Yr aros hir am gystadlu – y camau nesaf i godwyr pwysau Cymru
Mae Hannah Powell ar y llwybr cywir o hyd ar gyfer cyrraedd y podiwm yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf, er gwaetha’r holl rwystrau y bydd rhaid iddi eu codi oddi ar ei llwybr.
Mae hyfforddwr codi pwysau cenedlaethol Cymru, Ray Williams, yn argyhoeddedig y gall deiliad record Prydain, Powell, fod yn rhan o’r seremoni fedalau yn Birmingham y flwyddyn nesaf, er bod rhai o'r cerrig camu at hynny wedi’u dileu.
Roedd Powell i fod yn un o’r Cymry a fyddai’n rhan o dîm Prydain Fawr oedd i fod i deithio i Moscow ym mis Ebrill ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop.
Ond gyda chyfyngiadau teithio a chystadlu’n anodd eu goresgyn, penderfynwyd anfon tîm bach o ddau neu dri o godwyr pwysau yn unig, a fydd yn defnyddio'r twrnamaint fel paratoad ar gyfer y Gemau Olympaidd sydd wedi’u gohirio yn ddiweddarach eleni.
Mae'n golygu bod rhaid i Powell – a fyddai wedi cystadlu yn y categori 48kg – edrych yn hytrach yn awr ar Bencampwriaethau Prydain ym mis Mehefin, ynghyd â Phencampwriaethau'r Gymanwlad yn Singapore yn ddiweddarach eleni er mwyn ceisio sicrhau lle yn Birmingham.
Byddai Moscow wedi bod yn gyfle i’w groesawu i ddychwelyd at gystadlu wyneb yn wyneb i unigolion fel Powell ac aelodau eraill carfan elitaidd Cymru fel Catrin Jones, Jordan Sakkas, Gareth Evans a Mike Farmer.
Yn ddiweddar maent wedi gorfod bodloni ar gystadlaethau rhithwir ar sgrin, ond mae Williams yn cefnogi'r penderfyniad i beidio â theithio i Rwsia.
"I ddechrau, ar ôl cael gwybod bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen, doedd dim llawer o amser i gael ein codwyr pwysau’n barod ar gyfer cystadlu," meddai Williams, yr athrylith codi pwysau o Fangor sydd wedi bod tu ôl i lwyddiant codi pwysau Cymru ers cyhyd.
"Ond yn fwy na hynny, roedd problemau gyda chael fisa ar gyfer Rwsia, problemau gyda lliniaru risg o ran cyfyngiadau Covid a phrotocolau newydd eraill, fel ei bod yn dasg rhy feichus i anfon tîm mewn gwirionedd."
Profiad yr Arfordir Aur
Mae Powell wedi dod i arfer â heriau ar ôl blwyddyn neu ddwy o anafiadau a rhoi ei phenelin o’i lle yn 2017.
Aeth y ferch 28 oed i Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur yn 2018 – lle enillodd ei phartner Evans fedal aur gyntaf Cymru yn y Gemau – ond roedd yno i gael profiad yn fwy na dim, gan fod anaf wedi ei hatal rhag cystadlu o ddifrif am unrhyw fedal.
Gorffennodd yn 10fed, ond heb siawns i herio enillwyr y medalau. Y tro yma, meddai Williams, gallai pethau fod yn wahanol iawn yn y ddinas lle cafodd Powell ei magu a'i chyflwyno i godi pwysau.
Ychwanegodd: "Fe gafodd Hannah flwyddyn erchyll yn 2017 pan dorrodd ei phenelin. Fe aethon ni â hi allan i'r Arfordir Aur i wneud yn siŵr ei bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth aml-ddigwyddiad – fel ei bod yn gallu cael blas ar yr awyrgylch.
"Y tro yma bydd hi'n mynd fel potensial go iawn i ennill medal. Does ganddi ddim gobaith yn erbyn y codwyr pwysau o India, oherwydd mae'r Indiaid mewn cynghrair wahanol am wahanol resymau, ond gallai Hannah yn sicr ennill medal arian neu efydd.
"Os bydd pethau’n mynd o'i phlaid, mae hi'n abl iawn i gyrraedd y podiwm yno.
"I fod ar eich gorau fel codwr pwysau, mae'n rhaid i chi aros nes bod yn eich 20au hwyr. Felly, mae popeth yn dangos ei bod yn cyrraedd y llwyfan lle bydd yn codi ei phwysau gorau hyd yma pan fydd yn cyrraedd Birmingham.
"Mae hi mewn lle da. Bydd yn gwneud gorau personol o ryw saith cilo y tro nesaf y bydd yn codi. Yn fy marn i, fe fydd hi tua 170kg yng Ngemau'r Gymanwlad. Y tro diwethaf, enillodd 155kg yr efydd, felly mae hi ymhell ar hyd y llwybr hwnnw, ond fe all anafiadau fod yn broblem bob amser."
Mae Tîm Cymru eisiau llwyddiant yn Birmingham 2022
Mae Williams yn credu y bydd Tîm Cymru yn mynd â sgwad codi pwysau llai i Birmingham yn 2022 nag a aeth i Awstralia dair blynedd yn ôl, ond mae'n argyhoeddedig bod pob cyfle y gallant fod yn gyfartal neu ragori hyd yn oed ar yr aur a enillwyd gan Evans a’r efydd a ddyfarnwyd i Laura Hughes.
Mae Powell a Jones yn debygol o fod yn herio am fedalau, ym marn Williams, a gall eraill fod â siawns hefyd, gan gynnwys Evans, er y bydd y pencampwr 69kg sy’n amddiffyn ei deitl yn 36 oed erbyn i'r Gemau gael eu cynnal.
"Mae Gareth yn siapio ac yn fedrus. Fe fyddwn i’n synnu os na fydd o yno.
"Gyda’i gilydd, fe fynegodd tua 36 o godwyr pwysau ddiddordeb ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Mae hynny'n gyffrous i wlad fechan gan fod llawer ohonyn nhw’n ifanc.
"Bydd ganddyn nhw Bencampwriaethau Prydain, pencampwriaethau'r Gymanwlad a phencampwriaethau Prydain y flwyddyn nesaf, a fydd yn cael eu symud ymlaen i fis Chwefror, fel y cyfleoedd cymhwyso olaf.
"Rydyn ni wedi ennill medal ym mhob un o’r Gemau ers 1954, heblaw am 1958, felly mae traddodiad balch i'w gynnal. Enillodd Gareth y fedal aur gyntaf ar yr Arfordir Aur ac fe roddodd hynny gychwyn i bethau.
"Rydw i'n credu y gallwn ni ennill dwy fedal – ar ddiwrnod da, tair efallai - yn Birmingham.
"Wrth osod Cymru yn erbyn Lloegr, Awstralia, Canada, fel cenedl fechan, rydyn ni’n gwneud yn arbennig o dda."
Newyddion Diweddaraf
‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd
Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…
Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd
Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…
Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu
Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…