Beth yw delwedd y corff?
Delwedd y corff yw sut rydych chi'n meddwl ac yn teimlo am eich corff - nid dim ond sut mae'n edrych. Yn aml caiff ei ystyried fel rhywbeth negyddol ond mae'n normal cael y teimladau hyn. Gall sut rydych chi'n teimlo am eich corff newid bob dydd, yn enwedig gyda phwysau oherwydd y canlynol:
- Newidiadau mewn hwyliau neu hyder
- Ffilteri a chymharu ar gyfryngau cymdeithasol
- Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau perfformiad
A dydych chi ddim ar eich pen eich hun…
- Mae 74% o athletwyr wedi teimlo eu bod nhw "ddim yn edrych fel athletwyr".
- Mae 43% yn dweud bod delwedd eu corff wedi gwneud iddyn nhw fwynhau hyfforddi llai. (Ffynhonnell: Adroddiad Iechyd Athletwyr Benywaidd, 2023)
Ar gyfer athletwyr: canolbwyntiwch ar yr hyn y gall eich corff ei wneud
Yn lle meddwl am sut mae eich corff yn edrych, gofynnwch i chi'ch hun:
- Beth mae fy nghorff i’n caniatáu i mi ei wneud?
- Sut rydw i wedi gwella? Ydw i'n gryfach, yn gyflymach, yn fwy medrus?
- Sut mae'r rhan yma o'r corff yn fy helpu i berfformio? (E.e. “A fyddwn i mor ffrwydrol heb gluniau cryf? Sut mae fy mreichiau i'n rhoi cryfder, rheolaeth, neu fanwl gywirdeb i mi?”)
- A fyddwn i'n cyfnewid perfformiad am yr hyn sy’n cael ei alw’n edrychiad 'delfrydol'?
Yn aml, y rhan o'ch corff chi rydych chi'n ei hoffi leiaf yw'r rhan sy'n pweru eich camp a'ch iechyd fwyaf. Cofiwch fod gwahanol fathau a siapiau corff yn gryfder mewn gwahanol chwaraeon.
Cyfryngau cymdeithasol a delwedd y corff
Mae algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn gweithio drwy ddangos mwy i chi o'r hyn rydych chi'n ymgysylltu ag ef. Os ydych chi'n ymgysylltu â chynnwys sy'n canolbwyntio ar y ffordd rydych chi'n edrych, fe fyddwch chi'n cael gweld mwy o'r cynnwys yma.
Rhowch gynnig ar hyn: Agorwch eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol. Edrychwch ar beth sydd yn y 10 post uchaf.
Cyngor doeth: Dechreuwch ddilyn cyfrifon sy'n sôn am berfformiad, iechyd, angerdd, neu gyrff real. Fe fyddwch chi'n dechrau gweld mwy o bethau sy’n gwella eich hwyliau chi.
Gwyliwch y Rîl yma ar Instagram: Chwaraewraig rygbi Lloegr, Sarah Bern, yn dathlu ei chorff cryf.
Cofiwch:
- Mae algorithmau’n dangos mwy i chi o'r hyn rydych chi'n ymgysylltu ag ef.
- Dilyn cyfrifon sy'n canolbwyntio ar sut mae pobl yn edrych? Fe welwch chi fwy o hynny.
- Yn aml, mae postiadau 'Beth rydw i'n ei fwyta mewn diwrnod' yn brin o gyd-destun, dydyn nhw ddim yn ystyried anghenion unigol a gallant greu cymariaethau niweidiol.
Ar gyfer Hyfforddwyr: Canolbwyntiwch ar berfformiad, nid siâp y corff
Mae newidiadau mewn pwysau a siâp y corff yn naturiol – maen nhw’n digwydd bob dydd a thrwy gydol ein hoes ni. Mae'n amrywio bob dydd oherwydd pwysau dŵr, ymarfer corff, arferion toiled a deiet. Mae siâp a phwysau corff athletwyr yn newid drwy gydol eu hoes oherwydd tyfiant, datblygiad ac addasiadau hyfforddi.
Beth all helpu?
- Defnyddio metrigau perfformiad gwrthrychol, nid rhagdybiaethau sy’n seiliedig ar siâp y corff.
- Cydnabod amrywiadau mewn pwysau a siâp naturiol - mae'r rhain yn normal, yn enwedig yn ystod tyfiant, hyfforddiant a datblygiad.
- Teilwra nodau cyfansoddiad y corff yn unigol. Osgoi cymariaethau rhwng athletwyr.
- Osgoi sylwadau sy'n pwysleisio pwysau a / neu gyfyngu ar fwyta.
- Canolbwyntio ar sylwadau cefnogol am iechyd, egni a chydbwysedd.
Cwestiwn allweddol:
Ydyn ni’n canolbwyntio ar yr hyn y mae corff yr athletwr yn ei wneud, neu ddim ond sut mae'n edrych?
Ac yn olaf
Mae eich corff chi’n llawer mwy na sut mae'n edrych. Mae'n un o'r pethau lleiaf diddorol amdanoch chi.
Does dim rhaid i ddelwedd y corff reoli eich meddyliau chi. Gofynnwch i chi'ch hun:
- Ydi delwedd y corff yn cymryd mwy o le yn eich meddwl chi nag y dylai?
- Beth allai newid pe baech chi’n canolbwyntio ar allu yn hytrach nag ymddangosiad?
- Sut byddech chi'n elwa - yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol - drwy werthfawrogi eich corff am yr hyn mae'n caniatáu i chi ei wneud?
Adnoddau Defnyddiol
Dilyn Cyfrifon Dibynadwy:
Maeth a Pherfformiad
Delwedd Gadarnhaol o’r Corff