Skip to main content

CRONFA GWEITHWYR LLAWRYDD CHWARAEON - CWESTIYNAU CYFFREDIN

  1. Hafan
  2. Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon
  3. CRONFA GWEITHWYR LLAWRYDD CHWARAEON - CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth yw Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon?

Bydd Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yn cynnig cyfraniad ariannol ac achubiaeth y mae ei gwir angen i'r darparwyr preifat a masnachol hynny sy'n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn uniongyrchol yng Nghymru, er budd y cyhoedd yng Nghymru. 

Mae'r gronfa, sef y diweddaraf mewn cyfres o opsiynau cefnogi gan Chwaraeon Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, yn ceisio sicrhau bod y llu o fusnesau preifat hyfyw, sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gadw pobl yn actif ledled Cymru, yn gallu dod allan o bandemig y coronafeirws i barhau i ddarparu'r cyfleoedd hyn. 

Bydd busnesau'n gallu gwneud cais i’r gronfa drwy broses ymgeisio fer ar wefan Chwaraeon Cymru.

 

Ar gyfer pwy mae’r gronfa?

Mae'r gronfa hon ar gyfer busnesau cyfyngedig preifat sy'n darparu gweithgareddau corfforol yn uniongyrchol, yn gweithredu ac yn cyflogi pobl yn y sector chwaraeon yng Nghymru, ac sydd wedi dioddef colledion ariannol o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Bydd angen i ymgeiswyr allu gwneud y canlynol:

  • dangos o leiaf blwyddyn o ddatganiad ariannol llawn wedi'i ardystio neu ei archwilio'n annibynnol
  • dangos eu bod yn gweithredu'n gynaliadwy cyn mis Mawrth 2020
  • dangos eu bod wedi profi colled net o £5,000 neu fwy (os yw’r trosiant yn llai na £50,000) neu golled net o £15,000 neu fwy (os yw’r trosiant yn fwy na £50,000) ers mis Ebrill 2020 o ganlyniad i'r pandemig

 

Pa fathau o weithgareddau fyddai busnesau cymwys yn eu darparu? 

Bydd y gronfa'n ceisio cefnogi'r busnesau preifat hynny sy'n cynnig darpariaeth eang o wahanol gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y canlynol:

  • canolfannau ffitrwydd a champfeydd
  • gweithredwyr croes-ffit
  • darparwyr gweithgareddau grŵp
  • pyllau nofio
  • stiwdios ioga a dawns
  • darparwyr chwaraeon awyr agored
  • canolfannau chwaraeon dŵr
  • cyfleusterau chwaraeon / aml-chwaraeon sy'n cael eu rhedeg yn breifat (er enghraifft; canolfannau tennis, cyfleusterau 5 bob ochr, traciau beicio, chwaraeon modur, golff dan do, golff pêl droed, canolfannau gymnasteg, canolfannau dringo, canolfannau / traciau marchogaeth ceffylau, gweithredwyr crefftau ymladd, gweithredwyr pysgota, gweithredwyr parciau sglefrio, rinciau iâ, cyfleusterau sboncen, canolfannau bocsio, saethu targedau, parciau trampolinio, lleoliadau snwcer)

 

Oes posib i mi wneud cais am Gronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon os yw fy sefydliad eisoes wedi derbyn Cyllid Cymru Actif neu Gymorth Mewn Argyfwng gan Chwaraeon Cymru?

Nac oes. Gan fod Cyllid Cymru Actif a Chymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru ar gyfer clybiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw, ni fyddai'r gronfa newydd hon, sydd ar gyfer darparwyr masnachol preifat, yn berthnasol i'ch sefydliad chi.

 

Pwy sydd ddim yn gymwys ar gyfer y gronfa?

Ni fydd Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yn gallu cefnogi darparwyr preifat yn y sector chwaraeon nad ydynt yn darparu gweithgareddau yn uniongyrchol (er enghraifft, busnesau fel ymgynghorydd chwaraeon; maethegydd chwaraeon; ffisiotherapydd chwaraeon; awdur chwaraeon; sylwebydd chwaraeon; ffotograffydd chwaraeon; dadansoddwr chwaraeon; ymgynghorydd busnes; busnesau iechyd, harddwch a lliw haul).

