Skip to main content

Ymgyrch newydd i ddenu cymunedau canol dinasoedd at griced

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Ymgyrch newydd i ddenu cymunedau canol dinasoedd at griced

Mae angerdd dros griced yn cael ei aildanio ymhlith cymunedau difreintiedig yng Nghaerdydd diolch i benodiad newydd cyffrous gan sefydliad Criced Cymru. 

Lai na mis i mewn i'w swydd newydd fel Swyddog Datblygu Criced Cymunedau Amrywiol, mae Mojeid Ilyas eisoes yn goresgyn rhwystrau cymryd rhan i alluogi mwy o ddynion, merched a phlant o ystod eang o gefndiroedd ethnig i syrthio mewn cariad â'r gêm. 

Mae plant yn Grangetown yn gallu mynegi eu hunain mewn sesiynau criced stryd newydd, mae sesiynau i ferched yn unig yn boblogaidd, ac mae cynghrair rhyng-ffydd nos Sul yn cael ei sefydlu ar gyfer dynion. 

Drwy ledaenu'r gair mewn cylchoedd criced a dod yn wyneb cyfarwydd yn y gymuned leol, mae Mojeid wedi denu niferoedd da i'w sesiynau newydd hyd yma, ond dim ond newydd ddechrau arni y mae.



A group of men standing on an indoor cricket pitch

 

Dywedodd: "Mewn cymunedau canol dinas yng Nghaerdydd mae awydd mawr i chwarae criced, ond yn anffodus does dim digon o ddarpariaeth hygyrch. Gan fod llawer o deuluoedd yn yr ardal yn gweithio oriau hir a llafurus, does ganddynt ddim amser o hyd i allu mynd â'u plant i ymarfer criced mewn rhannau mwy deiliog o'r ddinas. 



"Felly, rydw i’n cyflwyno criced stryd i'r plant yma i roi amgylchedd diogel a hwyliog iddyn nhw fwynhau'r holl fanteision cadarnhaol sy'n deillio o chwaraeon. 

"Oherwydd rhesymau diwylliannol a chrefyddol, nid yw llawer o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn llawer o weithgarwch corfforol, felly un o'm prif nodau yw darparu cyfleoedd mwy apelgar. Diolch byth, gyda help mawr gan Ayesha Rauf rydw i eisoes wedi llwyddo i sefydlu sesiwn i ferched yn unig ar gyfer merched 16+ oed bob wythnos yng Ngerddi Sophia, ac rydw i’n gobeithio gallu cynnal sesiynau drwy gydol y flwyddyn i ferched iau yn fuan hefyd.


"Drwy ymweld â chanolfannau crefyddol ac ymgysylltu â gwahanol gymunedau, fe welais i fod awydd am griced nos Sul ymhlith llawer o ddynion gan fod natur eu swyddi, patrymau gwaith ac ymrwymiadau eraill yn eu cyfyngu rhag chwarae mathau hirach o griced yn ystod y dydd ar benwythnosau. Bydd y gynghrair ryng-ffydd nid yn unig yn helpu mwy o bobl i allu chwarae criced ond bydd hefyd yn helpu gwahanol gymunedau i ddysgu mwy am ddiwylliannau ei gilydd." 



Ychwanegodd Mojeid: "Rydw i wedi dechrau yng Nghaerdydd ond cyn bo hir byddaf yn symud i ardaloedd canol dinas Casnewydd hefyd. Byddaf yn ceisio siarad â chymaint o bobl â phosibl i ddarganfod pa rwystrau sy'n eu hatal rhag chwarae criced. Rydw i hefyd yn awyddus iawn i recriwtio digon o wirfoddolwyr, a'u cael ar y cyrsiau hyfforddi angenrheidiol fel bod yr holl sesiynau'n dod yn gynaliadwy ac yn rhedeg eu hunain." 


Dywedodd Mark Frost, Rheolwr Cymunedol a Datblygu Criced Cymru: "Mae'n ddyddiau cynnar, ond rydyn ni’n falch iawn o'r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma gan ein bod yn credu bod cyfle gwirioneddol i gynyddu a chynnal cyfranogiad mewn criced mewn cymunedau penodol yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Drwy ddarparu cynnig criced mwy bywiog sy'n addas i anghenion unigolion, mae gennym ni fwy o siawns o gynyddu cymhelliant a gallu pobl i fabwysiadu arfer criced am oes." 



I gael gwybod mwy am gyfleoedd criced canol dinas yng Nghaerdydd, cysylltwch â Mojeid Ilyas drwy ffonio 07572 152241 neu e-bostio [javascript protected email address]

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy