Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cefnogaeth i Athletwyr
  3. Iechyd a Pherfformiad Athletwyr Benywaidd

Iechyd a Pherfformiad Athletwyr Benywaidd

Yn Chwaraeon Cymru rydyn ni eisiau sicrhau bod merched yn gallu cyrraedd eu potensial llawn yn y byd chwaraeon, heb i iechyd merched fod yn rhwystr. 

Rydyn ni wedi dod â’r holl ymchwil a thystiolaeth ym maes iechyd merched at ei gilydd i ddarparu strategaethau a dulliau cymorth ar gyfer llywio corff benywaidd drwy chwaraeon ac ymarfer corff. Rydyn ni eisiau rhoi sylw i bopeth, o reoli symptomau drwy gydol cylch y mislif hyd at ymarfer corff yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. 

 

Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r tudalennau hyn gyda'r dystiolaeth, y cyngor a'r adnoddau diweddaraf.