Hefyd nid yw'r gronfa wedi'i chynllunio i gefnogi sefydliadau, busnesau neu unigolion mewn sectorau ar wahân i chwaraeon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r sector Twristiaeth, y Celfyddydau, Diwylliant, Lletygarwch neu Ddigwyddiadau. Nid yw chwaith yn gallu cefnogi sefydliadau chwaraeon y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gan fod mecanweithiau eraill yn eu lle i gefnogi'r meysydd hyn yn y sector chwaraeon.

 

Sut mae gwneud cais am y cyllid?

Gellir cyflwyno ceisiadau am gyllid ar wefan Chwaraeon Cymru, gan ddefnyddio’r ddolen https://grants.sport.wales/en

Bydd angen i ymgeiswyr gofrestru ar gyfer cyfrif a chwblhau rhestr wirio cymhwysedd cyn y gallant lenwi ffurflen gais.  Bydd y broses rhestr wirio cymhwysedd yn didoli ymgeiswyr anghymwys yn gynnar ac yn osgoi gwaith diangen ar ran yr ymgeisydd. 

Os ydych chi wedi derbyn cyllid eisoes gan Chwaraeon Cymru ar gyfer clwb / sefydliad a bod gennych chi fanylion mewngofnodi eisoes ar gyfer ein Porthol Grantiau Ar-lein, bydd angen i chi ofyn am gael mynediad i ffurflen ar-lein Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon. I wneud hynny, e-bostiwch [javascript protected email address]gyda'ch enw, y cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r Porthol Grantiau Ar-lein ac enw'r clwb / sefydliad rydych chi’n ymwneud ag ef eisoes. Bydd Chwaraeon Cymru wedyn yn gallu rhoi mynediad i chi i ffurflen ar-lein Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon.  

 

Pryd gallaf wneud cais am y cyllid?

Bydd y gronfa’n agor i geisiadau am hanner dydd ar ddydd Mawrth 9fed Chwefror 2021 a bydd yn cau am 4pm ddydd Gwener 19eg Chwefror 2021.

Gall y rhai sy’n bwriadu gwneud cais gofrestru am gyfrif o ddydd Iau 4ydd Chwefror ymlaen drwy https://grants.sport.wales/en

 

Oes rhywle / rhywun ble gallaf gael help?

Dylai'r nodiadau cyfarwyddyd a'r Cwestiynau Cyffredin, sydd ar gael ar ein gwefan ni, ddarparu'r holl wybodaeth arall sydd arnoch ei hangen, ond mae croeso i chi gysylltu â ni hefyd ar un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch weld y cyfarwyddyd yma: https://www.chwaraeon.cymru/cronfa-darparwyr-preifat-y-sector-chwaraeon

 

Faint o gyllid y gallaf ei gael?

Mae swm y cyllid sydd ar gael i ddarparwr yn dibynnu ar ei drosiant blynyddol.  Ar gyfer darparwyr sydd â throsiant blynyddol sy’n llai na £50,000, gellid dyfarnu grant o £5000, ar yr amod bod y darparwr yn gallu dangos colled net o'r swm hwn o leiaf a bod yr holl elfennau cymhwysedd eraill wedi’u bodloni.

Ar gyfer darparwyr sydd â throsiant blynyddol o £50,000 neu fwy, gellid dyfarnu grant o £15,000, ar yr amod bod y darparwr yn gallu dangos colled net o'r swm hwn o leiaf a bod yr holl elfennau cymhwysedd eraill wedi’u bodloni.

 

Mae gan fy musnes sawl safle neu mae sawl rhan iddo, a fydd posib i mi dderbyn cyllid ar wahân ar gyfer pob un?

Na fydd. Er mwyn sicrhau bod cymaint o ddarparwyr â phosibl yn gallu elwa o’r cyllid, dim ond unwaith mae gweithredwyr sawl safle’n gallu ymgeisio ac ni allant wneud cais ar gyfer lleoliadau / swyddogaethau busnes unigol. 

 

Rydw i’n rhyddfraint, oes posib i mi hawlio ar wahân i’r rhyddfreiniwr?

Fel darparwr gweithgarwch, mae rhyddfraint yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn.  Ni fyddai rhyddfraint yn gymwys os nad yw’n darparu gweithgarwch yn uniongyrchol.

Dim ond un cais y gall un rhyddfraint ei wneud, dim ots faint o safleoedd neu ryddfreintiau sy’n cael eu dal.

Ydw i'n gallu gwneud cais am y grant hwn os ydw i'n unig fasnachwr? 

Ydych. Fodd bynnag, os ydych chi wedi derbyn cyllid blaenorol gan Chwaraeon Cymru ar gyfer colledion sy'n gysylltiedig â covid, bydd y swm a gafodd ei ddyfarnu'n flaenorol yn cael ei dynnu o'r swm a gaiff ei ddyfarnu drwy'r cynllun hwn.

Nid yw'r rhai sydd wedi derbyn Cyllid Cymru Actif neu Gyllid Cymorth Mewn Argyfwng yn gymwys i wneud cais i'r gronfa hon fel elusen neu sefydliadau nid-er-elw.

Rwy'n darparu cystadlaethau a digwyddiadau chwaraeon - ydw i'n gymwys?

Nid yw darparwyr digwyddiadau nodedig a phenodol, fel cystadlaethau (triathlonau, marathonau a threialon amser beicio er enghraifft) yn gymwys ar gyfer y gronfa hon.  Efallai y bydd opsiynau cyllido eraill ar gael drwy gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru.

Gallai busnesau sy'n darparu gweithgareddau rheolaidd, gan gynnwys y rhai a gynhelir mewn lleoliad neu gyfleuster nad yw'n eiddo i'r busnes hwnnw (fel gwersylloedd ymarfer), fod yn gymwys ar yr amod bod yr holl feini prawf eraill yn cael eu bodloni.

A fyddai fy musnes yn gymwys os wyf wedi derbyn ffurfiau eraill ar gyllid yn ystod y  pandemig?

Rydym yn cydnabod y bydd llawer o ddarparwyr wedi manteisio ar becynnau cefnogi eraill a gynigir mewn perthynas â phandemig y coronafeirws. Ni all y gronfa hon dalu'r costau hynny sydd wedi'u cefnogi'n flaenorol drwy gyllid grant COVID-19 arall gan gyrff cyhoeddus eraill, ond gallai dalu unrhyw gostau heb eu cefnogi gan gyllid o'r fath.

Bydd sefydliadau sydd wedi derbyn arian gan gorff cyhoeddus arall neu gyllid gwladol sy'n dod i gyfanswm o fwy nag 800,000 Ewro yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf yn anghymwys ar gyfer y cynllun hwn hefyd.

 

Sut byddaf yn gwybod bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus? 

Byddwn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr ac yn eu hysbysu am y penderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd yn eu cais erbyn 19eg Mawrth 2021.  

 

Pryd byddaf yn derbyn taliad?

Gwneir yr holl daliadau llwyddiannus erbyn 19 Mawrth 2021.

 

A fydd rhaid i mi dalu rhywfaint o’r cyllid yn ôl? 

Na fydd, nid benthyciad yw hwn ac ni fydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus dalu unrhyw ran o’r cyllid yn ôl.         

Fodd bynnag, dylai'r ymgeiswyr nodi y gall Chwaraeon Cymru ofyn am ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol os daw tystiolaeth i'r amlwg nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon.

 

Ar gyfer beth ellir defnyddio’r cyllid? 

Gellir defnyddio’r cyllid i gefnogi amrywiaeth o gostau gweithredu busnes ers mis Ebrill 2020 (ond heb fod yn gyfyngedig i hyn), fel a ganlyn:

Costau cyfleustodau

  • Rhent / trethi
  • Taliadau cyflog nad ydynt wedi'u hawlio drwy Gynllun Cadw Swyddi’r Coronafeirws
  • Taliadau prydlesu ar gyfer eitemau sy’n ofynnol i gyflawni anghenion busnes gweithredol (fel prydlesu offer ymarfer)
  • Gwariant arall sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chostau gweithredol y busnes e.e. costau glanhau, costau yn sgil cau cyfleusterau chwaraeon a'u hailagor
  • Costau datblygu staff
  • Costau i ddatblygu gwasanaethau, cyrsiau a gweithgareddau newydd
  • Gwella gallu digidol
  • Gwneud iawn am golli refeniw oherwydd COVID-19

 

Beth na all y cyllid ei gyllido?    

Mae’r gwariant a wnaed ers mis Ebrill 2020 sy’n anghymwys ar gyfer y gronfa hon yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:

  • Ad-daliadau benthyciadau busnes
  • Llog ar orddrafft yn y banc
  • Taliadau treth gorfforaeth
  • Taliadau cyflog sydd eisoes wedi'u hawlio drwy Gynllun Cadw Swyddi’r Coronafeirws
  • Taliadau bonws / difidend

 

Oes raid i’r cyllid gael ei wario o fewn cyfnod penodol o amser?

Nac oes, mae’r cyllid ar gyfer rhai o’r costau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf (Ebrill 20 – Mawrth 21).

 

Oes raid i mi brofi ar beth mae’r cyllid yn cael ei wario?

Fel rhan o'n diwydrwydd dyladwy wrth reoli arian cyhoeddus, rydym yn cadw'r hawl i fonitro ceisiadau llwyddiannus yn ariannol. Un o amodau'r grant yw eich bod yn cymryd rhan yn hyn, os cewch eich dewis, gan ymateb yn amserol i bob cais rhesymol am wybodaeth am sut mae'r grant wedi'i wario a'r effaith mae wedi'i chael.

 

Ydi’r grant yn drethadwy?

Ydi. Bydd rhaid i chi ei ddatgan fel incwm gan mai nod y gronfa yw cefnogi llif arian a chymryd lle incwm a gollwyd yn ystod Covid-19. 

 

A fydd cyfle arall i wneud cais i’r gronfa hon?

Dyma'r tro cyntaf i ni ddatblygu Cronfa ar gyfer darparwyr preifat sy'n darparu gweithgareddau yn uniongyrchol. Byddwn yn asesu'r defnydd o'r gronfa drwy gydol y cyfnod cyn gwneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol. Byddem yn annog unrhyw un sy'n gymwys i roi amser nawr i wneud cais.  

Gyda'r ansicrwydd ynghylch y pandemig a'r effaith barhaus mae'n ei chael ar y sector, byddwn wrth gwrs yn parhau i gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru dros gymorth pellach os bydd angen hynny. Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod y darparwyr hynny sy'n gymwys yn derbyn eu grant cyn gynted â phosibl.

 

Oes raid i mi fod yn aelod o gorff proffesiynol er mwyn bod yn gymwys am y cyllid hwn?

Nac oes, nid oes raid i chi fod yn aelod o gorff proffesiynol i fod yn gymwys am y cyllid hwn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o gyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r gronfa.               

 

Ydi’r gronfa hon ar gyfer y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn unig?

Nac ydi. I fod yn gymwys mae angen i chi ddangos bod y sefydliad yn gweithredu yng Nghymru gan ddarparu gweithgarwch sy'n digwydd ac sydd o fudd uniongyrchol i bobl yng Nghymru. Bydd angen i chi ddangos bod yr incwm net rydych chi wedi’i golli yn gysylltiedig â'r gweithgareddau hynny yng Nghymru.

 

Pam nad yw hyn yn digwydd yn Lloegr / yn y gwledydd cartref eraill?

Nid ydym yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn llawn ond rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am gyllid ychwanegol ar gyfer y sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru, ac bod modd defnyddio rhan o'r cyllid hwn i gefnogi'r rôl hanfodol mae llawer o ddarparwyr preifat yn ei chwarae wrth helpu i gadw'r genedl yn actif.

 

Sut ydych chi wedi penderfynu ar y symiau rydych chi’n eu dyfarnu?

Mae gennym adnoddau cyfyngedig ar gael i gefnogi'r sector chwaraeon yng Nghymru ac rydym eisiau gallu gwneud cyfraniad sy'n cefnogi cymaint o fusnesau â phosibl. Rydym hefyd yn cydnabod bod cefnogaeth ar gael o ffynonellau eraill ar lefel y DU ac yng Nghymru.

 

Rydw i wedi gwneud cais i’r Gronfa ond heb glywed unrhyw beth eto – ydi fy nghais yn iawn?

Mae’r ceisiadau'n cael eu prosesu a bydd aelod o'r tîm buddsoddiadau mewn cysylltiad ar e-bost os oes arno angen unrhyw wybodaeth ychwanegol. Fel arall, dylech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cais erbyn 19eg Mawrth.