Skip to main content

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Olympaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Olympaidd

Pan fydd Olympiaid Cymru yn camu allan ar lwyfan y byd yr haf yma, bydd byddin gyfan o wirfoddolwyr, hyfforddwyr cymunedol a chlybiau chwaraeon y tu ôl iddyn nhw.

Tra mae Micky Beckett, Anna Hursey a Dan Jervis yn paratoi i wthio eu hunain i’r eithaf ar y dŵr, ar y cwrt ac yn y pwll, mae tri chlwb cymunedol a fydd yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd.

Fe gawson ni sgwrs gyda’r clybiau a wnaeth, gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, eu cychwyn ar eu siwrnai i Baris 2024.

Dan Jervis a Chwlb Nofio Castell-nedd

Bydd Dan Jervis yn gwneud ei ail ymddangosiad mewn Gemau Olympaidd pan fydd yn plymio i'r pwll yn y Center Aquatique ym Mharis yr haf yma. Mae’r nofiwr dull rhydd 1500m yn diolch i’w hyfforddwyr am ei gefnogi ar ei siwrnai – ac un o’r hyfforddwyr hynny yw Neill Golding.

Ar ôl gwirfoddoli fel Prif Hyfforddwr Clwb Nofio Castell-nedd am y 23 mlynedd diwethaf, fe ddechreuodd Neill hyfforddi Dan pan oedd ond yn 12 oed.

“Roedd gan Dan bob amser lawer o egni, angerdd a hunanbenderfyniad. Roedd e eisiau llwyddo ond, bryd hynny, doedd ei dechneg e ddim yr orau. Fe wnes i roi rhaglen yn ei lle i weithio ar hynny ar draws pob strôc. Weithiau mae’n gallu bod yn anodd gweld pa nofiwr yw pa un pan maen nhw yn y dŵr pan fyddwch chi’n gwylio ar y teledu ond rydw i bob amser yn adnabod Dan yn syth oddi wrth ei strôc – oherwydd fi roddodd y strôc yna iddo fe. Mae’n gwneud i mi deimlo’n falch bod y clwb wedi bod yn rhan o’i siwrnai.”

Llun pen Dan Jervis

 

A heddiw, mae’r clwb yn dal i ffynnu. Mae Neill yn un o 17 o hyfforddwyr yn y clwb, sydd hefyd yn cynnwys ei ferch Francesca. Mae'n rhestru llu o enwau talentau addawol.

Gan sicrhau bod y clwb yn gallu parhau i ddysgu sgil bywyd pwysig i’r plant yn y gymuned leol am genedlaethau i ddod, mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi arian y Loteri Genedlaethol mewn hyfforddi hyfforddwyr y dyfodol.

Ers 2013, mae bron i £13,000 wedi cael ei ddyfarnu i Glwb Nofio Castell-nedd, gyda'r gyfran fwyaf yn talu am gyrsiau hyfforddi:

“Fel clwb, mae angen i ni uwchsgilio hyfforddwyr y dyfodol. Rydyn ni eisiau i'r clwb barhau am genedlaethau i ddod. Mae gennym ni bedwar o bobl ifanc yn dilyn cyrsiau hyfforddi ar hyn o bryd, diolch i'r Loteri Genedlaethol. Nhw yw ein hyfforddwyr ni ar gyfer y dyfodol ac, wrth i ni ymddeol, mae angen unigolion medrus i ddod drwodd a chymryd yr awenau. Mae Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn ein galluogi ni i wneud hynny.”

Micky Beckett a Chlwb Hwylio Solfach

Ewch am dro i bentref tlws Solfach yr haf yma ac, wrth i’r tonnau dorri ar draeth yr harbwr yno, mae’n siŵr y byddwch chi’n clywed sylwebaeth y teledu am gamp benodol yn dod allan o’r ffenestri agored. Y gamp honno? Hwylio.

Oherwydd mae Micky Beckett, sydd wedi cael ei eni yn Solfach, ar fin cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd. Ac mae'n cyfaddef ei fod wedi treulio ei oes gyfan yn ceisio cyrraedd y Gemau.

Fe ddechreuodd y freuddwyd yn bump oed yn y pentref bach yn Sir Benfro. Mae Bella Prickett, ysgrifennydd aelodaeth Clwb Hwylio Solfach, yn ei gofio allan ar y tonnau yn ymarfer:

“Mae’n arwr i’r genhedlaeth nesaf. Rydyn ni wedi ei weld yn tyfu i fyny – rydw i'n cofio pan gafodd e ei eni - ac mae ei weld e’n gwneud pethau anhygoel mor gyffrous i bob un ohonom ni. Mae yna ymdeimlad enfawr o falchder – nid yn unig yn y clwb ond yn y pentref cyfan. Bydd pob teledu yn Solfach yn dangos yr hwylio,” chwerthodd Bella.

A ’dyw e ddim wedi anghofio ei wreiddiau. Mae’n dal i restru Solfach ar ei gerdyn rasio, mae’n mynychu digwyddiadau codi arian, yn ymweld â’r ysgol i gynnal sgyrsiau ac, yn ddiweddar, ef oedd y cyntaf i roi cynnig ar gychod newydd y clwb sydd wedi cael eu prynu gydag arian y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif:

“Fe gawson ni fwy na £19,000 ar gyfer pum cwch newydd y llynedd. Mae'n cymryd diwrnod llawn i'w rigio nhw i gyd ac fe ddaeth Micky yn ôl i roi trefn ar hynny i ni. Mae’n dal i chwarae ei ran.”

Llun pen Michael Beckett
Llun: British Olympic Association

 

Ers 2014, mae Chwaraeon Cymru wedi helpu’r clwb i wneud hwylio’n fwy fforddiadwy diolch i £23,401 mewn grantiau gan y Loteri Genedlaethol.

“Fe gawson ni y grant mawr y llynedd ar gyfer y cychod, ond rydyn ni hefyd wedi derbyn grantiau llai ar gyfer offer, cyrsiau hyfforddi a hyfforddiant cymorth cyntaf – ’fydden ni ddim yn gallu rhedeg y clwb heb arian gan Chwaraeon Cymru.

“Fel clwb, rydyn ni eisiau helpu plant i roi cynnig ar hwylio ac rydyn ni’n cynnig sesiynau blasu i ysgolion. Mae’r grantiau’n amhrisiadwy ac maen nhw hefyd wedi helpu Micky ar ei siwrnai Olympaidd.” 

Anna Hursey a Chlwb Tennis Bwrdd Penlan

Pan ddaeth Anna Hursey i Glwb Tennis Penlan Abertawe am y tro cyntaf yn ifanc iawn, roedd ei photensial yn amlwg i bawb.

“Prin y gallech chi weld ei phen hi dros y bwrdd; roedd hi mor fach,” meddai’r gwirfoddolwr Keith Baker. “Ond roedd ei thalent hi’n gwbl amlwg.”

Ac mae'n dweud ei bod hi bob amser yn mynd i ragori. Yr haf yma, mae’r ferch 18 oed yn sicrhau ei lle yn y llyfrau hanes fel chwaraewr tennis bwrdd cyntaf erioed Cymru i gystadlu mewn Gemau Olympaidd.

Ond ’dyw hynny ddim yn llawer o syndod i’r rhai ym Mhenlan wnaeth adnabod ei dawn a’i phenderfyniad diwyro hi o’r dechrau un:

“Hyd yn oed bryd hynny, roedd hi’n rhoi gêm dda i bobl. Fe fyddai’n chwarae yn erbyn oedolion yn y clwb, gan gynnwys fi fy hun, felly rydw i’n hoffi meddwl fy mod i wedi ei helpu hi ryw ychydig bach,” meddai Keith.

Anna Hursey yn paratoi ar gyfer ergyd tennis bwrdd

 

Nid Anna yw’r unig chwaraewr i ddod drwy’r clwb a mynd ymlaen i ddisgleirio mewn cystadlaethau mawr. Fe dreuliodd y paralympiad Paul Karabardak – a enillodd arian ac efydd yn Tokyo dair blynedd yn ôl – ei flynyddoedd iau ym Mhenlan hefyd.

Ers 2011, mae’r clwb wedi derbyn bron i £8000 o arian y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru sydd wedi helpu’r clwb i dalu am logi lleoliad ar ôl y pandemig, prynu offer, a gyrru chwaraewyr ifanc drwy gyrsiau hyfforddi:

“Mae wastad mwy y gallwn ni ei wneud yn y gymuned, ond mae gennym ni bob tras ac ethnigrwydd yn dod i’r clwb. Rydyn ni'n hoff iawn o’r hyfforddi a’r gwirfoddoli. Rydw i wedi bod yma ers 25 o flynyddoedd bellach ac rydw i’n dal i hoffi gwneud gwahaniaeth.”

Tra bo’r cyllid wedi helpu’r hyfforddwyr yn y clwb i wneud gwahaniaeth, mae cael gwared ar yr angen am dalu am git ac offer yn bwysig iawn hefyd.

“Does gennym ni ddim cod gwisg. Os ydych chi eisiau gwisgo jîns a hwdi, mae hynny'n iawn. Jyst dewch i chwarae. Rydyn ni’n ceisio ei gadw’n fforddiadwy i deuluoedd am nad ydyn ni eisiau i bobl beidio â dod oherwydd cost.”

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi: Sut mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi tennis bwrdd yng Nghymru

Newyddion Diweddaraf

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy

Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn dychwelyd i Gaerdydd

Mae Ystafell Taf yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn barod i drawsnewid unwaith eto yn gartref…

Darllen Mwy

Ella Maclean-Howell: Canllaw Olympiad i Feicio Mynydd yng Nghymru

Dyma ddadansoddiad Ella o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru.

Darllen Mwy