Skip to main content

Y gwirfoddolwyr ffyddlon sy’n cynnal digwyddiadau rasio de Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y gwirfoddolwyr ffyddlon sy’n cynnal digwyddiadau rasio de Cymru

Mae'r cyn redwr pellter hir a'r Olympiad Steve Brace - a redodd yng Ngemau Olympaidd yr haf 1992 a 1996 - yn credu mai gwirfoddolwyr yw'r sylfaen ar gyfer popeth mae Run 4 Wales yn ei gyflawni.

Y gwirfoddolwyr hyn sy’n rhoi o’u hamser ac yn gweithio’n galed i alluogi’r sefydliad elusennol yma i  barhau â’i waith da yn hybu gweithgarwch corfforol i bawb.

Enillodd Brace, sydd bellach yn bennaeth Run 4 Wales, Farathon Paris yn 1989 a 1990 a’u harwain gartref ym Marathon Berlin yn 1991.

Mae’n gwybod beth sydd ei angen i redeg mewn pob math o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd y rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth helpu Run 4 Wales i reoli Marathon Caerdydd, 10K Porthcawl a 10K Bae Caerdydd yn llwyddiannus.

Mae’r mis yma wedi cynnwys yr Wythnos Gwirfoddolwyr – cyfle i hyrwyddo a thynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud gan filiynau o wirfoddolwyr mewn cymaint o wahanol feysydd ledled y DU.

Mae Run 4 Wales, a sefydlwyd yn 2012, yn sefydliad elusennol nid er elw sy’n buddsoddi mewn prosiectau chwaraeon a chymunedol ar lawr gwlad.

Maen nhw wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn adeiladu system mor fawr yng Nghymru, ond eu gwirfoddolwyr – sy’n cael eu galw yn Extra Milers - sy'n sicrhau bod y digwyddiadau mawr yn rhedeg yn esmwyth.

“Fe ddathlodd Run 4 Wales ei 10fed pen-blwydd yn ddiweddar, ac mae gwirfoddoli yn greiddiol i’r sefydliad,” meddai Brace.

“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi adeiladu portffolio o ddigwyddiadau ar hyd arfordir de Cymru, felly rydyn ni wedi creu grŵp ffyddlon o wirfoddolwyr.

“Er enghraifft, roedd 2016 yn flwyddyn hollbwysig pan gawsom ni Hanner Marathon y Byd yn y dref. Roedd yn ddigwyddiad mor fawr fel na fydden ni wedi gallu ei gynnal heb wirfoddolwyr; mae cymaint o waith yn mynd i mewn i gau’r ddinas a sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg mor esmwyth â phosib.

“Roedd cymaint i’w wneud ac felly mae gennym ni amrywiaeth o swyddi fel bod yn swyddogion, y tîm ar y llinell gychwyn, pobl yn dosbarthu dŵr, ein ‘gwrws’ ni, tîm o feicwyr ar y blaen i wneud yn siŵr bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth. Mae fel system filwrol.”

Mae Brace yn credu bod y gwirfoddolwyr hyn yn pennu diwylliant a naws y sefydliad ac wedi newid y diwylliant yma dros y blynyddoedd, gan wneud yn siŵr bod pawb yn mwynhau'r rasys.

“Maen nhw’n chwarae rhan hollbwysig. Y gwirfoddolwyr ydi'r cyswllt rhwng y cyhoedd a'r digwyddiad.

“Mae pobl yn dod yn ôl mewn pob math o dywydd o hyd ac mae eu hymroddiad nhw’n hollbwysig i ni oherwydd, hebddyn nhw, ni fyddai unrhyw ddigwyddiad.

“Rydw i wedi dod o bersbectif perfformio a’r enwau mawr yma sy’n creu bri i’r digwyddiad, ond hefyd y clybiau rhedeg lleol a’r cymunedau sy’n gwneud cymaint i sicrhau bod yr holl bobl sy’n cymryd rhan a’r cyhoedd yn cael yr amser gorau posibl.”

Tri gwirfoddolwr yn dal crysau-t i fyny
Yr Extra Milers yn mwynhau dosbarthu crysau-t yn Hanner Marathon Caerdydd - Llun: Run4Wales
Y grŵp yma o bobl sy’n paratoi’r diwrnod a’i wneud yn achlysur arbennig gyda’u hangerdd heintus, sy’n gyrru’r gamp yn ei blaen.
Steve Brace, Run4Wales

Nid Run 4 Wales yw'r unig sefydliad sy'n dibynnu'n helaeth ar y dwylo parod sy’n cael eu darparu gan fyddinoedd o wirfoddolwyr.

Mae She Runs – grŵp rhedeg cymdeithasol poblogaidd a llwyddiannus iawn i ferched sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd – hefyd yn ddyledus iawn i’r gwirfoddolwyr sy’n cadw mwy na 1,600 o aelodau yn symud ar strydoedd y brifddinas.

Maen nhw hefyd yn rhoi o'u hamser i sicrhau bod digwyddiadau fel Ras Eithaf Pegasus a gynhaliwyd yn ddiweddar yn rhedeg yn esmwyth.

I lawer sy’n gwirfoddoli yn y cylchoedd cymdeithasol hynny, mae’n gyfle i helpu, rhoi help llaw, a theimlo eu bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil sy’n rhoi’r un boddhad â’r gweithgarwch corfforol sy’n cael ei wneud gan y rhai maen nhw’n eu cynorthwyo.

“I lawer o bobl, nid dim ond ochr redeg y digwyddiadau maen nhw’n ei mwynhau, ond yr agweddau cymdeithasol ar y diwrnod a helpu pobl,” meddai Brace.

“Mae gennym ni grŵp mor amrywiol o bobl sy’n helpu ac rydw i’n meddwl mai dyna beth sy’n gwbl arbennig am yr hyn rydyn ni wedi’i greu yn ystod y deng mlynedd diwethaf.”

Mae Brace yn esbonio nad y rhedeg ei hun yn unig sy’n bwysig yn y marathonau, ond y diwylliant sydd wedi'i greu o'u cwmpas a'r ymdeimlad o achlysur y gall marathon ei gyflwyno, i athletwyr a gwylwyr.

“Mae llawer o bobl yn hoffi gwneud diwrnod ohoni, maen nhw'n hoffi rhoi rhywbeth yn ôl. Mae grwpiau cymunedol yn hoffi cymryd rhan a bod yn rhan o bopeth ac mae llawer o bobl sy’n hapus i weld y ddinas neu sydd eisiau i bobl fwynhau eu hamser yn y ddinas hefyd.

“Mae pobl o grwpiau o leiafrifoedd ethnig, grwpiau eglwys, sgowtiaid, myfyrwyr coleg a phrifysgol a chlybiau rhedeg.

“Y grŵp yma o bobl sy’n paratoi’r diwrnod a’i wneud yn achlysur arbennig gyda’u hangerdd heintus, sy’n gyrru’r gamp yn ei blaen.

“Mae llawer o fyfyrwyr tramor a phobl o bob rhan o’r DU sy’n hoffi blasu’r diwylliant a’r ddinas o’n cwmpas sydd bob amser yn wych i’w weld. I lawer o bobl, maen nhw’n dod i fwynhau’r diwrnod allan a’r profiad.”

Dywedodd Brace, er bod gwirfoddolwyr yn rhoi llawer i'r sefydliad, mae Run 4 Wales yn frwd dros roi yn ôl i'w gwirfoddolwyr hefyd; mae eu helpu i dyfu a datblygu yn rhan enfawr o'r hyn mae'r sefydliad yn ceisio ei gyflawni.

“Rydych chi'n gweld rhai pobl sy'n ddiniwed, yng Nghaerdydd am y tro cyntaf efallai. Mae wir yn helpu gyda chyfathrebu a meithrin tîm. Heb os nac oni bai rydyn ni’n gweld pobl yn tyfu mewn cymaint o agweddau, gan feithrin hyder a dealltwriaeth, mae'n wych gweld hynny.

“Rydyn ni’n cael llawer o wirfoddolwyr yn dod yn ôl drwy gydol y flwyddyn a thros y blynyddoedd, ac mae wedi bod yn wych gweld y bobl yma’n datblygu.

“Dydi e ddim yn hwyl bob amser, ond mae rhywbeth i bawb ac mae’n gymuned wych i gymryd rhan ynddi.

“Mae rhywbeth at ddant pawb. Mae rhywbeth i'w wneud bob amser a all helpu.

“Rydyn ni’n deall ein bod ni’n mynd â phobl ar dipyn o siwrnai ac yn eu helpu nhw i ddatblygu hefyd.”

Eisiau gwirfoddoli a dod yn Extra Miler? Ewch draw i'w Facebook neu ewch i dudalen wirfoddoli Run4Wales.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy