Main Content CTA Title

Y clybiau ar lawr gwlad sy’n creu cyfleoedd i ferched a genethod

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y clybiau ar lawr gwlad sy’n creu cyfleoedd i ferched a genethod

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru yn creu amgylcheddau croesawgar lle gall merched a genethod ffynnu.

Mae ymchwil yn dangos bod 94% o ferched 7 i 16 oed eisiau gwneud mwy o chwaraeon -arwydd clir bod y dyhead yn bodoli os yw'r cyfle'n briodol.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth drwy Gronfa Cymru Actif gan Chwaraeon Cymru, mae clybiau lleol yn camu i’r adwy i ddiwallu'r galw yma.

Dyma rai o'r clybiau ysbrydoledig sy'n helpu i arwain y ffordd.

Coity Chiefs – Pêl droed i ferched

Carfan pêl-droed merched gyda'u bysedd wedi'u croesi

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, clwb pêl droed i ferched yn unig yw’r Coity Chiefs sy'n cynnig lle diogel a chefnogol i chwaraewyr ifanc fwynhau'r gêm, meithrin cyfeillgarwch a datblygu eu hyder. Mae'r clwb yn rhan o'r don gynyddol ym myd pêl droed merched a genethod, gyda’r cyfranogiad yng Nghymru i fyny 45% ers 2021.

Fe helpodd grant o £7,471 yn 2023 gan y Loteri Genedlaethol, drwy Chwaraeon Cymru, y clwb i brynu peli, goliau, bibiau, cyflenwadau cymorth cyntaf, a chyrsiau hyfforddi hyfforddwyr.

Darllenwch fwy am sut mae Coity Chiefs yn helpu merched i ffynnu drwy’r cynnydd mewn pêl droed merched yng Nghymru.

Mae'r merched sy'n dod yn teimlo eu bod nhw'n perthyn yma, maen nhw’n gallu mynegi eu hunain yn rhydd, datblygu eu sgiliau, meithrin cyfeillgarwch a bod yn nhw eu hunain heb bresenoldeb pwysau neu stereoteipiau sy'n gysylltiedig â rhywedd.
Leeann Bekker, Trysorydd Coity Chiefs

Sole Mate – Diogelwch mewn niferoedd, cryfder mewn niferoedd

Helen a Becky yn rhedeg ar balmant wrth ymyl ffordd
Helen (chwith) a Becky

Ym Merthyr Tudful, mae Sole Mate yn grŵp rhedeg cymdeithasol lle mae iechyd meddwl, cyfeillgarwch a rhyddid yn dod cyn medalau neu amseroedd gorffen. Merched yw 75% o’r rhedwyr, wedi'u denu at ymdeimlad o gymuned a diogelwch y grŵp.

Fe helpodd grant o £620 gan y Loteri Genedlaethol, a ddyfarnwyd gan Chwaraeon Cymru, gyda hyfforddi arweinwyr rhedeg newydd i ddatblygu'r grŵp a chynnig sesiynau mwy cynhwysol, dan arweiniad i ferched na fyddent yn teimlo'n ddiogel fel arall yn ymarfer corff yn yr awyr agored ar eu pen eu hunain.

Mae diogelwch yn parhau i fod yn bryder i lawer o ferched: mae 25% o ferched yn dweud eu bod nhw’n poeni am adael eu cartref i wneud ymarfer corff, o gymharu â dim ond 16% o ddynion. (Traciwr Gweithgarwch Cymru, Ebrill 2025)

Darganfyddwch sut mae Sole Mate yn gwneud rhedeg yn fwy diogel ac yn fwy cymdeithasol i ferched ym Merthyr Tudful.

Clwb Sboncen Ynys Môn – Creu modelau rôl benywaidd

Merch yn chwarae sboncen yn siglo ei raced yn ôl yn barod i daro'r bêl

Yn ôl yn 2018, dim ond 5% o aelodau Clwb Sboncen Ynys Môn oedd yn ferched. Heddiw, mae'r nifer hwnnw wedi tyfu i bron i 40%, ac mewn sesiynau iau, mae mwy o ferched nac o fechgyn bellach.

Pan ymunodd Rhian Jones, 16 oed, â'r clwb gyntaf, hi oedd yr unig ferch yn yr hyfforddiant. Nawr, nid yn unig y mae hi'n chwarae ond mae hi hyd yn oed yn dyfarnu gemau cynghrair dynion fel dyfarnwr cymwys.

Edrychwch sut mae Clwb Sboncen Ynys Môn yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd.

Mae'n wych gweld mwy o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn sboncen gan ei fod wedi fy helpu i i fagu hyder. Mae bod yn rhan o'r gamp a dod yn ddyfarnwr wedi fy helpu i i leisio fy marn, sy'n ddefnyddiol iawn yn y coleg.

KidCare4U - Goresgyn rhwystrau, meithrin lles

Goup of women smiling

Yng Nghasnewydd, mae'r elusen leol KidCare4U yn helpu merched o gymunedau amrywiol i deimlo'n hyderus yn y dŵr drwy sesiynau nofio sy'n sensitif i ddiwylliant, i ferched yn unig.

Gyda grant o £4,700 o Gronfa Cymru Actif, mae'r prosiect yn talu costau llogi pwll, gan ddileu rhwystrau ariannol a diwylliannol i helpu mwy o ferched i fod yn actif, yn ddiogel ac yn gyfforddus.

Ers lansio ym mis Medi 2024, mae mwy na 150 o ferched wedi bod yn cymryd rhan, gan hybu eu lles corfforol a meddyliol, a dod o hyd i lawenydd mewn symud eto.

Darllenwch fwy am sut mae KidCare4U yn helpu merched i adennill lle, hyder a chymuned.

Cyn i ni ddechrau, doedd dim sesiynau i ferched yn unig felly doedden ni ddim yn teimlo’n ddigon cyfforddus i nofio. Weithiau, mae gan byllau nofio ffenestri mawr agored fel bod rhieni’n gallu gwylio eu plant ond rydyn ni'n Fwslimiaid sy'n golygu bod angen i ni fod mewn amgylchedd i ferched yn unig.”
Ayesha

Dynamos Caerdydd – Badminton, perthyn, a mwy

Woman playing badminton

Yng Nghaerdydd, mae Clwb Badminton Dynamos Caerdydd yn creu lle diogel a chroesawgar i ferched o gymunedau amrywiol fod yn actif, meithrin cyfeillgarwch a hybu eu lles.

Gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, lansiodd y clwb sesiynau i ferched yn unig i helpu merched i oresgyn rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol fel iaith, hyder ac anghenion crefyddol.

Helpodd y cyllid i dalu am logi lleoliad, hyfforddiant, racedi a gwenoliaid gan sicrhau nad oes unrhyw ferch yn cael ei gadael ar ôl oherwydd cost na mynediad.

Darllenwch fwy am sut mae Dynamos Caerdydd yn helpu merched i deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u cynnwys drwy chwaraeon.

Oes gan eich clwb chi syniadau gwych ar gyfer cael mwy o ferched a genethod i gymryd rhan mewn chwaraeon? Darganfyddwch sut gallai Cronfa Cymru Actif helpu gyda hynny.