Main Content CTA Title

Diffyg egni cymharol mewn chwaraeon (REDs)

Diffyg egni cymharol mewn chwaraeon (REDS) yw'r term sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer casgliad o symptomau sy’n cael eu hachosi gan ddiffyg egni. Pan fydd unigolion yn methu â chael digon o faeth ar gyfer yr ymarfer corff maen nhw'n ei wneud, mae'r corff yn dechrau cau systemau "anhanfodol" y corff i lawr, i gadw egni.

Mae hwn yn ddull o weithredu y mae'r corff dynol wedi'i ddatblygu dros filoedd o flynyddoedd, dull a fyddai wedi caniatáu i fodau dynol oroesi drwy gyfnodau o argaeledd bwyd cyfyngedig yn flaenorol.

Pam mae gen i symptomau RED-S?

Mae Diffyg Egni Cymharol mewn Chwaraeon (RED-S) yn digwydd pan nad yw eich corff chi’n cael digon o egni i fodloni gofynion hyfforddiant a bywyd bob dydd.

Gall RED-S ddeillio o:

  • Diffyg tanwydd anfwriadol: Peidio â bwyta digon oherwydd eich bod yn tanamcangyfrif faint o egni sydd ei angen ar eich corff.
  • Diffyg tanwydd bwriadol: Torri'n ôl ar fwyd am resymau perfformiad, ymddangosiad, neu yn gysylltiedig â phwysau.

Yn aml, mae'n gymysgedd o'r ddau. Efallai eich bod chi'n dechrau bwyta llai i wella perfformiad, ond wedyn yn ei chael yn anodd dychwelyd i fwyta arferol - hyd yn oed pan rydych chi eisiau gwneud hynny.

Gall ymarfer corff leihau arwyddion o fod eisiau bwyd hefyd, gan ei gwneud yn anoddach bwyta pan fydd eich corff angen tanwydd fwyaf.

Beth yw symptomau RED-S? 

Mae symptomau REDS yn eithriadol amrywiol oherwydd gall y corff gau sawl system wahanol i lawr yn dibynnu ar ddifrifoldeb y diffyg egni. 

Dyma’r symptomau cyffredin:

  • gorflinder, diffyg canolbwyntio a niwl ymenyddol
  • dolur parhaus yn y cyhyrau ac adferiad gwael
  • eisiau bwyd yn ystod y nos
  • sefydlogi pwysau neu ei chael yn anodd newid cyfansoddiad y corff er gwaethaf bwyta llai
  • anallu i gysgu neu ddeffro sawl gwaith yn ystod y nos
  • iwrin yn gollwng neu ysfa sydyn i basio iwrin
  • colli libido
  • colli cylch y mislif
  • hwyliau isel cyson, teimlo’n isel neu'n bryderus
  • newidiadau i iechyd y perfedd, gan gynnwys gwynt, chwyddo, rhwymedd, dolur rhydd a chrampiau
  • anafiadau a / neu salwch cyson.

Dyma restr gyflawn o systemau’r corff sy’n cael eu heffeithio gan REDs.

Rydyn ni'n gwybod bod tua 48% o athletwyr yn debygol o gael anhawster gyda symptomau REDS, er bod rhywfaint o'r ymchwil yn awgrymu y gallai hyn fod yn llawer uwch. Rydyn ni'n gwybod nawr fod y symptomau yma’n bresennol mewn athletwyr gwrywaidd hefyd.

Os ydych chi’n poeni am unrhyw symptomau rydych chi’n eu cael, ewch i wefan Project REDs i gael gwybod mwy a chael mynediad at y gefnogaeth a'r adnoddau priodol i chi. 

Gwyliwch y fideo yma i ddysgu am sut effeithiodd REDs ar y rhedwr 1500m rhyngwladol, Bobby Clay.

Deall eich symptomau

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, ystyriwch siarad â meddyg teulu. Gallwch ddefnyddio ein llythyr RED-S i feddyg teulu i helpu i ddechrau'r sgwrs honno.

Os nad ydych chi'n barod am gymorth meddygol eto:

Mae symptomau RED-S yn deillio o ddiffyg tanwydd. Felly, er mwyn teimlo'n well, mae'n bwysig edrych ar eich patrymau bwyta a faint o egni sy'n mynd i mewn i’ch corff chi.       

Ceisiwch gynyddu eich cymeriant egni dros y 6 mis nesaf. Gall hyn helpu i adfer cylch y mislif (os yw'n berthnasol) a lleihau symptomau eraill.

I adfer yn llawn - ac atal RED-S rhag dychwelyd - ceisiwch ddeall pam nad ydych chi’n bwyta digon o danwydd. 

Gall siarad â rhywun (fel hyfforddwr, meddyg, ffrind neu faethegydd) helpu. Efallai y bydd yn teimlo'n anodd, ond mae'n rhoi lle i chi weithio drwy bethau a chael y gefnogaeth sydd arnoch ei hangen.

Cyngor defnyddiol

Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i atal effeithiau iechyd hirdymor REDS fel dwysedd esgyrn is, anafiadau difrifol, neu iechyd meddwl gwael.

Er mwyn atal symptomau rhag digwydd neu waethygu, mae athletwyr yn cael eu hannog i ganolbwyntio ar eu cymeriant egni cyffredinol i sicrhau eu bod yn cael digon. Nid dim ond bwyta mwy sy’n datrys RED-S - mae'n ymwneud â bwyta'n ddoeth. Yn fwy penodol, rydyn ni bellach yn gwybod bod rhaid i athletwyr sicrhau eu bod yn cael digon o garbohydradau cyn, yn ystod ac ar ôl unrhyw ymarfer corff maent yn cymryd rhan ynddo i wneud iawn am y swm sydd ei angen. Dyma dri pheth allweddol: 

  • Mae amseru a mathau o fwyd (yn enwedig carbohydradau) yn bwysig.
  • Anelu at gael tanwydd cyn, yn ystod ac ar ôl hyfforddi.
  • Hyfforddi bob amser mewn cyflwr o danwydd digonol wrth adfer.

Tanwydd cyn ac yn ystod ymarfer corff

Cofiwch gynnwys carbohydradau gyda'r tri phryd bwyd, yn enwedig y pryd cyn i chi ymarfer. Bwydydd fel pasta, reis, tatws, bara, nwdls, grawnfwydydd, cwscws, ceirch....

Ychwanegwch fyrbryd carbohydrad 1 i 2 awr cyn unrhyw ymarfer corff. Ymhlith y dewisiadau da mae banana, sleisen o dost, craceri, bar grawnfwyd, pretzels, fflapjac.

Bydd byrbrydau neu ddiodydd carbohydrad rhwng gemau neu yn ystod cyfnodau hir o ymarfer corff yn cynnal eich cronfeydd egni. Pethau fel sudd ffrwythau, melysion jeli, banana, torth frag, bar grawnfwyd.

Tanwydd ar ôl ymarfer corff

Os oes gennych chi fwy nag awr cyn eich pryd nesaf, dewch â rhai byrbrydau i'ch helpu i adfer. Bydd llaeth siocled, babybel a chraceri, neu lond llaw o ffrwythau a chnau cymysg, yn rhoi hwb egni a phrotein i chi ar ôl ymarfer corff.

Bydd y protein, y carbohydradau a’r llysiau yn eich pryd cyntaf ar ôl ymarfer corff yn eich helpu chi i gael egni yn ôl, yn atgyweirio eich cyhyrau ac yn paratoi eich corff ar gyfer y diwrnod nesaf.

Gall llaeth cyn mynd i'r gwely gefnogi cwsg a'ch helpu chi i adfer o unrhyw ymarfer corff rydych chi wedi'i wneud y diwrnod hwnnw. Gall siocled poeth fod yn ffordd wych o orffen y diwrnod!

Pryderon ynghylch pwysau'r corff a delwedd

Ydych chi'n ceisio newid eich pwysau neu siâp eich corff? Gallai hynny fod wedi arwain at ddiffyg tanwydd.

Os yw cynyddu faint o fwyd rydych chi'n ei fwyta yn teimlo'n frawychus neu'n anghyfforddus, siaradwch am hyn gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. 

Mae llawer o wybodaeth anghywir ar gael, yn enwedig ar-lein. Ewch i'n gwefan ni i ddysgu mwy am ddelwedd y corff.