Skip to main content

Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS)

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS)

Ail Adroddiad Cynnydd (yn cynnwys y gweithgareddau a gynhaliwyd rhwng misoedd Ionawr a Mehefin 2022) 

Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd y pum Cyngor Chwaraeon sy'n gyfrifol am gyllido chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled y DU yr adroddiad cynnydd chwe mis cyntafar eu gweithredoedd mewn ymateb i’r adolygiad Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol mewn Chwaraeon (TRARIIS).

Rydym yn gwybod oddi wrth yr adolygiad bod hiliaeth yn parhau i fod yn realiti bob dydd mewn chwaraeon yn y DU, yn aml yn achosi effaith ddinistriol ar fywydau a lles meddyliol yr unigolion a dargedir a’u teuluoedd.

Mae hyn yn cadarnhau ein penderfyniad ar y cyd i hyrwyddo a galluogi newid systemig brys i fynd i'r afael â hiliaeth a dileu gwahaniaethu hiliol o'r system chwaraeon.

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen am fesurau mwy effeithiol i ddiogelu unigolion sy’n profi hiliaeth neu unrhyw fath arall o gam-drin mewn chwaraeon.

Yn ein diweddariad diwethaf ym mis Rhagfyr, gwnaethom nodi mai ein blaenoriaeth yn ystod y chwe mis dilynol fyddai ymgysylltu â’n partneriaid allanol ar ganlyniadau adolygiad TRARIIS a’r angen am gymryd camau gweithredu yn erbyn ein pum ymrwymiad cyffredinol yn ymwneud â Phobl, Cynrychiolaeth, Strwythurau a Systemau, Dirnadaeth a Buddsoddiadau.

Mae'r pum Cyngor Chwaraeon wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cydweithio fel grŵp i rannu ac adolygu camau gweithredu yr ydym wedi'u rhoi ar waith yn unol â'r ymrwymiadau hynny.

Rydym yn nodi isod yr hyn y mae pob Cyngor Chwaraeon yn ei wneud yn y cyswllt hwn a gellir dod o hyd i fanylion gweithgareddau eraill .

UK Sport 

Ym mis Chwefror, yn ein cynhadledd PLx (digwyddiad dysgu a chydweithredu allweddol UK Sport ar gyfer chwaraeon a gyllidir yn y system perfformiad uchel), fe wnaethom wahodd Ladi Ajayi o AKD Solutions i gyflwyno’r adroddiad ‘Tell your story’ (a gynhaliwyd fel rhan o adolygiad TRARIIS) a rhannu ei ganfyddiadau gyda’r byd chwaraeon.

Cyhoeddodd Cadeirydd UK Sport, y Fonesig Katherine Grainger, alw i weithredu, gan annog yr arweinwyr a oedd yn bresennol i ddeall y flaenoriaeth i ymgysylltu â’r gwaith hwn, manteisio ar y cyfle i ailddychmygu chwaraeon a dechrau arwain y newid llwyr angenrheidiol.

Ym mis Mai, fe wnaethom lansio “Sport Integrity”,cynllun peilot gwasanaeth datgelu a chwyno annibynnol a chyfrinachol newydd ar gyfer yr holl athletwyr, hyfforddwyr a phersonél cefnogi yn y system chwaraeon perfformiad uchel. Bydd hyn yn helpu Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) sy’n cael eu cyllido i gynnal y safonau ymddygiad uchaf yn eu Rhaglenni o Safon Byd a chymryd camau disgyblu priodol pan fo angen. Ymhlith meysydd eraill, mae Integriti Chwaraeon yn rhan o ymateb uniongyrchol y gymuned perfformiad uchel i TRARIIS, yn dilyn ei hargymhelliad y dylid sefydlu corff ymchwilio annibynnol a diduedd.

Rydym yn nodi’r gefnogaeth ymarferol a phwrpasol, wedi’i theilwra, y byddwn yn ei darparu i’w helpu i greu a gweithredu eu Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant (DIAP). Mae’r DIAP yn ofyniad o dan y Cod diwygiedig ar gyfer Llywodraethu Chwaraeon ar gyfer pob sefydliad sy’n ceisio neu’n cael cyllid sylweddol gan UK Sport a/neu Sport England. Bydd y gefnogaeth DIAP sydd ar gael hefyd yn helpu sefydliadau i ddyfeisio camau mesuradwy penodol mewn ymateb i ganfyddiadau TRARIIS.

Mewn ymateb i awgrym cyffredinol gan staff a ddeilliodd o gyfres o weithdai TRARIIS mewnol, mae bellach yn ofynnol i holl gyflogeion UK Sport gael amcan cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant personol gorfodol. Mae llawer o'r rhain yn cynnwys camau gweithredu penodol i gefnogi ein gwaith gwrth-hiliaeth, dan arweiniad Grŵp Gwrth-Hiliaeth mewnol. Mae Grŵp Gweithredu TRARIIS hefyd wedi'i ffurfio'n fewnol i sicrhau cyflawni yn erbyn y 5 ymrwymiad.

Sport England

Rydym yn parhau i ymgysylltu ag aelodau o grŵp rhanddeiliaid TRARIIS sy'n parhau’n rhan greiddiol o’n cynlluniau gan ein cefnogi i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr adroddiad. Mae'r grŵp rhanddeiliaid hwn yn parhau i gyfrannu at y camau rydym yn eu cynllunio ac eisoes yn eu cymryd mewn ymateb i'r pum thema a nodwyd fel y rhai pwysicaf i gynnydd cyffredinol.

Er mwyn bwrw ymlaen â hyn yn fewnol rydym wedi comisiynu Heather David, IRO Consulting, i gefnogi’r gwaith o roi dulliau gweithredu a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith drwy gyflwyno fframwaith datblygu i'n helpu i edrych ar ein diwylliannau a'n hymddygiad ein hunain a sicrhau bod yr atebion yn eiddo i holl gydweithwyr Sport England.

Un o brif ganlyniadau'r fframwaith datblygu fydd drafftio cyfres o egwyddorion cyflawni a fydd yn sail i sut rydym yn ymgorffori ein ffordd o feddwl am arferion gwrth-hiliol yn ein gwaith cynllunio, dylunio a gwneud penderfyniadau, yn enwedig ynghylch buddsoddi. Mae uwch reolwyr a chydweithwyr sy'n bennaf gyfrifol am y themâu yn ymgysylltu'n llawn â'r gwaith hwn a byddwn yn rhannu’r cynnydd ddiwedd mis Medi.

Ym mis Mehefin, fe wnaethom gynnal y digwyddiad Closing the Gap conference and Talent: More of What Works, gan drefnu gofod i Gyrff Rheoli Cenedlaethol ymgysylltu'n uniongyrchol ag unigolion sydd â phrofiad ymarferol yn ymwneud â chydraddoldeb hiliol a chlywed ganddynt yn uniongyrchol. Mae’r sesiynau hyn yn parhau hyd at fis Medi, ac rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i rannu’r dysgu a hyrwyddo arfer da ynghylch cynhwysiant a phwysigrwydd meithrin amrywiaeth wrth gymryd rhan a gweinyddu’r gamp.

Rydym wedi ymgorffori dirnadaeth a’r uchelgais i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel rhan o weithredu ein strategaeth sefydliadol, ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu cynigion ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddadansoddiad eilaidd o setiau data economaidd o fewn y gweithlu. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall nodweddion demograffig y gweithlu proffesiynol a phrofiadau byw yn well. Mae hwn yn ddarn o waith a gomisiynwyd ar y cyd â'r Cynghorau Chwaraeon eraill ac mewn trafodaeth â CIMPSA a byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau fel sail i gamau gweithredu sy'n cyd-fynd â'n gweithlu.

Chwaraeon Cymru

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Chwaraeon Cymru wedi cyfrannu at Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ar gyfer Cymru. Mae'r cynllun gweithredu ar gael ymaac mae'n cynnwys ymrwymiadau a chyfrifoldebau i Chwaraeon Cymru drwy ddiwylliant, treftadaeth a chwaraeon.

