Skip to main content

Tokyo 2020 – Cynnydd Cyflym Beth Munro

Gwta chwe mis yn ôl, pe baech chi wedi dweud wrth seren taekwondo Cymru, Beth Munro, y byddai'n mynd i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Tokyo, byddai wedi chwerthin.

Mae wedi bod yn ychydig fisoedd gwallgof i Munro, a oedd wedi targedu Paris ymhen tair blynedd yn realistig, yn hytrach na’r Gemau yr haf yma.

Cafodd Munro ei geni gyda nam ar ei braich, ond dim ond yn ddiweddar y mae wedi ymgymryd â chwaraeon anabledd ar ôl gyrfa mewn pêl rwyd, gan chwarae gêm ryngwladol i Loegr hyd yn oed cyn Cwpan y Byd 2019.

Mae'r Paralympiad a gafodd ei geni yn Lerpwl yn gymwys i gystadlu dros Gymru trwy ei mam ac mae'n ddiolchgar iawn i Chwaraeon Anabledd Cymru am y cyfleoedd mae wedi'u cael.

Beth Munro yn cicio pad

 

“Pe bai unrhyw un wedi dweud wrthyf i ychydig fisoedd yn ôl y byddwn i’n mynd i’r Gemau Paralympaidd, fe fyddwn i wedi dweud nad oedd hynny’n bosibl,” meddai Beth.

“Roeddwn i wedi chwarae pêl rwyd ers yr ysgol, felly roedd athletau a taekwondo yn dal i fod yn newydd iawn i mi.

“Ond pan wnes i gwrdd ag Anthony Hughes (Rheolwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru), fe wnes i roi pêl rwyd i’r naill ochr a newid i taekwondo.

“I ddechrau, fe es i i ddigwyddiad adnabod talent Chwaraeon Anabledd Cymru, diolch i Chantelle Tuchon.

“Mae hi’n haeddu llawer o’r clod am ddechrau pethau i mi.

“Fe ddywedodd wrtha’ i ei bod yn mynd i wneud pêl fasged cadair olwyn yn y digwyddiad adnabod talent yng ngogledd Cymru a gofynnodd a fyddwn i’n hoffi mynd gyda hi.

“Fe wnes i feddwl, ‘Dydw i erioed wedi gwneud un o’r rheini o’r blaen.’ Felly, fe wnes i yrru am awr ac 20 munud, ar fy mhen fy hun.

“Dyna lle daeth Anthony ataf i a dweud, ‘os galla’ i o bosibl dy gael di i ennill medal Paralympaidd, ddoi di i lawr i Gaerdydd i hyfforddi? ’

“Roedd yr ateb yn hawdd. Dyna pryd ddechreuodd y siwrnai.”

O'r eiliad honno ymlaen, ymrwymodd Munro yn llwyr i chwaraeon anabledd a theithiodd i lawr i Gaerdydd o Lerpwl i ddechrau ei hyfforddiant.

“Fe ofynnodd Anthony i mi deithio i lawr unwaith y mis. Fe ddechreuais i gyda gwaywffon ac fe ddywedodd, ‘Beth, be am wneud taekwondo tra rwyt ti i lawr yma?’

“Fe wnes i ddechrau, er nad oeddwn i erioed wedi cicio na tharo person yn fy mywyd.

“Roeddwn i’n dweud, ‘Dwi mor sori!’ pan oeddwn i’n cicio unrhyw un. Fe wnaethon nhw ddweud wrtha’ i nad oedd raid i mi ddal i wneud hynny!

“Ond fe wnes i wirioni a doedd dim troi’n ôl.”

Yn fuan, taflwyd Munro i mewn yn y pen dwfn a chafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn gêm gymhwyso Baralympaidd ym Mwlgaria.

Bryd hynny, nid oedd hi erioed wedi cystadlu mewn taekwondo cystadleuol, ac eithrio ychydig o gystadlaethau prawf.

“Hon oedd fy nghystadleuaeth gyntaf i erioed. Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi gwneud unrhyw beth yn genedlaethol.

“Roedd yn swreal iawn. Roedd yr holl brofiad yn anhygoel. Roedd yn rhaid i mi ddysgu am y moesau, fel beth i'w wneud yn yr ardal gadw. Roeddwn i fel sbwng, yn amsugno popeth.

“Dim ond achos o weld beth allwn i ei wneud oedd e. Heb fentro, doeddwn i ddim yn mynd i ennill dim byd. 

“Pan ddaeth yr enwau, dim ond un gêm oedd hi. Os ti'n ennill, Beth, a chael yr aur, ti’n mynd i Tokyo.

“A dyna ni. Roeddwn i mor benderfynol ac yn canolbwyntio. Roeddwn i eisiau mynd ar y mat a dangos beth allwn i ei wneud.

“Fe wnes i hynny ac fe gefais i aur. Roedd yn wych.”

Mae cynnydd Munro yn y gamp wedi bod yn gyflym ac er ei bod yn cyfaddef bod lle i wella o hyd, mae'n canolbwyntio ar ddangos ei chryfderau allan yn Japan.

“Roeddwn i wedi bod gyda Phrydain Fawr ers mis Mawrth, roedd y gêm gymhwyso ym mis Mai, felly dim ond dau fis oedd wedi bod ac roeddwn i'n mynd i Tokyo.

“Roedd yn anhygoel. Paris oedd y nod bob amser, ond yn sydyn iawn roeddwn i'n mynd i Tokyo!

“Roeddwn i wedi bod yn gwneud y gamp ers llai na dwy flynedd!.

“Mae'r hyfforddwyr wedi rhoi pethau strategol i mi weithio arnyn nhw. Mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar y cryfderau sydd gen i eisoes o ran pethau tactegol a thechnegol.

“Mae yna bethau dadansoddol hefyd – astudio’r gwrthwynebwyr i sicrhau fy mod i'n barod.

“Rhaid i chi gael eich cyflyru am chwe munud - tair rownd dau funud yr un - i roi eich gorau yn llwyr.

“Ond mae’n rhaid i chi fachu ar gyfleoedd gyda dwy law, neu un llaw, neu faint bynnag o ddwylo sydd gennych chi!

“Mae'n freuddwyd yn dod yn wir. Rydw i’n gorfod pinsho fy hun oherwydd fy mod i'n byw'r freuddwyd.

“Rydw i’n brawf i unrhyw berson anabl y gall unrhyw freuddwyd ddod yn wir.” 

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy