Skip to main content

COVID-19: Cyfarwyddyd Hyfforddiant Corfforol

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. COVID-19: Cyfarwyddyd Hyfforddiant Corfforol

Gwybodaeth gyfarwyddyd ar gyfer hyfforddwyr ac athletwyr cyrff rheoli cenedlaethol.

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer hyfforddwyr ac athletwyr cyrff rheoli cenedlaethol gyda’r cyfarwyddyd yn cael ei rannu yn ddwy ran: 

  1. Addasu hyfforddiant yn ystod cyfyngiadau COVID-19
  2. Dychwelyd at hyfforddiant llawn ar ôl codi cyfyngiadau COVID-19

Nid canllaw yw’r ddogfen hon, ond dogfen gyfarwyddyd. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn seiliedig ar ‘farn arbenigol’ gan fod diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd am COVID-19. Felly bydd y cyfarwyddyd hwn yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd wrth i ni ddysgu mwy am COVID-19. Felly rydych yn cael eich cynghori i wirio’n rheolaidd am ddiweddariadau. 

Dylid defnyddio’r cyfarwyddyd hwn gan gadw’n llym at ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer y rhai sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael y symptomau hyn.

1. Addasu hyfforddiant  

Yn ystod y pandemig hwn mae’n bwysig ymarfer yn rheolaidd ar lefelau dwysedd cymedrol gan fod hyn yn rhoi hwb i’r swyddogaeth imiwnedd a gall helpu i leihau’r risg o salwch. Gall dwyseddau hyfforddi uchel, cyfnodau o hyfforddi dwys a hyfforddiant egnïol estynedig amharu ar y swyddogaeth imiwnedd, gan gynyddu’r risg o salwch. Mae hyn yn golygu nad dyma’r amser i wneud sesiynau hyfforddi caled neu hir. Y flaenoriaeth yw cynnal y lefelau ffitrwydd a chryfder presennol drwy gydol y cyfnod hwn, gan gynyddu’n raddol yn ôl i hyfforddiant llawn.

Argymhellion     

  • Peidiwch ag ymarfer os oes gennych chi unrhyw amheuaeth bod gennych chi symptomau coronafeirws
  • Rhaid cadw pellter cymdeithasol ym mhob agwedd ar eich hyfforddiant corfforol
  • Dylech leihau eich llwyth hyfforddi llawn oddeutu 10%. Mae’r llwyth hyfforddi’n cynnwys y dwysedd a’r hyd
  • Ni fyddai’n ddoeth cynyddu dwysedd neu hyd y sesiynau yn ystod y cyfnod hwn
  • Rhaid rheoli newidiadau yn yr hyfforddiant cyffredinol yn ofalus
  • Cynlluniwch wythnos adfer neu addasu bob 2il neu 3ydd wythnos yn y cylch hyfforddi

Mae adnoddau’r GIG a gofal iechyd preifat dan straen sylweddol ar hyn o bryd gan arwain at ailneilltuo llawer o’r gwasanaethau a ystyrir fel rhai rheolaidd fel rheol. O ystyried hyn, ein hargymhelliad yw eich bod yn gwneud addasiadau i sesiynau ac amgylcheddau hyfforddi, er mwyn lleihau’r risg bosib o anaf ac i leihau’r angen am ddefnyddio adnoddau gofal iechyd cyfyngedig.                 

2. Dychwelyd at hyfforddi ar ôl cyfyngiadau  COVID-19 

Nod y ddogfen hon yw cynorthwyo gyda chael aelodau i ddychwelyd at eu llwyth hyfforddi llawn wedi cyfnod o lai o hyfforddiant neu hyfforddiant wedi’i addasu. Drwy gyfrwng cynnydd graddol mewn hyfforddiant, yn seiliedig ar yr addasiadau hyfforddi cyfredol, bydd cyfle i bob aelod ddychwelyd at eu llwyth hyfforddi blaenorol yn y ffordd fwyaf effeithlon bosib a lleihau’r risg o anaf, salwch a rhagor o amser ddim yn hyfforddi.   

Ystyriaethau  

  • Bydd rhai athletwyr yn gallu dychwelyd at hyfforddiant ‘normal’ yn gynt nag eraill a bydd eraill yn cymryd mwy o amser         
  • Dylid defnyddio llwyth hyfforddi’r athletwyr cyn argyfwng COVID-19 fel y lefel rydych yn anelu at ddychwelyd ati               
  • Defnyddiwch eich dull mesur arferol o lwyth hyfforddi (e.e. pellter, amser hyfforddi, cyfradd y galon, ac ati)
  • Dylid defnyddio’r ymdrech ymddangosiadol mewn sesiynau hyfforddi a’r adfer/iechyd ar ôl hyfforddi er mwyn helpu i lywio cynnydd. Ymdrech ymddangosiadol yw sut rydych yn teimlo o ran pa mor anodd oedd sesiwn penodol ar y diwrnod hwnnw. 

Beth os nad wyf yn gallu ymarfer fel arfer?

Gall ychydig bach o hyfforddiant fod yn fuddiol. Mae ymchwil gwyddonol wedi dangos bod gwneud ychydig bach o hyfforddiant bob wythnos yn gallu lleihau’r dirywiad mewn cryfder a dygnedd aerobig yn fawr. Bydd parhau â rhywfaint o hyfforddiant hefyd yn helpu i gyflymu’r dychwelyd at hyfforddi llawn. 

Beth os nad wyf yn gallu ymarfer o gwbl? 

Peidiwch â chynhyrfu! Mae sawl esiampl wedi bod o athletwyr elitaidd yn peidio ag ymarfer am gyfnod hir o amser oherwydd beichiogrwydd, anafiadau neu gyfnodau gorffwys wedi’u cynllunio, ond eto maent yn dod yn ôl yr un mor gryf neu’n gryfach. Mae ymchwil wedi dangos hefyd, yn dilyn 8 wythnos o beidio â hyfforddi, y gallwch chi ddychwelyd at lefelau tebyg o ffitrwydd ar ôl 8 wythnos o ailhyfforddi. Mae’n bwysig dilyn cynnydd synhwyrol o ran llwyth hyfforddi yn ystod y cyfnod hwn, a dilyn arweiniad. 

Sut mae dychwelyd yn dilyn llwyth hyfforddi llai?   

Allwedd:

Coch = Cyfnod Dychwelyd Hir 

Oren = Cyfnod Dychwelyd Cymedrol 

Gwyrdd = Cyfnod Dychwelyd Byr  

Esiamplau Ymarferol 

Esiampl 1 

Os yw athletwr wedi methu gwneud unrhyw hyfforddiant (0%) am 8 wythnos bydd yn ofynnol i’r athletwr wneud 8 wythnos o hyfforddiant cynnyddrannol er mwyn dychwelyd at hyfforddiant llawn (lefelau hyfforddi cyn COVID-19) 

Esiampl 2

Os yw athletwr wedi bod yn hyfforddi am 8 wythnosond gyda llwyth is (40%), bydd yn ofynnol i’r athletwr wneud 5.8 wythnos o hyfforddiant cynnyddrannol er mwyn dychwelyd at hyfforddiant llawn (lefelau hyfforddi cyn COVID-19)

Esiampl 3 

Os yw athletwr wedi bod yn hyfforddi am 8 wythnosond gyda llwyth is (80%), bydd yn ofynnol i’r athletwr wneud 3.7 wythnos o hyfforddiant cynnyddrannol er mwyn dychwelyd at hyfforddiant llawn (lefelau hyfforddi cyn COVID-19).

Argymhellion ar gyfer cynnal màs y Cyhyrau, Cryfder a Phŵer gydag adnoddau cyfyngedig

  • Codi pwysau ysgafnach i bwynt gwaith methiant ewyllysiol i wella’r budd, ac atal colledion ym màs y cyhyrau 
  • Anelu am 3 sesiwn yr wythnos
  • Gellir cynyddu’r dwysedd os yw’r amledd a geisir yn llai 
  • Cynnydd mewn pŵer yn bosib gan ddefnyddio amrywiaeth ehangach o lwythi 
  • Gweithio gyda bwriad a ffocws – ansawdd gyda’r bwriad o godi mor ffrwydrol â phosib              

Cofiwch, rhaid gwneud y canlynol...

  • Cynllunio adferiad digonol drwy gydol y cyfnod hwn 
  • Monitro pob ffurf ar straen corfforol a seicogymdeithasol 
  • Anelu am >8 awr o gwsg bob nos          
  • Cynnal safonau hylendid uchel