Skip to main content
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y person sy’n dod yn gyntaf - Gatland a Cooper yn dangos y ffordd i hyfforddwyr Cymru

Y person sy’n dod yn gyntaf - Gatland a Cooper yn dangos y ffordd i hyfforddwyr Cymru

Nid dim ond y byd rygbi yng Nghymru fydd yn gweld bod bwlch enfawr i'w lenwi pan fydd Warren Gatland yn dweud ffarwél wrth ei genedl fabwysiedig ddiwedd mis Awst.

Wrth i'r gŵr o Seland Newydd baratoi ar gyfer ei gêm olaf gyda Chymru fel hyfforddwr cenedlaethol - gêm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd gartref yn erbyn Iwerddon ar Awst 31 - dylai cymuned hyfforddi gyfan y wlad baratoi ar gyfer ei weld yn gadael.

Mae'n anodd meddwl am unrhyw hyfforddwr yng Nghymru, mewn unrhyw gamp, sydd wedi cael effaith debyg yn ystod y 12 mis diwethaf. Gall timau pêl droed a hoci cenedlaethol Cymru - y dynion a'r merched - ddadlau eu bod hwy wedi bod â hyfforddwyr yr un mor ddisglair.

Hefyd gall y byd beicio, rhwyfo a bocsio dynnu sylw at ddylanwad rhai hyfforddwyr penodol ar rai adegau penodol. Fel Gatland, mae'r campau hyn wedi creu enillwyr gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Cymru.

Ond mae'n anodd dod o hyd i unrhyw un a all gyfateb i effaith gyson Gatland yn ystod y degawd diwethaf, a'i ddylanwad ym mhob cwr o'r byd.

Mae'r gŵr o Seland Newydd wedi goruchwylio pedwar teitl yng ngornest y Chwe Gwlad, gan gynnwys tair Camp Lawn, tair Coron Driphlyg, lle yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd, lle yn y rownd gogynderfynol, a hefyd ennill cyfres y Llewod yn Awstralia yn 2013 a chyfres gyfartal yn Seland Newydd yn 2017.

Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi mynd â Chymru o safle swyddogol fel y 10fed tîm gorau yn y byd pan gymerodd yr awenau ddiwedd 2007, i fod yn rhif 1 am y tro cyntaf yn hanes rygbi Cymru.

Ond mae hyfforddi'n ymwneud â mwy na dim ond ennill tlysau a theitlau. Mae'n golygu datblygu athletwyr fel eu bod yn cyflawni eu potensial, wrth gystadlu ac fel pobl.

Y gwir reswm pam fydd hyfforddwyr, gweinyddwyr a chefnogwyr yn gweld colli Gatland pan fydd yn gadael ar ôl Cwpan y Byd yw am ei fod wedi cyflawni llwyddiant yn y ffordd y byddech yn gobeithio iddo gael ei gyflawni.

Hynny yw, mae'n trin ei chwaraewyr fel unigolion - pobl â gobeithion ac ofnau, teuluoedd a ffrindiau, nodweddion cymeriad ac ansicrwydd.

Gall hyfforddiant technegol, mewn unrhyw gamp, gael ei gyflwyno gan unrhyw un sy'n darllen y llawlyfr. Ond yr hyn mae Gatland yn ei wybod yw beth mae'r holl hyfforddwyr gwych erioed wedi'i wybod - darllen a deall pobl sy'n allweddol.

"Felly, beth sy'n bwysig i hyfforddwr yw gwneud i chwaraewr deimlo nad yw ei werth fel person, fel unigolyn, yn cael ei ddiffinio gan ei lwyddiant neu ei fethiant ar y cae.

Trwy weithio felly mae'r hyfforddwr yn dangos ei fod yn poeni am yr athletwr yn ogystal â'r canlyniadau.

Mae terminoleg hyfforddi fodern yn galw hyn yn ddull o weithredu sy'n rhoi lle canolog i'r athletwr - lle mae'r hyfforddwr yn gosod yr athletwr, a'i fuddiannau a'i les ef neu hi, yn gwbl ganolog ym mhopeth mae'n ei wneud bob amser.

