Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Cefnogaeth i Athletwyr
  3. Iechyd a Pherfformiad Athletwyr Benywaidd
  4. Beichiogrwydd, chwaraeon ac ymarfer corff: Canllaw i ferched actif

Beichiogrwydd, chwaraeon ac ymarfer corff: Canllaw i ferched actif

I unrhyw fenyw sy'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd cyn beichiogrwydd, o redwyr hamdden a mynychwyr campfa i athletwyr elitaidd ac athletwyr benywaidd proffesiynol.

Canllawiau cyffredinol gan Katy Guy, Meddyg Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru. Ni ddylid eu defnyddio yn lle cyngor meddygol. Ymgynghorwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol bob amser cyn newid eich hyfforddiant.

Beth sydd angen i chi ei wybod

  • Gallwch, fe allwch chi barhau i hyfforddi os yw eich beichiogrwydd chi heb gymhlethdodau.
  • Cael sgyrsiau gyda hyfforddwyr neu dîm cefnogi perfformiad
  • Addasu eich hyfforddiant, gan gynnwys dwysedd a hyd.
  • Gwrando ar eich corff.

Manteision ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd

Gall chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd fod yn ddiogel (yn y rhan fwyaf o achosion.)

Dyma rai manteision i hyfforddi yn ystod beichiogrwydd:

  • Yn lleihau'r risg o bwysedd gwaed uchel a diabetes yn ystod beichiogrwydd.
  • Yn helpu i reoli ennill pwysau iach.
  • Yn gwella iechyd meddwl a chwsg.
  • Yn cefnogi adferiad ôl-enedigol cyflymach.

Oeddech chi'n gwybod? Mae lleihau eich hyfforddiant fwy na 50% yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd yn dyblu eich risg bron o anaf ôl-enedigol!

Cyn i chi feichiogi

Ydych chi'n athletwr sy'n cynllunio beichiogrwydd? Mae'n bwysig cynllunio'n gynnar lle bo modd.

Dyma rai pethau i'w gwneud i'ch cefnogi chi:

  • Siaradwch â'ch hyfforddwr, eich meddyg, neu’r tîm cefnogi.
  • Gofynnwch am gyngor meddygol gan arbenigwr meddygaeth chwaraeon neu iechyd merched.
  • Gwiriwch gontractau neu gytundebau nawdd ar gyfer polisïau beichiogrwydd / mamolaeth.
  • Mynd i'r afael â ffactorau a all effeithio ar ffrwythlondeb (e.e., RED-S, pwysau corff isel, maeth cyfyngedig, lefel uchel o straen, teithio rhyngwladol).
  • Dechreuwch gymryd asid ffolig cyn beichiogi ac am 12 wythnos cyntaf y beichiogrwydd

Nodyn: Dylai athletwyr brynu asid ffolig sydd wedi'i brofi mewn swp gan Informed Sport

Adnodd: Y GIG – Trïo am fabi

Ymarfer tra rydych chi’n feichiog 

Allwch chi ddal ati i hyfforddi tra rydych chi’n feichiog? – Gallwch, os nad yw'r beichiogrwydd yn gymhleth, gall y rhan fwyaf o ferched barhau i wneud ymarfer corff. Mae cynnal eich lefelau gweithgarwch cyn beichiogrwydd yn lleihau'r risg o anaf ar ôl genedigaeth 24%! 

Nid yw gweithgarwch corfforol ysgafn i gymedrol yn cynyddu'r risg o gamesgor a gall ei leihau hyd yn oed.

Dyma rai pethau i'w hystyried cyn ymarfer corff tra rydych chi’n feichiog:

1. Hunansgrinio cyn ymarfer

Cwblhewch yr Holiadur Bod yn Actif ar gyfer Beichiogrwydd.

Mae'r adnodd yma’n helpu i nodi unrhyw faneri coch neu gyflyrau y dylid eu trafod gyda darparwr gofal iechyd.

2. Addasu eich hyfforddiant

Mae pob beichiogrwydd yn unigryw. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio i un fenyw yn gweithio i un arall. Mae hynny'n golygu y dylid addasu'r hyfforddiant i'ch anghenion unigol chi.

