Skip to main content

WRTH I’R LOTERI GENEDLAETHOL DROI YN 27, MAE CHWARAEON CYMRU YN GOFYN I GYMUNEDAU GREU NEWID

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. WRTH I’R LOTERI GENEDLAETHOL DROI YN 27, MAE CHWARAEON CYMRU YN GOFYN I GYMUNEDAU GREU NEWID

Wrth i'r Loteri Genedlaethol ddathlu ei phen-blwydd yn 27 oed, mae Chwaraeon Cymru yn annog cymunedau i feddwl sut gallent ddefnyddio peth o'r £30 miliwn sy’n cael ei godi tuag at achosion da bob wythnos.

Adeiladu Breuddwydion, Creu Newid yw ymgyrch ddiweddaraf y Loteri Genedlaethol ac mae wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl i feddwl sut gallai cyllid helpu eu cymuned eu hunain.

Ledled y DU, mae pedwar ffigur trawiadol yn cael eu dadorchuddio yr wythnos hon i nodi’r dathliadau pen-blwydd. Yng Nghymru, mae'r ffigur - wedi'i wneud o filoedd o beli loteri - i'w weld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac mae'n tynnu sylw at waith Pêl Droed Stryd Cymru sydd wedi derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol.

Scott Jeynes yw Rheolwr Prosiect Pêl Droed Stryd Cymru: 

“Mae adeiladu breuddwydion, creu newid yn sicr yn rhywbeth rydyn ni’n gallu uniaethu ag o, 100%. Heb y Loteri Genedlaethol, ni fydden ni wedi gallu cyrraedd 150 i 200 o chwaraewyr oedd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Rydyn ni'n cynnig sesiynau pêl droed galw heibio a'r cyfle i chwarae mewn Cwpan Byd - ond mae'n gymaint mwy na hynny. Gan ddefnyddio iaith gyffredinol pêl droed, mae'r chwaraewyr yn rhannu eu baich gyda ni, am broblemau gyda budd-dal tai efallai, neu anghenion eraill, ac fe allwn ni ddatrys y broblem i wneud yn siŵr eu bod yn cael yr help sydd arnynt ei angen. Mae'n brosiect sy'n newid bywydau ac rydyn ni'n gweld chwaraewyr yn mynd ymlaen i gael gwaith a gwella eu sefyllfaoedd.”

Ers i Chwaraeon Cymru ddechrau dosbarthu grantiau'r Loteri Genedlaethol gyntaf, mae wedi cefnogi 26,791 o brosiectau chwaraeon ar lawr gwlad yn uniongyrchol. Mae'r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid y tirlun chwaraeon - mae wedi adeiladu ac uwchraddio cyfleusterau, prynu offer ac ariannu cyrsiau cymorth cyntaf a hyfforddi.

 

 

Dyma Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, i esbonio:

“Mae edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd yn y byd chwaraeon yng Nghymru o ganlyniad i’r loteri yn anhygoel. Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n gyfrifol am hynny ac rydyn ni mor ddiolchgar. Mae mwyafrif y grantiau ar gyfer £10,000 neu lai sy'n golygu bod y Loteri Genedlaethol yn helpu prosiectau bach i wneud gwahaniaeth mawr yn eu cymunedau.

Ac mae'r Loteri Genedlaethol yn parhau i gael effaith enfawr ar chwaraeon yng Nghymru drwy Gronfa Cymru Actif:

“Hyd yma mae Cronfa Cymru Actif, sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, wedi dyfarnu mwy na £5.2m, gan helpu mwy na 1300 o glybiau i godi’n ôl ar eu traed ar ôl i’r pandemig daro gyntaf,” ychwanegodd Brian. “Mae Cronfa Cymru Actif yn parhau ar agor ac rydyn ni’n annog cymunedau ledled Cymru i feddwl am yr hyn y gallant ei wneud i wella a sut gallant gyrraedd cyfranogwyr newydd.”

Nod Cronfa Cymru Actif - sy'n cynnig grantiau o hyd at £50,000 - yw helpu i gael mwy o bobl yn fwy actif. Gall clybiau a phrosiectau chwaraeon ddefnyddio'r cyllid i uwchsgilio gwirfoddolwyr, prynu offer newydd, gwella cyfleusterau neu ariannu technoleg arloesol i gyrraedd mwy o bobl.

Mae Clwb Rygbi Pentyrch ar fin mynd yn wyrdd ar ôl cael grant o £8000 i osod paneli solar ar do'r clwb. Mae'n bwriadu defnyddio'r arbedion ynni i fuddsoddi mewn grwpiau rygbi cerdded ar gyfer dynion a merched. Yn y cyfamser, mae Aren Cymru wedi derbyn cyllid a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn sesiynau hyfforddi pêl droed ar gyfer cleifion trawsblaniadau yn ogystal â'r rhai ar ddialysis.

Roedd ymgyrch #ifyougoigo Datblygiad Chwaraeon Torfaen yn llwyddiannus gyda’i chais am gyllid hefyd. Mae'n cynnig rhaglen gweithgarwch corfforol 10 wythnos i ferched sy'n cynnwys sesiynau grŵp wythnosol, hyfforddiant personol un i un, mentora a chyngor maeth. Mae un cyfranogwr hyd yn oed wedi nodi nad oes arni angen meddyginiaeth bellach ar gyfer gorbryder ac iselder. 

“Rydyn ni’n angerddol am helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf,” meddai Brian. “Rydyn ni’n croesawu prosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn cyfranogiad chwaraeon ymhlith merched a genethod, cymunedau ethnig amrywiol, a phobl sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy