Main Content CTA Title

Cefnogi merched actif drwy’r menopos

Ar gyfer hyfforddwyr, athletwyr cystadleuol, a merched actif

Nid ddylai'r wybodaeth yma gymryd lle cyngor meddygol. Siaradwch bob amser â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gwneud newidiadau i’ch hyfforddiant

Cadw’n actif drwy'r menopos

Nid yw'r menopos yn golygu bod angen i chi arafu neu roi'r gorau i wneud chwaraeon. Mae llawer o ferched yn parhau i hyfforddi, cystadlu a mwynhau bod yn actif drwy gydol y cyfnod yma mewn bywyd.

Fodd bynnag, gall newidiadau hormonal effeithio ar y canlynol:

  • Lefelau egni
  • Adferiad
  • Cryfder
  • Hwyliau a chymhelliant

Gall deall beth sy'n digwydd yn eich corff eich helpu chi i wneud y canlynol:

  • Hyfforddi'n ddoethach
  • Lleihau'r risg o anafiadau
  • Diogelu eich iechyd yn yr hirdymor
  • Cadw’n actif ac yn hyderus
  • Cefnogi merched eraill yn well (fel hyfforddwr, cyd-aelod o dîm neu arweinydd)

Gyda'r dull cywir o weithio, gall gweithgarwch corfforol gefnogi perfformiad a lles.

Pam mae gweithgarwch yn bwysig yn ystod y menopos

Mae estrogen yn chwarae rhan bwysig mewn cryfder y cyhyrau, iechyd y cymalau ac adferiad. Wrth i’w lefelau newid, gall hyfforddi deimlo'n anoddach. Ond gweithgarwch rheolaidd yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi iechyd hirdymor yn ystod y menopos.

Manteision i Ferched Actif

  • Cyhyrau ac esgyrn cryfach
  • Gwell hwyliau a chwsg
  • Risg is o glefyd y galon ac osteoporosis
  • Mwy o egni a hyder
  • Cefnogaeth ar gyfer pwysau a metaboledd iach

Cyngor Hyfforddi

Dewiswch ddull o symud rydych chi'n ei fwynhau. Mae cysondeb yn well na dwysedd.

  • Gweithgareddau cynnal pwysau: cerdded, rhedeg, heicio
  • Effaith isel: cerdded pwll, aerobics dŵr, ymarferion camu i fyny
  • Hyblygrwydd a symudedd: Pilates, ioga, nofio
  • Hyfforddiant cryfder: campfa, bandiau ymwrthedd, ymarferion gartref

Mae hyfforddiant cryfder yn arbennig o bwysig i warchod màs y cyhyrau a pherfformiad.

Bwyta'n Dda yn ystod y Menopos

Mae maeth yn dod yn adnodd hyfforddi allweddol.

Mae’r maethynnau allweddol i ganolbwyntio arnyn nhw’n cynnwys y canlynol:

  • Calsiwm a Fitamin D - ar gyfer esgyrn cryf
  • Bwyta 2 i 3 dogn o fwydydd llaeth neu fwydydd sy'n llawn calsiwm
  • Cymryd atchwanegiad Fitamin D dyddiol (10µg)
  • Protein - yn cefnogi cynnal ac adfer y cyhyrau
  • Ffrwythau a Llysiau - ffibr a gwrthocsidyddion
  • Pysgod Olewog - brasterau omega-3 ar gyfer iechyd y galon a'r ymennydd
  • Cnau, Hadau a Grawn Cyflawn - magnesiwm, fitaminau B ac egni
  • Wyau a Dofednod - fitamin B6 ar gyfer cefnogaeth hormonau
  • Cig a Dofednod - sinc ar gyfer imiwnedd

Rheoli Pwysau ac Egni

Mae’r cyhyrau'n lleihau'n naturiol gydag oedran, felly efallai y bydd angen llai o galorïau ar eich corff.

Rhowch gynnig ar y canlynol:

  • Prydau ychydig yn llai
  • Cyfnewid byrbrydau siwgraidd am fwydydd sydd â lefel uchel o faethynnau a phrotein

Cwsg Gwell Drwy Faeth

Mae tua 50% o ferched yn cael anhawster gyda chwsg yn ystod y menopos. Mae’r bwydydd a allai helpu yn cynnwys y canlynol:

  • Cnau a hadau (cnau almond, pwmpen, blodyn yr haul)
  • Caws
  • Dofednod, pysgod, tofu, wyau

Mae'r bwydydd yma’n cynnwys maethynnau sy'n gysylltiedig â thawelwch a gorffwys.

Gwneud y Menopos yn Haws

1. Dysgu Am Eich Corff

Mae deall beth sy'n digwydd yn eich helpu chi i addasu hyfforddiant heb euogrwydd na rhwystredigaeth. Gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth: Cymdeithas Menopos Prydain.

2. Siarad a Chael Cefnogaeth

  • Siaradwch â'ch Meddyg Teulu am symptomau ac opsiynau triniaeth (gan gynnwys HRT).
  • Sgwrsiwch gyda chyd-chwaraewyr, ffrindiau, neu deulu
  • Cadwch ddyddiadur symptomau syml i nodi patrymau sy'n effeithio ar hyfforddiant neu gystadlaethau.

3. Mae Hunanofal yn Adnodd Perfformiad

  • Mae gorffwys yn rhan o hyfforddiant — mae dweud "na" pan rydych chi'n flinedig yn ddoeth, nid yn hunanol.
  • Ewch allan bob dydd os gallwch chi.
  • Rhowch gynnig ar ymarferion anadlu, ymlacio, neu ymwybyddiaeth ofalgar i helpu gyda chwsg ac adferiad.
  • Gall opsiynau ategol fel aciwbigo neu atblygoleg helpu rhai merched hefyd.

Cefnogaeth Ychwanegol

  • Siaradwch â'ch Meddyg Teulu am Therapi Ailgyflenwi Hormonau (HRT).
  • Ffisiotherapi ar gyfer poen yn y cymalau neu'r meinweoedd meddal
  • Ffisiotherapi iechyd y pelfis ar gyfer cefnogaeth i'r bledren neu lawr y pelfis

Adnoddau Defnyddiol

Darllen pellach

  • Menopausing — Davina McCall
  • The Definitive Guide to Perimenopause and Menopause — Dr Louise Newson

Pryd fydd y menopos yn digwydd?

Yr oedran cyfartalog ar gyfer hyn yw 51 oed, ond mae'r symptomau'n cael eu dosbarthu fel y menopos pan nad oes mislif wedi bod ers 12 mis.

Mae’r perimenopos yn cael ei ystyried fel y cyfnod sy'n arwain at y menopos gyda'r unigolyn cyffredin yn profi’r cyfnod yma yn 47 oed. Fodd bynnag, gall ddechrau hyd at 10 mlynedd cyn hyn pan fydd yr hormonau'n amrywio, a phan mae rhai symptomau sy'n gysylltiedig â’r menopos wedi dechrau.

Sut i ymdopi â'r menopos?

Mae’r menopos wedi cael ei drafod yn helaeth yn ddiweddar gyda llawer o gysylltiadau negyddol yn ymwneud â’r symptomau. Fodd bynnag, mae posib edrych arno hefyd fel cyfnod cadarnhaol mewn bywyd pan fydd canol oed newydd yn dechrau.

Mae bod yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau a all ddigwydd gyda’r peri menopos a’r menopos yn gallu golygu bod posib rhoi mecanweithiau ymdopi ar waith i helpu a chael buddion iechyd yn y dyfodol.

Gall ymarfer corff, hyfforddiant cryfder yn benodol, gael effaith gadarnhaol ar les drwy gydol y blynyddoedd hyn a hefyd cefnogi cynnal iechyd y cyhyrau a’r esgyrn ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Drwy gynyddu gwybodaeth, gallwch reoli eich symptomau eich hun, neu gefnogi eraill gyda'u symptomau nhw, a sicrhau bywyd hapus ac iach yn ystod pob cam o'r menopos.