Dwysedd:

  • Cyfradd curiad y galon o 60% – 70% i'r rhan fwyaf o ferched.
  • Uchafswm cyfradd curiad y galon o 90% i athletwyr elitaidd (gyda monitro.)
  • Hyd: Llai na 60 munud y sesiwn.
  • Ymdrech: Yn gallu cynnal sgwrs (Anelu at lefel 6 ar raddfa Borg wedi'i haddasu)

Gwnewch y canlynol:

  • Hyfforddiant pwysau ysgafn i gymedrol
  • Cyfangiadau llawr y pelfis
  • Gwrando ar eich corff

Osgoi:

  • Chwaraeon cyswllt / gwrthdaro
  • Gweithgareddau risg uchel o gwympo
  • Gorboethi
  • Hyfforddiant altitiwd (oni bai eich bod wedi cynefino)
  • Dal yr anadl wrth godi pwysau trwm

Defnyddiwch y Gyfrifiannell Cyfradd Curiad y Galon Darged yma i amcangyfrif lefelau cyfradd curiad y galon diogel.

3. Pryd i stopio ymarfer a gofyn am gyngor meddygol

Dylai merched beichiog roi'r gorau i ymarfer corff ar unwaith ac ymgynghori â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os byddwch chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn:

  • Diffyg anadl difrifol
  • Poen yn y frest neu guriadau crychguriad
  • Pendro neu lewygu
  • Gwaedu yn y fagina
  • Cyfangiadau poenus
  • Poen yn yr abdomen / pelfis.

Peidiwch ag ymarfer corff os oes gennych chi’r canlynol:

  • Pwysedd gwaed uchel heb ei reoli
  • Clefyd sylweddol ar y galon neu'r ysgyfaint
  • Gwaedu parhaus o’r fagina
  • Beichiogrwydd lluosog - efeilliaid, tripledi neu fwy
  • Brych isel - Placenta pervia
  • Anaemia difrifol
  • Babi sy'n llai na'r disgwyl - Cyfyngiad twf mewngroth (IUGR)
  • Gwendid serfigol / cerclage
  • Pwysedd gwaed uchel ar ôl 20 wythnos (pre-eclampsia)

Adnodd: Gweithgarwch corfforol i ferched beichiog – Prif Swyddog Meddygol y DU

Addasu eich hyfforddiant ar gyfer pob trimester

Wrth i'ch beichiogrwydd fynd yn ei flaen, dylech addasu eich hyfforddiant i gyd-fynd â'ch cyflwr.

Dyma ddadansoddiad i'ch helpu chi i wneud ymarfer corff yn ddiogel:

Trimester cyntaf:

  • Osgoi sesiynau cynnar os ydych chi'n cael trafferth gyda salwch bore
  • Hyfforddi pan fydd eich egni ar ei uchaf
  • Cysgu, gorffwys ac adfer – mae blinder eithafol yn golygu y gallai fod angen i chi fyrhau neu ohirio eich sesiwn
  • Addasu eich maeth – 90 kcal ychwanegol y dydd
  • Osgoi gorboethi drwy hyfforddi ar gyfradd curiad y galon uchaf o 60% i 70%
  • Gwisgo bra chwaraeon sy'n ffitio'n dda ac addasu ymarferion os ydych chi'n profi poen yn y bronnau
  • Disgwyl cynnydd o 10 i 15 curiad y funud yn eich cyfradd curiad y galon yn gorffwys
  • Byddwch yn agored am eich iechyd emosiynol – mae newidiadau hormonaidd yn golygu bod newidiadau mewn hwyliau yn normal

Ail drimester:

  • Cymryd gofal yn ystod symudiadau sy'n seiliedig ar gydbwysedd –gall eich 'bwmp babi' newid canolbwynt disgyrchiant eich corff
  • Disgwyl anadl byr – gall capasiti eich ysgyfaint leihau
  • Osgoi gorwedd yn fflat ar eich cefn yn ystod ymarferion ar ôl 20 wythnos
  • Bod yn ofalus wrth sefyll i fyny – mae penysgafndod yn bosibl
  • Addasu eich maeth – 290 kcal ychwanegol y dydd
  • Dechrau neu barhau â hyfforddiant llawr y pelfis – ailadrodd gydag 8 i 12 o ymarferion, dair gwaith y dydd
  • Diweddaru eich bra chwaraeon a'ch dillad chwaraeon wrth i'ch corff newid
  • Profi hwyliau gwell

