Skip to main content

Y fyddin chwaraeon sy’n rhoi’n ddiddiwedd

Dyma arwyr tawel y byd chwaraeon, y pridd ffrwythlon sy'n galluogi i chwaraeon ar lawr gwlad ffynnu.

Does neb yn sylwi arnyn nhw, nac yn eu clywed, yn aml, ond heb waith y gwirfoddolwyr, byddai'r rhan fwyaf o chwaraeon yn crebachu a byddai rhai'n diflannu'n llwyr.

Dychmygwch fyd heb neb yn marcio'r caeau, neb yn casglu'r tanysgrifiadau, ac unigolion sydd wedi anafu'n cael eu gadael i edrych ar ôl eu hunain.

Diflas iawn yw meddwl am ddim brechdanau yn y clwb, dim pot o de neu fisgedi, dim lifft i'r clwb, dim bysus wedi'u harchebu, neb yn torri'r gwair, neb yn llunio cyfrifon, a chit budr a drewi hyd dragwyddoldeb.

Meddyliwch am chwaraeon heb y rhan fwyaf o ddyfarnwyr neu swyddogion, heb fwyafrif helaeth y staff hyfforddi, heb feddygon na ffisiotherapyddion, dim rhestr o gemau, dyddiadau cystadlaethau, dim mentoriaid - dim ffigwr fel tad - neu fam, dim llaw yn tywys, neb i gyfeirio'r ffordd ymlaen, neu bwyntio bys pan fydd rhywun yn croesi'r ffin.

Byddai'n anhrefn llwyr! A byddai'r arogl ar y cit yn ddifrifol.

Mae'r Wythnos Gwirfoddolwyr wedi cael ei chynnal y mis yma (Mehefin 1-7). Dyma gyfle i ddiolch i bawb sy'n rhoi o'u hamser, ym mhob ffordd bosib, ledled y DU.

Mae chwaraeon yng Nghymru wedi bod yn cymeradwyo hefyd, gan ddathlu'r rhai sy'n rhoi oriau gwerthfawr er budd eraill.

Mae'r straeon am wirfoddolwyr yn y byd chwaraeon yng Nghymru'n niferus ac amrywiol. Mae Richard Jenkins yn un esiampl, swyddog athletau gwirfoddol yng Nghymru sy'n rhoi o'i amser mewn cystadlaethau rheolaidd.

Efallai y bydd athletwr yn rhedeg gorau personol, neu'n rhedeg ymhellach nag erioed o'r blaen, efallai y bydd yn torri record Cymru, neu record byd, y DU neu Ewrop. Ond os nad oes unrhyw un yno i gofnodi'r ymdrech honno, dim ond si fydd ei gamp.

"Rydw i yma fel bod yr athletwyr yn gallu cyflawni beth maen nhw eisiau ei gyflawni yn eu breuddwydion," meddai Richard.

"Hebdda' i , does dim posib iddyn nhw ei wneud e. Fe allwch chi gael cymaint o hyfforddwyr â leciwch chi'n hyfforddi'r athletwyr, ond heb swyddogion yn y gystadleuaeth, mae'n wastraff amser."

Dywedodd ei gyd-wirfoddolwr yn y byd athletau, Chris Price: "Doedd gen i ddim cefndir mewn athletau mewn gwirionedd.

"Yr unig athletau oeddwn i wedi ymwneud â nhw oedd gwneud y traws gwlad yn yr ysgol. Roeddwn i'n iawn, ond es i ddim pellach yn y maes.

"O ran dyfarnu, fe wnes i gymryd rhan am bod fy mhlant i'n cystadlu. Mae'r ddau'n swyddogion eu hunain nawr."

Mae'r un lefel o ymrwymiad i'w weld mewn cymaint o chwaraeon eraill. Mae golff, beicio a hwylio'n dair camp arall na fyddai'n gallu sicrhau darpariaeth, datblygiad na chystadlaethau yn eu gweithgareddau oni bai am fyddin o wirfoddolwyr.

Mae'r tair camp yn cydnabod eu gwirfoddolwyr yn rheolaidd, drwy wobrau unigol, a gall dylanwad y rhai sy'n rhoi help llaw fod yn anfesuradwy.

Mae enillydd medal aur Olympaidd o Gymru, Elinor Barker, wedi siarad am bwysigrwydd gwirfoddolwyr yn ystod ei blynyddoedd cynnar fel beicwraig ac meddai: "Mae gen i gymaint o atgofion da wrth dyfu i fyny yn y byd beicio yng Nghymru.

"Mae trefnwyr rasys, a'r clybiau, yn creu llawer o gyfleoedd gwahanol i bobl gymryd rhan fel gwirfoddolwyr, felly does dim ots os nad ydych chi'n gallu cyrraedd cystadleuaeth bob wythnos.

"I rieni, mae hefyd yn ffordd wych o ysbrydoli eich plant chi i gymryd rhan mewn camp grêt sy'n eich cadw chi'n heini ac yn rhoi cyfle i chi gyfarfod ffrindiau newydd.

"Heb wirfoddolwyr, byddai llai o gyfleoedd i bobl hyfforddi, cystadlu a mwynhau eu camp mewn amgylchedd diogel."

Mae'n gallu bod yn anodd pennu gwerth gwirfoddoli i chwaraeon yng Nghymru - yn enwedig wrth i ni amcangyfrif bod oddeutu 180,000 o wirfoddolwyr yn bodoli, a'r bobl hynny'n cyfrannu cyfartaledd o 250,000 o oriau o'u hamser bob wythnos.*

Ond fe geisiodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Sheffield Hallam wneud hynny ac awgrymwyd bod gwirfoddolwyr yn creu elw cymdeithasol ar fuddsoddiad oedd yn werth mwy na £950m.**

Yn 2017, dywedwyd bod gwirfoddolwyr yn cyfrannu gwerth £311.76m drwy'r amser roeddent yn ei roi, a gwelwyd bod gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gysylltiedig â gwella lles goddrychol, a mwy o foddhad mewn bywyd, yn werth hyd at £645.92m.

Ond dyma'r gyfrinach fawr am wirfoddoli. Nid yw'n weithred gwbl anhunanol. Mae wir yn gwneud lles i chi.

Mae'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Sefydliadau Gwirfoddol yn dweud bod tystiolaeth ar gael i ddangos bod helpu eraill yn gwneud i chi deimlo'n dda ac yn gwella lles y gwirfoddolwyr eu hunain.

Pa well esgus mae rhywun ei angen?

Fel mae Richard Jenkins yn dweud: "Mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus hefyd. Heb y teimlad hwnnw wrth wirfoddoli, 'fyddwn i ddim yn ei wneud e."

*Ffigurau o'r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru, 2016/17

**Ffigurau o fodel Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) Cymru, sy'n mesur y SROI ar gyfer chwaraeon yn 2016/17.