Mae Chwaraeon Cymru wedi dechrau ar ddull newydd o fuddsoddi yn ei bartneriaid ar lefel genedlaethol, gyda mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ystyfnig o ran mynediad a chyfranogiad ymhlith cymunedau ethnig amrywiol er enghraifft, wrth galon y broses o wneud penderfyniadau.

Mae'r dull newydd o weithredu’n defnyddio data cyfranogiad a galw lle mae ar gael, o ddemograffeg benodol, i sicrhau bod cyllid yn llifo i ble mae angen effaith. Mae ein harolwg chwaraeon ysgol, sy'n darparu gwybodaeth gyfoethog, yn fyw ar hyn o bryd a bydd yn sail i fuddsoddiadau yn y dyfodol.

Mae'r gwaith o ailwampio ein grantiau buddsoddi cymunedol wedi'i gwblhau hefyd bron. Mae hwn wedi'i ddylunio ac yn seiliedig ar farn defnyddwyr y cynllun a cheir gwybodaeth hefyd gan y rhai nad ydynt wedi gwneud cais o'r blaen i wella hygyrchedd ac ehangu cyrhaeddiad.

Rydym wedi parhau i elwa o arbenigedd cwmnïau hyfforddi arbenigol amrywiaeth a chynhwysiant fel AKD solutions a No Boundaries. Mae hyn wedi ein galluogi i ddarparu hyfforddiant i dîm arwain Chwaraeon Cymru yn ogystal â lansio rhaglen arweinyddiaeth gynhwysol ar gyfer partneriaid ar draws y sector. Rydym wedi hwyluso sesiynau cynhwysiant ar gyfer ein staff lle maent wedi gallu dysgu o brofiadau byw arbenigwyr.

Rydym yn edrych ar bartneriaethau newydd (fel gyda’r GymdeithasNofio ar gyfer Pobl Dduon a Crowd Funder) er mwyn i ni allu cael effaith yn y cymunedau lle mae angen, yr ydym wedi cael anhawster eu cyrraedd yn draddodiadol. Mae hwn yn faes yr ydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy ynddo o hyd.

sportscotland

I danlinellu ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, creodd sportscotland swydd fewnol newydd wedi'i hanelu'n benodol at yrru hyn yn ei flaen. Mae’r gwaith o recriwtio Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y gweill ar hyn o bryd a disgwylir penodiad yn yr haf.

Rydym yn datblygu partneriaeth gyda Sporting Equals – y tro cyntaf i ni weithio gyda’r sefydliad – i ddatblygu camau gweithredu penodol, ymarferol sy'n ymateb i argymhellion TRARIIS. Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy feithrin ymddiriedaeth, capasiti a gallu o fewn y system chwaraeon yn yr Alban, gan rymuso cymunedau i gyflawni newid a chryfhau ymchwil a

chyfathrebu.

Buddsoddwyd yn Kabaddi yr Alban gennym i noddi dau dîm: Glasgow a Chaeredin. Rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad i hyrwyddo rowndiau terfynol twrnamaint y DU a gynhaliwyd yn Glasgow a chafodd y digwyddiad sylw yn Sport First, ein hwb newyddion digidol ar-lein, Inside Track, ein cylchlythyr mewnol ac On Track, i godi’r proffil gyda’n staff a’n rhwydweithiau.

Fe wnaethom fuddsoddi yng Nghynhadledd Amrywiaeth Genedlaethol yr Alban a’r Gwobrau Amrywiaeth. Ni fydd y prif noddwr ar gyfer y Wobr Chwaraeon yn y gwobrau yn ddiweddarach eleni. Roedd tri aelod o staff a dau aelod o staff ein partner, Scottish Sport Futures, yn gallu mynychu’r gynhadledd DaD CACh.

Buddsoddwyd yng Nghymdeithas Chwaraeon Lleiafrifoedd Ethnig yr Alban (SEMSA). Ni oedd prif noddwr ei chinio gwobrwyo blynyddol am y tro cyntaf a mynychwyd y digwyddiad

gan ein Prif Swyddog Gweithredol ac uwch staff. Buom hefyd yn gweithio gyda SEMSA i godi proffil y digwyddiad.

