac fe fyddwn ni’n rhan o hynny. Mae Tiger Bay wedi'i sefydlu fel clwb pêl droed bellach yn yr ardal, ond mae gennym ni rôl ehangach o lawer i'w chwarae i'r holl bobl sy'n byw yma."

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy