Skip to main content
  1. Hafan
  2. Telerau gwasanaeth

Telerau gwasanaeth

Telerau gwasanaeth 

Er mwyn i chi gael mynediad at yr adnoddau hyfforddi a'r sesiynau drwy CLIP ar-lein, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i'n defnyddwyr gytuno i'n telerau gwasanaeth.

Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn deall sut rydym yn defnyddio eich data a sut dylech ryngweithio â'r platfform. 

Sut Rydym Yn Defnyddio Eich Data

Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein CLIP rydych chi'n cytuno i’r canlynol:

  • Chwaraeon Cymru yn casglu ac yn prosesu'r data personol rydych yn eu darparu wrth gofrestru er mwyn darparu mynediad i'r gwasanaeth ac i sicrhau'r gwasanaeth gorau posib i'w ddefnyddwyr. Rydym yn gwneud hyn o dan yr amod cyfreithiol o ddarparu gwasanaeth. 

  • Chwaraeon Cymru yn cael mynediad at ac yn prosesu’r data personol rydych yn eu darparu ar Eventbrite a PayPal er mwyn cynnal digwyddiadau a rheoli aelodaeth. Rydym yn gwneud hyn o dan yr amod cyfreithiol o ddarparu gwasanaeth, ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
  • Eich bod dros 16 mlwydd oed.

Dim ond at ddibenion gweithredu Rhaglen CLIP y defnyddir gwybodaeth a rennir gyda Chwaraeon Cymru sy'n ymwneud â'ch aelodaeth CLIP. 

Gallwch gael gwybod mwy am sut mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol drwy edrych ar ein Polisi Preifatrwydd https://www.sport.wales/privacy/

Os hoffech chi drafod sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ymhellach, anfonwch e-bost i dpo@sport.wales

Pa wybodaeth rydym yn ei defnyddio?

Bydd Chwaraeon Cymru yn defnyddio’r canlynol:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Enw eich sefydliad neu'ch corff chwaraeon
  • Gwybodaeth dechnegol am eich dyfais, gan gynnwys cyfeiriad IP a gwybodaeth a gasglwyd gan Gwcis. 

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Er mwyn ein galluogi i weithredu CLIP, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda Grandad Digital, ein darparwr gwasanaeth gwe. Ac, os byddwch yn cofrestru ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau neu danysgrifiadau, efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu gydag Eventbrite, ein partner tocynnau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae ein partneriaid yn defnyddio eich gwybodaeth isod:

Grandad Digital https://grandadlondon.com/privacy-policy/

Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/support/articles/en_US/Troubleshooting/eventbrite-privacy-policy?lg=en_GB}

Am faint fyddwch yn cadw fy nata?       

Bydd data a gesglir ar gyfer eich aelodaeth o CLIP yn cael eu cadw gan Chwaraeon Cymru yn ystod oes y rhaglen. 

Beth yw fy Hawliau? 

Mae gennych hawl i gael diweddaru/cywiro eich gwybodaeth, derbyn cofnod o'ch gwybodaeth, a'r hawl i gael dileu'r holl wybodaeth yn barhaol, oni bai fod gan Chwaraeon Cymru hawl gyfreithiol i gadw cofnod i fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol (fel cofnodion talu). 

Gallwch gysylltu â communications@sport.wales ar unrhyw adeg i ofyn am i’ch cyfrif a’i ddata cysylltiedig gael eu dileu.             

Defnyddio o blatfformau trydydd parti

Eventbrite

Mae angen archebu lle yn rhai o sesiynau CLIP drwy Eventbrite. 



Wrth ddefnyddio Eventbrite, eich cyfrifoldeb chi yw cydsynio i'r holl delerau gwasanaeth a pholisïau preifatrwydd sy’n ofynnol i ddefnyddio Eventbrite, a chydymffurfio â hwy. Nid yw Chwaraeon Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddefnydd Eventbrite o’ch data personol, nac unrhyw gamymddwyn ar y platfform gan ddefnyddiwr CLIP.

Rhyngweithio â chynnwys CLIP 

Bydd cofrestru ar gyfer cyfrif CLIP yn rhoi mynediad i chi at gynnwys sydd ar gael i aelodau CLIP yn unig. Mae cyfyngu cynnwys i ddefnyddwyr â chyfrif yn ein helpu ni i barhau i weithredu’r rhaglen a sicrhau’r rhaglen orau bosib ar gyfer ein defnyddwyr. 

Ni ddylech rannu cynnwys CLIP ag eraill drwy gysylltu â fideos neu drwy gopïo a gludo deunydd ysgrifenedig. 

Drwy gofrestru ar gyfer cyfrif a defnyddio adnoddau, rydych chi’n gwneud y canlynol: 

Derbyn telerau defnydd y platfform hwn

Rhoi caniatâd ar gyfer defnyddio fy ngwybodaeth bersonol at y dibenion a nodir uchod