Mae sportscotland yn gweithio mewn partneriaeth â Cricket Scotland, ac yn arwain grŵp ymgyrchu gwrth-hiliaeth, Running Out Racism, ar ymgyrch genedlaethol gyda'r nod o annog y rhai sy’n ymwneud â’r gamp ar lawr gwlad i sefyll yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.

Fel rhan o’r ymgyrch #CallItOut, mae miloedd o sticeri batiau wedi cael eu hanfon at bob un o’r pump o gymdeithasau criced rhanbarthol yn yr Alban. Gofynnir i’r cymdeithasau rhanbarthol ddosbarthu’r rhain i’w clybiau a’u haelodau a hyrwyddo’r ymgyrch gan ddefnyddio #CallItOut ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Aeth yr ymgyrch yn fyw ddydd Gwener 17 Mehefin a bydd yn weithredol drwy gydol y tymor criced a gofynnwyd i bob cymdeithas ranbarthol am eu cefnogaeth. Gofynnir iddynt hefyd nodi clybiau / rhaglenni y gellir eu defnyddio fel astudiaethau achos sy’n arddangos arfer da mewn perthynas â chynhwysiant ac amrywiaeth.

Sport Northern Ireland

Mae Sport NI wedi parhau i ymgysylltu â gwaith TRARIIS ar y cyd â chynghorau chwaraeon eraill ac wedi cyfrannu at ymateb yr arweinwyr Dirnadaeth a Gwerthuso ar y cyd. 

Mae Tîm Diwylliant ac Integriti newydd wedi'i sefydlu yn Sport NI, gyda recriwtio staff yn digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd cylch gwaith y tîm hwn yn cynnwys adolygu polisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CACh) mewn sefydliadau a gefnogir a meithrin gallu cyffredinol drwy ddarparu adnoddau defnyddiol. Mae Sport NI hefyd yn ymgysylltu â’r sector chwaraeon ar ymarferoldeb gweithredu rhaglen o grantiau bach yn ystod y flwyddyn i gyrff rheoli chwaraeon cydnabyddedig ‘llai’, nad ydynt yn derbyn buddsoddiad arall gan Sport NI ar hyn o bryd, i fynd i’r afael â bylchau yn y maes CACh, hyrwyddo gweithgareddau CACh ac, yn gyffredinol, codi eu lefelau llywodraethu i gefnogi amrywiaeth ehangach o gyfranogwyr a chymunedau yn well.

Rydym wedi sefydlu Panel Amrywiaeth i gynrychioli a chlywed profiadau byw, safbwyntiau a syniadau creadigol grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Ngogledd Iwerddon. Bydd y panel yn llywio ac yn gwella gwaith Sport NI i ddylanwadu ar newid cadarnhaol mewn chwaraeon ac i wella'r system chwaraeon i bawb. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â sefydliadau chwaraeon lleiafrifoedd ethnig lleol i gael dirnadaeth, cefnogi eu hamcanion ac i hyrwyddo mentrau Sport NI fel y gwobrau SportMaker blynyddol sy'n cydnabod cyfraniad rhagorol hyfforddwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr at chwaraeon yng Ngogledd Iwerddon.

Mae oedi wedi bod gyda gwaith pellach ar adolygu polisïau mewnol oherwydd yr ailstrwythuro sefydliadol ond mae staff ar draws ystod o dimau wedi bod yn ymgysylltu â nifer o grwpiau cydweithredol cynghorau chwaraeon, yn ogystal â TRARIIS, i siapio pethau a rhannu arfer da. Bydd y gwaith rhagarweiniol hwn yn caniatáu cynnydd cyflymach pan fydd y gwaith mewnol yn dechrau.

Y Camau Nesaf

Bydd y pum Cyngor Chwaraeon yn parhau i fod yn dryloyw ynghylch y gweithgareddau a'r cynnydd rydym yn ei wneud, fel ein bod yn gallu bod yn atebol yn gyhoeddus am gyflawni.

