Bydd pêl droed Cymru yn cychwyn 2021 gyda chyfle i gael sedd wrth y bwrdd mwyaf pwerus yn y gamp.
Mae Laura McAllister – cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru yn ogystal â chyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru – yn sefyll i gael ei hethol i gyngor FIFA ac mae'n bwriadu defnyddio'r llwyfan hwnnw i drawsnewid gêm y merched ymhellach yng Nghymru a ledled y byd.
Mae'r etholiad ar gyfer cynrychiolydd benywaidd dynodedig UEFA ym mis Ebrill, pryd bydd pob un o'r 55 o gymdeithasau sy’n aelodau’n dewis rhwng McAllister a deiliad presennol y sedd honno, Evelina Christillin o’r Eidal.
Byddai'r rhan fwyaf o frwydrau yn erbyn yr Eidal ar y cae pêl droed yn gosod Cymru’n ail ac nid yw’r cyfle hwn am le yn rhan o ganolbwynt pêl droed byd-eang Zurich yn eithriad.
Ond mae'r Athro gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwybod sut i gynnal ymgyrch etholiadol ac mae'n hapus o fod wedi'i dewis fel yr ymgeisydd pêl droed, fel cyn-chwaraewr sydd eisiau gwella swyddogaethau chwarae, hyfforddi, dyfarnu a gweinyddu i ferched ar draws y gêm ar lefel byd.
Fel mewn llawer o wledydd, mae pêl droed Cymru wedi gweld cynnydd mewn cyfranogiad gan ferched, gyda chynnydd o 50 y cant yn nifer y chwaraewyr yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ond nid yw unrhyw archwiliad syml o'r ffigurau mewn meysydd eraill o ymwneud â phêl droed yn dangos yr un twf.
Mae merched a genethod Cymru’n chwarae mwy, ond dydyn nhw ddim yn dyfarnu nac yn rhedeg y gamp i’r un graddau o gwbl o ran niferoedd – sy'n golygu bod y pŵer ar gyfer newid pellach wedi aros yn nwylo’r dynion yn gyffredinol.
"Mae'n rhywbeth rydyn ni’n gwbl ymwybodol ohono, ac rydyn ni eisiau cywiro hyn neu ei wella'n weddol gyflym o leiaf," meddai McAllister, sydd wedi bod yn gapten ar ei gwlad a chwarae i Millwall a Dinas Caerdydd.
"Mae hyfforddi yng ngêm y merched yn yr Almaen yn fwy datblygedig nag yma, ac yn yr Iseldiroedd a Lloegr o bosib, ond mae'r patrwm yn rhanedig iawn.