Skip to main content

Ymarfer yn y Flwyddyn Newydd – Awgrymiadau i helpu eich cymhelliant

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ymarfer yn y Flwyddyn Newydd – Awgrymiadau i helpu eich cymhelliant

Ydi wir, mae’n dywyll, mae eich cyllid wedi cael ergyd ac efallai eich bod chi wedi gor-wneud pethau dros y Nadolig. Ond gallai bod yn actif helpu.

Yn ôl y GIG, gall gweithgarwch corfforol helpu i “wella eich hunan-barch” ac mae’n “achosi newidiadau cemegol yn eich ymennydd a all helpu i newid eich hwyliau mewn ffordd bositif”.

Mae gan y seicolegwyr perfformiad yn Chwaraeon Cymru yr awgrymiadau syml yma i'ch helpu chi i symud.

1. Gosodwch Nod i Chi'ch Hun

Gallai fod yn unrhyw beth, tymor byr neu dymor hir, mawr neu fach, mae angen iddo fod yn rhywbeth sy'n eich cymell chi, rhywbeth rydych chi eisiau ei gyflawni, sy’n rhoi egni i chi ac yn eich gwneud yn gyffrous pan rydych yn meddwl amdano. Mae cael nod yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi ac yn helpu i gyfeirio eich egni mewn ffordd gadarnhaol. 

2. Dewiswch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau

Dylai bod yn actif fod yn hwyl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis rhywbeth sy'n rhoi gwên ar eich wyneb, rhywbeth rydych yn edrych ymlaen at gymryd rhan ynddo; efallai mai gweithgaredd gyda theulu neu ffrindiau neu amser ar eich pen eich hun rydych chi ei angen. Drwy ddewis rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau rydych chi'n fwy tebygol o ddal ati yn y tymor hir a chyflawni eich nodau.

 

3. Sefydlu trefn bositif

Mae'n flwyddyn newydd a pha amser gwell i newid y ffordd rydych chi'n gwneud pethau neu gadarnhau’r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o 2020. Meddyliwch am beth sy'n gweithio i chi, pa amser o'r dydd ydych chi’n hoffi ymarfer, a pha fath o ymarfer corff, gyda phwy, sut i'w gynnwys rhwng ymrwymiadau gwaith/bywyd, ac ati. Gall cael amseroedd ymarfer corff rydych chi’n edrych ymlaen atyn nhw a gwneud penderfyniadau bach sy'n eich helpu i gyflawni eich nodau roi hwb i'ch hyder a'ch hunan-barch. 

 

4. Gwobrwyo eich hun

Rydych chi'n gwneud yn dda ac yn gwella, yn gwneud amser i sylwi ar eich cynnydd ac yn mwynhau'r teimlad positif rydych chi’n ei gael o hyn. Ewch ati i longyfarch eich hun a dathlu eich cynnydd gyda'ch anwyliaid. Efallai y gallwch chi wobrwyo eich gwaith caled gyda phâr newydd o esgidiau ymarfer neu dechnoleg glyfar o bosib. Byddwch yn teimlo'n dda am weithio'n galed am hyn a bydd hefyd yn helpu eich trefn ymarfer corff. Pan fyddwch yn cyflawni eich nodau, dathlwch, cael seibiant haeddiannol ac atgoffa eich hun o'r hyn rydych chi wedi’i wneud yn dda a pham wnaethoch chi gyflawni eich nod.   

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy