Skip to main content

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon - Cwestiynau Cyffredin

  1. Hafan
  2. Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon - Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon?

Fel rhan o'r Pecyn Adfer Chwaraeon a Hamdden a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru i gefnogi sectorau chwaraeon a hamdden Cymru, mae £3m wedi'i glustnodi ar gyfer Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon.

Mae'r gronfa'n cynnig cyfraniad o £2,500 i weithwyr llawrydd a gweithwyr hunangyflogedig sy'n darparu gweithgarwch yn uniongyrchol yn y sector chwaraeon, i wneud iawn am golledion ariannol sydd wedi digwydd o ganlyniad i Covid-19.

Dyfernir cyllid drwy broses ymgeisio fer.

Ar gyfer pwy mae’r Gronfa?

Mae'r gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd a hunangyflogedig sy'n gweithredu yn y sector chwaraeon yng Nghymru ac nad ydynt wedi gallu cael cymorth ariannol gan gorff cyhoeddus neu daliad yswiriant yn flaenorol yn ystod pandemig Covid-19.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y canlynol:

• eu bod yn darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn uniongyrchol i gyfranogwyr yng Nghymru, 

• eu bod wedi colli o leiaf £2,500 o incwm o weithgareddau a fyddai wedi cael eu cynnal yng Nghymru ers mis Mawrth 2020 oherwydd bod contractau'n cael eu canslo neu gyfyngiadau'n atal eu gwaith

• ar wahân i gyllid o’r cynllun cymorth incwm hunangyflogedig, nad ydynt wedi derbyn cyllid arall sy'n gysylltiedig â Covid-19 gan gorff cyhoeddus arall.

Pa swyddogaethau ydych chi’n eu dosbarthu fel rhai sy’n cyflwyno cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn uniongyrchol?

Mae hyn yn cynnwys rôl sy'n cefnogi pobl yn uniongyrchol i fod yn actif, fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) hyfforddwr chwaraeon, hyfforddwr personol, hyfforddwr/ymarferydd mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau (ffitrwydd, ymarfer, cyfeirio at ymarfer, campfa, chwaraeon, gweithgarwch awyr agored, ymarfer i gerddoriaeth, ioga, pilates, dawns).  

Nid yw'n cynnwys gweithgareddau fel ymgynghorydd chwaraeon; maethegydd chwaraeon; ffisiotherapydd chwaraeon, awdur chwaraeon / sylwebydd / ffotograffydd / dadansoddwr; ymgynghorydd busnes; swyddog achub bywyd; cynorthwy-ydd hamdden.

Sut mae gwneud cais am gyllid?

Gellir gwneud cais am gyllid ar wefan Chwaraeon Cymru, gan ddilyn y ddolen isod 

https://www.chwaraeon.cymru/cronfa-darparwyr-preifat-y-sector-chwaraeon/

Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau rhestr wirio cymhwysedd cyn gallant lenwi ffurflen gais. Bydd proses y rhestr wirio cymhwysedd yn didoli ymgeiswyr anghymwys yn gynnar ac yn osgoi gwaith diangen ar ran yr ymgeisydd.

Os ydych chi wedi cael cyllid yn flaenorol gan Chwaraeon Cymru ar gyfer clwb / sefydliad a bod gennych chi fanylion mewngofnodi eisoes ar gyfer ein Porthol Grantiau Ar-lein, bydd angen i chi ofyn am fynediad i weld ffurflen ar-lein y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon.  I wneud hynny, anfonwch e-bost i [javascript protected email address] a nodwch eich enw, y cyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i'r Porthol Grantiau Ar-lein ac enw'r clwb / sefydliad rydych chi'n credu eich bod yn gysylltiedig ag ef eisoes.  Bydd Chwaraeon Cymru wedyn yn gallu rhoi mynediad i chi at ffurflen ar-lein y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon.

Pryd gallaf wneud cais am gyllid?

Bydd y gronfa ar agor i geisiadau am hanner dydd, dydd Iau 21 Ionawr a bydd yn cau am 5pm dydd Mercher 3ydd Chwefror.

Oes rhywle / rhywun y gallaf gael help ganddo?      

Dylai'r nodiadau cyfarwyddyd a’r Cwestiynau Cyffredin sydd ar gael ar ein gwefan ni ddarparu'r holl wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch, ond mae croeso i chi gysylltu â ni hefyd ar un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Canllawiau mynediad yma https://www.chwaraeon.cymru/cronfa-darparwyr-preifat-y-sector-chwaraeon/

Os yw’n well gennych chi lenwi’r ffurflen hon mewn fformat hygyrch arall, cysylltwch ar [javascript protected email address]. .  Cofiwch gynnwys eich enw a’r awdurdod lleol rydych yn byw a/neu’n gweithio ynddo, a bydd swyddog o Chwaraeon Anabledd Cymru yn cysylltu â chi. 

Sut byddaf yn gwybod bod fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Cysylltir â phob ymgeisydd i’w hysbysu am y penderfyniad yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynwyd yn eu cais cyn 22 Chwefror. 

Pryd byddaf yn derbyn taliad?

Bydd pawb sy’n llwyddiannus yn derbyn taliad erbyn 26 Chwefror.

Faint o arian gallaf ei gael?

Mae'r gronfa'n cynnig grant o £2,500 i bob ymgeisydd sy'n gallu profi eu bod yn gymwys.  Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys ar gael yma 

https://www.chwaraeon.cymru/cronfa-darparwyr-preifat-y-sector-chwaraeon/

Ydw i’n gymwys os ydw i wedi derbyn rhyw ffurf arall ar gyllid yn ystod y pandemig?

Rydych chi’n gymwys os ydych chi wedi derbyn cymorth gan y cynllun cymorth incwm hunangyflogedig.

Ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid os ydych chi wedi derbyn cyllid yn ddiweddar gan unrhyw ffurf arall ar gymorth ariannol sy'n gysylltiedig â COVID-19 gan unrhyw gorff cyhoeddus, gan gynnwys y Grant Sefydlu Busnes a rownd gyntaf y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon.     

Ni fyddwch yn gymwys chwaith os ydych chi wedi derbyn taliad yswiriant am golli incwm.

A fydd rhaid i mi dalu rhywfaint o’r cyllid yn ôl?

Na, nid benthyciad yw hwn, ni fyddai disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus ad-dalu unrhyw ran o'r cyllid.

Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr nodi y gall Chwaraeon Cymru ofyn am ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol os daw tystiolaeth i'r amlwg sy’n profi nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon.

Ar gyfer beth gellir defnyddio’r cyllid?

Mae’r cyllid ar gyfer darparu cyfraniad at golli enillion i weithwyr llawrydd a chyflogedig. Felly gellir ei ddefnyddio fel maent yn gweld yn dda i gefnogi eu costau byw cyffredinol.      

Oes raid i’r cyllid gael ei wario o fewn cyfnod penodol o amser?

Nac oes, y derbynnydd sydd i benderfynu sut a phryd mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio.

Oes raid i mi brofi ar beth mae’r cyllid wedi cael ei wario?          

Fel rhan o'n diwydrwydd dyladwy wrth reoli arian cyhoeddus, rydym yn cadw'r hawl i fonitro ceisiadau llwyddiannus yn ariannol. Un o amodau'r grant yw eich bod yn cymryd rhan yn hyn, os cewch eich dewis, gan ymateb yn brydlon i bob cais rhesymol am wybodaeth am sut mae'r grant wedi cael ei wario a'r effaith mae wedi'i chael.

Ydi’r grant yn drethadwy?

Ydi. Bydd rhaid i chi ei ddatgan fel incwm gan fod y gronfa’n cefnogi llif arian ac yn cymryd lle incwm sydd wedi’i golli oherwydd Covid-19.

A all sefydliadau preifat (sy'n cyflogi mwy nag un person) wneud cais am y gronfa hon neu a oes rhywbeth arall ar gael ar eu cyfer hwy?

Nid yw'r gronfa hon ar gyfer sefydliadau preifat, ond gall cynlluniau ariannu eraill y Llywodraeth, fel Cynllun Cadw Swyddi’r Coronafeirws, gefnogi'r busnesau hyn.

Byddwn yn agor Cronfa yn fuan sydd â’r nod o gefnogi darparwyr chwaraeon masnachol a byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth am y meini prawf cymhwyso a’r broses yn fuan ym mis Chwefror. 

A fydd cyfle arall i wneud cais i’r gronfa hon?                            

Hwn yw ail gam y Gronfa hon. Yn ystod y cam cyntaf, rhoddwyd blaenoriaeth gennym i weithwyr llawrydd oedd heb dderbyn unrhyw gefnogaeth ariannol a llwyddwyd i ddyfarnu cyllid i 346 o bobl. Rydym yn ymwybodol bod y meini prawf yn golygu bod llawer o unigolion eraill wedi methu ymgeisio gan eu bod eisoes wedi derbyn rhywfaint o gymorth ariannol. Rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau i’r meini prawf yn yr ail gam hwn yn galluogi i fwy o bobl ymgeisio. Byddem yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud amser nawr i ymgeisio.

Gyda'r ansicrwydd ynghylch y pandemig a'r effaith barhaus mae'n ei chael ar y sector, byddwn wrth gwrs yn parhau i gyflwyno’r achos i Lywodraeth Cymru dros gymorth pellach pe bai angen hynny. Nid oes unrhyw warant o gyfleoedd pellach i ymgeisio am y gronfa hon felly’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod y Gweithwyr Llawrydd hynny sy’n gymwys yn derbyn eu grant cyn gynted â phosib. 

Oes raid i mi fod yn aelod o gorff proffesiynol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid yma?

Na, nid oes raid i chi fod yn aelod o gorff proffesiynol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nifer o'r cyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r gronfa.

Ydi aelodaeth o CIMSPA yn un o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector ffitrwydd? 

Nid yw bod yn aelod o CIMSPA neu gorff arall yn faen prawf cymhwysedd ynddo'i hun. Fodd bynnag, mae Chwaraeon Cymru a CIMSPA wedi gweithio'n agos i sicrhau y dylid annog ymarferwyr CIMSPA, sy'n cyflwyno gweithgareddau'n uniongyrchol ac sydd wedi wynebu colled o £2,500 o ran enillion, i wneud cais.

Ydi’r gronfa hon ar gyfer y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn unig?

Nac ydi. I fod yn gymwys mae angen i chi ddangos eich bod yn darparu gweithgarwch sy'n digwydd ac sydd o fudd i bobl yng Nghymru. Bydd angen i chi ddangos bod eich enillion o £2,500 o leiaf yn gysylltiedig â'r gweithgareddau hynny yng Nghymru.

Pam nad yw hyn yn digwydd yn Lloegr/ yn y gwledydd cartref eraill? 

Ni allwn ateb y cwestiwn hwn yn llawn ond rydym yn hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am gyllid ychwanegol ar gyfer y sector chwaraeon a hamdden yng Nghymru, a bod posib defnyddio rhan o’r cyllid hwn i gefnogi’r rôl hanfodol mae llawer o unigolion llawrydd yn ei chwarae mewn helpu i gadw’r genedl yn actif. 

Rydw i wedi gwneud cais i’r Gronfa ond heb glywed unrhyw beth eto – ydi fy nghais i’n iawn? 

Mae’r ceisiadau’n cael eu prosesu ar hyn o bryd a bydd aelod o’r tîm buddsoddiadau’n cysylltu ar e-bost os bydd arno angen rhagor o wybodaeth. Fel arall, dylech dderbyn diweddariad am eich cais erbyn 26 chwefror. 

Pam ydych chi wedi gwneud newid i’r meini prawf y tro yma?                                      

Roedd Cam 1 y Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon yn ymwneud â chefnogi’r gweithwyr llawrydd oedd heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol yn ystod y pandemig ac roeddem yn falch o allu darparu cyllid i 346 o ymgeiswyr. Rydym yn cydnabod bod llawer mwy o weithwyr llawrydd yn wynebu anawsterau hefyd ac felly rydym wedi ehangu’r meini prawf mewn ymgais i gefnogi mwy fyth o bobl.

Yn ogystal, mae’r cyfyngiadau parhaus yn golygu bod hwn yn gyfnod heriol o hyd i’r sector ac i weithwyr llawrydd. Felly rydym wedi cynyddu’r swm sydd ar gael i bob ymgeisydd i £2500. Rydym wedi cysylltu â’r holl weithwyr llawrydd oedd yn llwyddiannus yng Ngham 1 i ddweud wrthynt bod swm ychwanegol o £1000 (yn amodol ar archwiliadau perthnasol) ar gael iddynt hwy hefyd. 

Pam ydych chi wedi cynyddu’r swm?

Mae’r cyfyngiadau parhaus yn golygu bod hwn yn gyfnod heriol o hyd i’r sector ac i weithwyr llawrydd. Felly rydym wedi cynyddu’r swm sydd ar gael i bob ymgeisydd i £2500. Rydym wedi cysylltu â’r holl weithwyr llawrydd oedd yn llwyddiannus yng Ngham 1 i ddweud wrthynt bod swm ychwanegol o £1000 (yn amodol ar archwiliadau perthnasol) ar gael iddynt hwy hefyd.

Beth am gam 1 – pam maen nhw wedi cael llai? 

Mae pob ymgeisydd llwyddiannus yn ystod Cam 1 wedi cael cynnig swm ychwanegol o £1000 (yn amodol ar archwiliadau priodol) sy’n golygu bod y swm maent yn ei gael yr un faint â’r swm sydd ar gael yng Ngham 2.

Faint o unigolion wnaethoch chi eu cefnogi yng Ngham 1?

Cefnogwyd 346 o ymgeiswyr yng Ngham 1 a chawsant eu cyllid erbyn 24ain Rhagfyr. Rydym yn ymwybodol bod llawer mwy o weithwyr llawrydd sy’n gweithredu yng Nghymru sydd angen cefnogaeth ac felly rydym wedi ehangu’r meini prawf nawr ein bod yn gwybod bod y rhai sydd eto i dderbyn unrhyw gymorth ariannol drwy gydol y pandemig wedi cael cyfle i ymgeisio.           

Ydw i’n cael ymgeisio eto?

Ni fydd unrhyw un a oedd yn llwyddiannus yn ystod Cam 1 yn gymwys i wneud cais am gyllid eto. Byddem yn cynghori’r rhai sydd eto i ymgeisio neu a oedd yn anghymwys yn ystod Cam 1 i edrych drwy’r rhestr wirio a gwneud cais os yw hynny’n briodol.

Dydw i ddim yn gymwys o hyd – a fydd cam 3 a fydd yn fy helpu i o bosib?

Rydym yn deall y bydd rhai pobl yn rhwystredig o hyd oherwydd y meini prawf presennol a byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos dros gefnogaeth ychwanegol i’r sector pan fydd hynny’n briodol.