Er bod gennym gyda'n gilydd nifer o fentrau ar y gweill i fwrw ymlaen â'n hymrwymiadau, mae'n rhy gynnar i benderfynu pa wahaniaeth ystyrlon y mae ein gweithgarwch yn ei wneud i bobl o gymunedau ethnig amrywiol sy'n cymryd rhan neu sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon ym mhob capasiti. Bydd hwn yn ffocws mawr i ni yn y dyfodol, wrth i ni weithio gyda'n staff a'n partneriaid ac asesu'r effaith rydym yn ei chreu.

Yn rhannol fel ymateb i dystiolaeth ddewr Azeem Rafiq ac athletwyr eraill sydd wedi bod yn hynod ddewr yn siarad am y gwahaniaethu a’r cam-drin maent wedi’i ddioddef, rydym yn gweld mwy o graffu ar sefydliadau chwaraeon o ran cynrychiolaeth ac amrywiaeth profiad ar Fyrddau ac mewn uwch dimau arwain. Rydym yn parhau’n benderfynol o sicrhau bod gan ein cyrff sy’n cael eu cyllido gynlluniau clir a’u bod yn atebol i sicrhau amrywiaeth o ran cynrychiolaeth ar draws eu sefydliad cyfan.

I gefnogi'r uchelgais hwnnw, mae'r pum Cyngor Chwaraeon yn canolbwyntio ar y cyd ar gasglu data CACh mwy cynhwysfawr a chyson ar draws y system chwaraeon yn y DU i sicrhau bod gennym linell sylfaen glir a chydlynol er mwyn gallu monitro cynnydd; ac rydym yn edrych ar wahân ar sut gallwn amrywio recriwtio i'n gweithluoedd ein hunain.

Byddwn yn parhau i eiriol dros newid diwylliannol cyffredinol, cynaliadwy. Byddwn yn sicrhau ein bod ni a’n holl bartneriaid yn ymrwymo’n llawn i wneud popeth posibl i gael gwared ar hiliaeth yn eu camp a sicrhau ei bod yn wirioneddol gynhwysol a chroesawgar i bawb.

 

Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru

Stewart Harris, Prif Swyddog Gweithredol sportscotland

Tim Hollingsworth, Prif Swyddog Gweithredol Sport England

Antoinette McKeown, Prif Swyddog Gweithredol Sport Northern Ireland

Sally Munday, Prif Swyddog Gweithredol UK Sport

 

Y dyddiad nesaf ar gyfer adroddiad diweddaru TRARIIS: Rhagfyr 2022

STRWYTHURAU A SYSTEMAUCYNRYCHIOLAETHPOBLDIRNADAETHBUDDSODDIAD
Gweithio ar y cyd ag UK Sport a grŵp Rhanddeiliaid TRARIIS i gyd-greu atebion i bob un o’r meysydd newid thematig. Sport EnglandDigwyddiad “More of What Works”, yn edrych ar gynrychioli talent, gyda rhanddeiliad TRARIIS fel grŵp cyd-destun gan drafod ag arweinwyr talent CRhC/CACh. Sport EnglandDefnyddio DIAP mewnol i helpu i hybu cynrychiolaeth well o fewn y sefydliad. Sport EnglandMae dirnadaeth a chasglu data a dirnadaeth yn rhan annatod o'n hymrwymiadau yn ein strategaeth. Sport EnglandDylanwadu ar sut rydym yn cynyddu buddsoddiadau mewn cymunedau diwylliannol amrywiol trwy ddatblygu ein cynlluniau buddsoddi un drws ffrynt. Sport England
Cynhaliwyd Closing the Gap ar 9 Mehefin i edrych ar gamau gweithredu i ddeall y cyd-destun presennol yn gysylltiedig â hil a hiliaeth mewn chwaraeon. Sport EnglandParhad o waith Perrett Laver gydag UKS ac adolygu’r cynnydd hyd yma ar amrywiaeth ddiwylliannol ar fyrddau a’r gweithlu. Sport EnglandTrwy'r fframwaith datblygu ystyried mentora ac interniaethau o fewn rhanddeiliad TRARIIS ac i'r gwrthwyneb. Sport EnglandDatblygu cynnig ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddadansoddiad eilaidd o setiau data economaidd i ddeall nodweddion demograffig y gweithlu proffesiynol yn well. Wedi'i gomisiynu ar y cyd â HCSCs ac mewn trafodaeth â CIMSPA. Sport EnglandDrwy'r Fframwaith Datblygu ystyried mater y cynnydd ymddangosiadol mewn risg a gysylltir yn aml â grwpiau diwylliannol amrywiol. Sport England
Datblygwyd fframwaith sy'n ymgorffori ffordd wybodus o weithio i hyrwyddo cynhwysiant. Sport EnglandCefnogaeth ymgynghorol DIAP yn cael ei llunio'n derfynol, diddordeb da gan bartneriaid am eu cyfranogiad a'r angen i gychwyn y broses. Sport EnglandYn gysylltiedig â'r rhwydwaith recriwtio cydraddoldeb hiliol i ddod o hyd i ffyrdd o amrywio cynrychiolaeth yn ein proses recriwtio. sportscotlandTendr i benodi contractwr cymwys i ddylunio ac arwain prosiect cydgynhyrchu gyda ac ar gyfer cymunedau ethnig amrywiol. sportscotlandWedi buddsoddi yng Nghymdeithas Chwaraeon Lleiafrifoedd Ethnig yr Alban. sportscotland
Buddsoddwyd mewn fframwaith ar gyfer cydweithio ag arweinwyr mewnol a phartneriaid allanol. Sport EnglandMae'r gweithlu yn faes arweiniol yn y fframwaith datblygu a bydd yn treulio peth amser i ddeall yn llawn yr her ehangach gan adeiladu ar y ddirnadaeth ychwanegol y byddwn yn ei chomisiynu. Sport EnglandRecriwtio Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae hon yn swydd newydd a sefydlwyd i yrru ein hymrwymiadau yn y maes hwn ymlaen. sportscotlandByddwn yn ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn rhannu adroddiadau gyda phartneriaid allweddol ac yn eu cefnogi i ddadansoddi, deall ac adlewyrchu ar y canfyddiadau. Chwaraeon CymruWedi buddsoddi yn Kabaddi yr Alban i noddi dau dîm; Glasgow a Chaeredin. sportscotland
Datblygwyd partneriaeth Sporting Equals. sportscotlandProses recriwtio Bwrdd wedi arwain at recriwtio dau aelod o gymunedau ethnig amrywiol. sportscotlandByddwn yn cymryd agwedd ragweithiol at nodi'r systemau a'r strwythurau presennol sy'n gweithredu fel rhwystrau. Chwaraeon CymruByddwn yn ceisio bod yn fwy systematig yn y ffordd rydym yn casglu data; yn yr ymchwil rydym yn ei gomisiynu; ac wrth fesur ac olrhain cynnydd. Chwaraeon CymruWedi buddsoddi yng Nghynhadledd amrywiaeth genedlaethol a Gwobrau Amrywiaeth yr Alban. Ni fydd y prif noddwr ar gyfer y Wobr Chwaraeon yn y gwobrau yn ddiweddarach eleni. sportscotland