Trydydd Trimester:

  • Addasu eich hyfforddiant i osgoi gorddefnydd – mae mwy o straen ar gymalau, cam llai, a mwy o daro ar y sawdl
  • Cymerwch ofal wrth ymarfer y corff gan fod y cymalau'n fwy ansefydlog oherwydd cynnydd mewn llacrwydd ligamentau.
  • Rheoli poen cefn drwy loncian neu wneud aerobics 3 gwaith yr wythnos o leiaf
  • Addasu eich maeth – 470 kcal ychwanegol y dydd
  • Rhowch gynnig ar ymarferion beichiogrwydd ac ôl-enedigol – Mae The Glow Method neu'r Mothership Physio yn cynnig ymarfer corff sy'n seiliedig ar feichiogrwydd.

Ar ôl yr enedigaeth:

Defnyddiwch adnodd hunansgrinio Holiadur Bod yn Actif ar Ôl Beichiogrwydd i'ch helpu chi i asesu pryd rydych chi'n barod i ddychwelyd i ymarfer corff / hyfforddiant

  • Gwrandewch ar eich corff a symud ymlaen ar eich cyflymder eich hun - mae pawb yn adfer yn wahanol.
  • Peidiwch â chymharu'ch hun â straeon ar y cyfryngau am "famau gwych" - nid nhw yw'r norm.
  • Dim rhedeg cyn 3 wythnos ar ôl genedigaeth - mae rhedeg yn ddiogel fel arfer o 12 wythnos ymlaen
  • Gwnewch ymarferion llawr y pelfis i gryfhau a lleihau problemau ar ôl beichiogrwydd
  • Siaradwch â'ch rhwydwaith cefnogi am eich iechyd meddwl
  • Cofiwch gael caniatâd meddyg teulu bob amser, yn enwedig os ydych chi'n profi cymhlethdodau

Camau dychwelyd i hyfforddiant:

  1. Dychwelyd i gyfranogiad – adsefydlu ysgafn neu hyfforddi ar lefel is nag o'r blaen.
  2. Dychwelyd i chwaraeon – yn ôl yn eich camp, ond nid ar y lefel cyn-beichiogrwydd eto.
  3. Dychwelyd i berfformio – hyfforddi a chystadlu ar neu uwchlaw'r lefel cyn-beichiogrwydd.

Os ydych chi'n bwydo ar y fron:

  • Cofiwch fwydo eich babi neu odro’r llaeth cyn ymarfer i fod yn gyfforddus.
  • Gwisgwch fra chwaraeon da sydd wedi'i gynllunio ar gyfer bronnau sy'n llaetha (e.e.PeBe Active).
  • Bwytewch ac yfwch ddigon i adfer yn dda a chefnogi cynhyrchu llaeth
  • +500 – 600 kcal y dydd
  • + 25g o brotein y dydd
  • +900ml o hylifau y dydd

Nid yw bwydo ar y fron yn cynyddu'r risg o anaf yn ystod ymarfer corff.

Adnoddau:
Y GIG – Y Corff Ar Ôl Beichiogrwydd

Colli babi yn ystod beichiogrwydd a chamesgor

  • Nid yw gweithgarwch corfforol ysgafn i gymedrol yn cynyddu'r risg o gamesgor
  • Athletwyr elitaidd: Tystiolaeth gyfyngedig am hyfforddiant dwys yn ystod y trimester cyntaf – gofynnwch am gyngor arbenigol.

Os byddwch chi'n camesgor:

  • Cymerwch amser i wella'n gorfforol ac yn emosiynol.
  • Ewch yn ôl i hyfforddi yn araf, dim ond pan fyddwch chi'n teimlo'n barod
  • Gofynnwch am gefnogaeth gan ffrindiau, teulu, cyd-chwaraewyr neu hyfforddwyr

Adnoddau