Nid yw Gatland yn un am jargon. Mae'n well ganddo alw sgrym yn sgrym. Ond mae'n credu mewn gofalu am ei chwaraewyr ac mae'n credu bod ei berthynas bersonol â hwy'n allweddol i bopeth arall.

"Y peth anoddaf wrth hyfforddi yw sicrhau bod y berthynas yn briodol," meddai. "Rydych chi eisiau i'r chwaraewyr deimlo'n nerfus am ddewisiadau a pherfformiad, ond nid amdanyn nhw eu hunain.

"Fe ddylen nhw deimlo eu bod nhw wedi gwneud popeth maen nhw'n gallu i fod yn llwyddiannus a'ch bod chi fel hyfforddwr wedi eu helpu nhw i wneud hynny. Os nad ydyn nhw'n cyrraedd eu nodau, fe fyddan nhw'n gallu bod yn gyfforddus eu bod wedi mynd drwy'r prosesau cywir i gyd.”

Bydd Gatland yn enwi ei garfan derfynol o 31 o chwaraewyr ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan y bore ar ôl y gêm olaf yng Nghaerdydd. A bydd y cyhoeddiad hwnnw hyd yn oed, meddai, yn cael ei drin mewn ffordd sy'n gwneud i gael eu gwrthod deimlo ychydig yn haws ei wynebu i'r chwaraewyr.

"Dyna'r peth anoddaf bob amser i hyfforddwr - dewis a siomi chwaraewyr fydd yn colli cyfle," ychwanegodd.

"Dyna'r her. Rydyn ni wedi siarad eisoes gyda'r chwaraewyr am sut bydd carfan Cwpan y Byd yn cael ei dewis a sut maen nhw eisiau clywed. Galwad ffôn? Neges destun? E-bost? Neu WhatsApp?

"Wrth gwrs, sut bynnag byddwn ni'n rhoi gwybod iddyn nhw, bydd sgwrs yn dilyn. Rydyn ni wedi mynd drwy'r broses honno ac fe fyddan' nhw i gyd yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd a beth i'w ddisgwyl."

Er bod Gatland yn mynd, ni fydd ei ddull cynnydd cam wrth gam o hyfforddi, gyda phwyslais ar berthynas iach gyda'i athletwyr, yn diflannu gydag ef.

Mae nifer o hyfforddwyr pêl droed yng Nghymru, ar lefel clwb a rhyngwladol, wedi ceisio ei holi am hyfforddi - rhywbeth yr oedd cyn reolwr pêl droed Cymru Chris Coleman yn fwy na pharod i gydnabod a ddylanwadodd ar ei ffordd o feddwl cyn yr Ewros yn 2016.

Hefyd mae'r genhedlaeth iau o hyfforddwyr yn awyddus i bwysleisio'r angen am ddull o weithredu sy'n edrych ar y darlun ehangach o les athletwr

Mae Steve Cooper, y Cymro ifanc sy'n rheoli Dinas Abertawe - a arweiniodd Lloegr i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd D17 - yn gefnogwr arall i edrych ar y darlun mawr.

"Rydyn ni'n delio gyda phobl ifanc sydd eisiau llwyddo yn eu camp i gyd, ond nid yw'r siawns y bydd hynny'n digwydd o'u plaid," meddai Cooper.

"Felly, beth sy'n bwysig i hyfforddwr yw gwneud i chwaraewr deimlo nad yw ei werth fel person, fel unigolyn, yn cael ei ddiffinio gan ei lwyddiant neu ei fethiant ar y cae.

"Os bydd yn canolbwyntio ar hyfforddi'n galed, dysgu, gwrando, gwneud ei orau, a bod yn bositif ac yn gefnogol yng nghwmni aelodau eraill y tim, gan gadw pethau mewn persbectif, mae hynny wedyn yn cyfrannu at awyrgylch priodol.

"Os daw llwyddiant o hynny, mae'n fonws. Ond fe ddylen nhw farnu eu hunain ar sail sut maen nhw'n gwneud pethau o ddydd i ddydd - nid ar sail y canlyniad."