30 - faint o gemau gaiff eu chwarae yn ystod y 6 diwrnod
10 - nifer yr ynysoedd a gynrychiolir yn y twrnamaint, gydag 16 o dimau
4,780 - nifer y milltiroedd a deithir gan dimau Santes Helena i gyrraedd Ynys Môn
2,700 - y munudau o bêl droed dynion a merched rhyngwladol gaiff eu chwarae yn ystod twrnamaint yr haf (ac eithrio amser ychwanegol a chiciau cosb!)
12 - nifer y caeau a ddefnyddir ar yr ynys
16 - oedran y chwaraewr ieuengaf ar draws y sgwadiau. 16 oed yw Catrin Evans o Ynys Môn. Mae'r asgellwraig wedi cael ei dewis fel un i'w gwylio yn y twrnamaint gan reolwr y merched, Karen Williams
64 - Nifer y capiau mae gôl-geidwad tîm merched Ynys Môn wedi'u hennill yn chwarae i dîm merched cenedlaethol Cymru
20 - Mae'n 20 mlynedd i'r haf yma ers i Ynys Môn ennill ei hunig fedal aur yn y gystadleuaeth pêl droed, wrth i dîm y dynion (yn cael ei arwain bryd hynny gan Reolwr Cynorthwyol presennol Cymru, Osian Roberts) fynd bob cam o'r ffordd yn Gotland yn 1999 ac ennill y brif wobr.
2025 - Gan obeithio adeiladu ar gynnal y Rhyng-Gemau, dyma'r flwyddyn pryd mae Cymdeithas Gemau Ynysoedd Ynys Môn yn gobeithio cynnal Gemau Rhyngwladol yr Ynysoedd. Mae'r cais yn mynd rhagddo i gynnal y digwyddiad, sy'n cael ei alw'n Gemau Olympaidd mini.
Am fwy o wybodaeth am y Rhyng-Gemau, dilynwch ar Facebook neu Twitter.
.