Ehangu’r gynulleidfa ar gyfer y Safon Cydraddoldeb newydd ar draws pob sefydliad. sportscotlandByddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddeall effaith negyddol anghydraddoldebau hiliol a sut gall cynrychiolaeth well helpu. Chwaraeon CymruEin blaenoriaeth fydd gwneud gwelliannau i brosesau recriwtio, datblygu a chadw'r gweithlu. Chwaraeon CymruCymryd rhan yng ngrŵp cynghori rhanddeiliaid SE i friffio a chasglu adborth ar ein gwaith a nodi bylchau blaenoriaeth. UK SportWedi buddsoddi yng Nghymdeithas Addysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig yr Alban (SAMEE) ar gyfer ei gwobrau yn ddiweddarach eleni. sportscotland
Creu gweithgor traws-sefydliadol, gyda Sporting Equals, i ddatblygu camau gweithredu penodol, ymarferol sy’n ymateb i argymhellion TRARIIS. sportscotlandByddwn yn gweithio i sefydlu'r cysylltiad rhwng gwell cynrychiolaeth a gwell penderfyniadau strategol a gweithredol. Chwaraeon CymruTargedau recriwtio a chynrychiolaeth wedi’u gosod yn ein DIAP gyda mesurau penodol wedi’u cytuno i gefnogi eu cyflawni, fel ein bod yn cynrychioli amrywiaeth Cymdeithas y DU erbyn 2031. UK SportStrategaeth ddata perfformiad uchel wedi'i chwblhau a dangosfwrdd data wedi'i greu. Nodwyd rhai bylchau i fynd i'r afael â hwy yn y broses DIAP neu drwy ddulliau eraill. UK SportByddwn yn gweithio gyda chymunedau i ddeall eu hanghenion a thargedu buddsoddiadau i fynd i'r afael â'r anghenion hyn. Chwaraeon Cymru
Buddsoddiad Grant Cyffredinol a threfniadau cadwyn gyflenwi. Chwaraeon CymruByddwn yn glir ynghylch ble rydym eisiau i'n partneriaid ni wneud mwy, gweithio gyda chyfeillion a rhannu arfer da. Chwaraeon CymruYmchwilio i uwchraddio’r System Reoli AD i wella’r broses o gasglu a dadansoddi data amrywiaeth er mwyn llywio ymyriadau’n well. UK SportAdroddiadau dirnadaeth cynhwysiant llwybr talent HPSAG ar gyfer HCSCs i'w llunio'n derfynol a'u cyhoeddi yn yr haf. UK SportByddwn yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni wedi'u targedu sy'n cyrraedd cymunedau ethnig amrywiol ac yn mesur effaith ein buddsoddiadau yn barhaus. Chwaraeon Cymru
Fframwaith a strategaethau yn eu lle i sicrhau bod gan sefydliadau bolisïau CACh. Chwaraeon CymruCwblhawyd a chyhoeddwyd DIAP newydd UK Sport (gydag ymrwymiadau TRARIIS wedi'u hymgorffori) ar y wefan. UK SportPenodi Hyrwyddwr Hil - Cyfarwyddwr i gefnogi mentrau sy’n ymwneud â recriwtio, cadw a chynnydd staff o amrywiaeth ethnig, mentora/mentora gwrthdro a rhaglenni noddi. UK Sport Mae buddsoddiad CRhC yn creu goblygiadau posibl os bydd diffyg cynnydd o ran DIAP erbyn yr adolygiad 1af. UK Sport
Wedi cyflwyno canfyddiadau TRARIIS yn PLx gyda chefnogaeth cyfranogwyr arolwg TRARIIS yn rhannu eu profiadau bywyd. Pecyn adnoddau wedi'i rannu â'rholl gyfranogwyr. UK SportCyflenwr wedi’i nodi i helpu partneriaid a ariennir i greu a gweithredu DIAPs, i gynnwys mesurau mewn ymateb i ganfyddiadau TRARIIS. UK SportCreu Rheolwr Chwaraeon, Diwylliant ac Integriti 7 tîm. Adolygu polisïau CACh mewn sefydliadau dethol a ariennir a meithrin gallu cyffredinol. Sport Northern Ireland Edrych ar ymarferoldeb rhaglen o grantiau bach ar gyfer cyrff rheoli 'llai' nad ydynt yn derbyn buddsoddiad arall gan Sport NI ar hyn o bryd, i fynd i'r afael â bylchau yn y maes CACh neu i hyrwyddo gweithgareddau CACh. Sport Northern Ireland
Prosiect wedi'i gychwyn ar draws pob un o'r 5 HCSC i adolygu polisïau a gweithdrefnau caffael trwy lens gwrth-hiliaeth. UK SportYmestyn cwmpas contract Perrett Laver i gynnwys creu rhwydwaith amrywiol o gyfarwyddwyr anweithredol. UK Sport   
Gweithgor TRARIIS yn cael ei ffurfio. SE wedi contractio ymgynghoriaeth dan berchnogaeth Ddu i weithio gyda'r grŵp hwn. UK Sport    
Amcanion CACh personol wedi’u mandadu i holl staff UKS. UK Sport